Gan Beth Cummings, Darlithydd Marchnata

Mae newidiadau cyflym wedi bod yn y sector Marchnata yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae’n dal i ddatblygu yn sgîl cynnydd technolegol. Heddiw mae gofyn i farchnatwyr ymgymryd ag ystod o rolau, o feysydd arbenigedd unigol i fod yn greadigol, yn strategydd ac uwchlaw popeth yn blaenoriaethu’r cwsmer.

Fel swyddogaeth, mae Marchnata yn troi’n llais mwy grymus ar lefel y bwrdd, wrth i sefydliadau werthfawrogi gwerth ymgysylltu â chwsmeriaid, gan feithrin ffyddlondeb a chreu eiriolwyr - mae sefydliadau nid-er-elw a chyhoeddus hyd yn oed yn manteisio ar bŵer marchnata effeithiol er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd. Mae’r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ddiweddar gan lywodraeth y DU a lansiwyd yn ystod y pandemig yn enghraifft o ddefnyddio marchnata er mwyn dylanwadu ar ymddygiad. Defnyddiodd yr ymgyrch sianeli ar-lein ac all-lein gan ddefnyddio cyfryngau print, cymdeithasol a’r rhai awyr agored.

Yn eu hadroddiad diweddaraf sy’n meincnodi sgiliau digidol, gwnaeth y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) a’r asiantaeth ddigidol Target Internet adnabod yr angen cynyddol i ddatblygu sgiliau digidol yn ystod yr adegau hyn sy’n newid yn gyflym. Wrth i’n byd digidol barhau i gynyddu, mae’n rhaid i farchnatwyr feithrin sgiliau er mwyn deall taith y cwsmer ar-lein ac all-lein. Mae adnabod sianeli marchnata allweddol, a datblygu ymgyrchoedd ar-lein/all-lein integredig yn hanfodol i’r rôl marchnata craidd. Hefyd mae strategaeth a gwaith mesur yn parhau i fod yn ofynion hanfodol ar draws pob sector.

Mae datblygiad proffesiynol a gwella sgiliau mewn meysydd arbenigol fel Optimeiddio Peiriannau Chwilio, defnyddioldeb a’r cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol er mwyn bod ar flaen y gad ac aros yn gystadleuol. Gwnaeth yr ymchwil adnabod pwysigrwydd parhau i ddatblygu’r sgiliau hyn ar bob lefel yn y sefydliad, gyda thystiolaeth o fwlch sgiliau digidol ar y lefel ganolog/uwch.

Yn fwyfwy mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sydd â’r ystod a’r dyfnder o ran eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, ac sy’n barod i ychwanegu gwerth i’w busnes. Mae marchnata yn ddisgyblaeth amrywiol gyda swyddi sy’n amrywio o gyfathrebu i graffu, marchnata cynnwys i brofiad y cwsmer, a marchnata’r dylanwadwr i optimeiddio digidol, gan enwi dim ond ychydig ohonynt! Mae’r gallu i addasu a bod yn ystwyth yn yr amgylchedd hwn yn hanfodol.

Mae’r MSc mewn Marchnata Strategol a’r MSc mewn Rheoli (Marchnata) ym Mhrifysgol Abertawe’n datblygu sgiliau uwch mewn marchnata a strategaeth, gyda dealltwriaeth feirniadol o’r materion a’r heriau cyfredol. Mae’r ddwy raglen yn rhan o gynllun Gradd wedi’i achredu gan y CIM sy’n rhoi eithriad i fyfyrwyr rhag sefyll cymwysterau proffesiynol y CIM. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr yn cael cyfle i gwblhau eu cymwysterau proffesiynol yn gyflymach ac yn rhatach.

Ac felly, yn ystod yr adegau ansicr hyn, mae’r rheiny sy’n buddsoddi yn eu brand personol ac yn parhau i ddatblygu eu sgiliau yn sicr o elwa.

Ysgrifennwyd y Blog gan: Beth Cummings, Darlithydd Marchnata
Dyddiad cyhoeddi: 26/06/2020