Alice Ji

Mae Alice Xuan Ji, myfyriwr o Xiamen yn Tsieina, sy’n astudio yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, wedi cael ei henwebu am wobr y Llysgennad Twristiaeth Ifanc Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Bae Abertawe 2019

Mae gan Alice brofiad o'r diwydiant twristiaeth yn Tsieina ac roedd hi'n awyddus i astudio'r modiwl Rheoli a Marchnata Profiadau Twristiaeth wrth astudio am radd MSc mewn Marchnata Strategol yn Abertawe. Fel rhan o aseiniad am fodiwl, bu Alice yn gweithio'n agos gyda busnes twristiaeth lleol yn Abertawe, "Man Geni Dylan Thomas", ac arweiniodd hyn at leoliad gwaith gyda nhw dros semester yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, bu Alice yn gweithio fel ymchwilydd marchnata digidol i wella presenoldeb digidol y sefydliad a'i strategaeth marchnata gyffredinol er mwyn cynyddu niferoedd ymwelwyr. Roedd hyn yn cynnwys adolygu ac ehangu'r ystod o gynhyrchion ac, yn seiliedig ar ei gwaith caled a'i llwyddiant, penderfynodd y perchennog, Geoff Haden, gynnig gwaith i Alice ar ôl ei lleoliad gwaith.

Pan alwodd Twristiaeth Bae Abertawe am enwebiadau, enwebodd y darlithydd Dr Maggie Miller Alice am y categori "Llysgenhadon Twristiaeth Ifanc Gorau", gan ddweud,

'Rwyf mor falch o'r gwaith mae Alice wedi'i wneud. Mae ganddi agwedd wych at ei gwaith ac roedd hi bob amser yn awyddus i weithio gyda hanes lleol a diwylliant Man Geni Dylan Thomas, gan obeithio gwella niferoedd ymwelwyr a chreu effaith go iawn ar gyfer cwmni lleol.'

Cafodd Alice ei chynnwys ar y rhestr fer a'i gwahodd i seremoni wobrwyo ar 14 Tachwedd yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe. Aeth darlithwyr Twristiaeth, Dr Jenny Cave, yr Athro Sarah Nicholls a Dr Maggie Miller gydag Alice i'r digwyddiad.

Twristiaeth yn yr Ysgol Reolaeth

Mae twristiaeth yn un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, ac mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe'n cynnig y rhaglen canlynol ym maes rheolaeth twristiaeth:

BSc mewn Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol

Mae gan yr adran gysylltiadau cryf â'r sector, yn lleol ac yn fyd-eang, gan roi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o gyrchfannau twristiaeth o bob maint, yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, ledled y byd. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol allweddol, ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy i'w paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o gyd-destunau twristiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau, ewch i'r wefan, e-bostiwch astudio@abertawe.ac.uk neu ffoniwch 01792 295111.

Rhannu'r stori