Gan Jon Daniels, Cyfarwyddwr Rygbi y Scarlets

Bron 30 o flynyddoedd yn ôl, gadewais fro fy mebyd, Llanelli, i astudio cwrs gradd BA(Anrh.) mewn Astudiaethau Chwaraeon a Symudedd Dynol sydd bellach yn Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ac mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oedd gennyf unrhyw syniad o ran pa lwybr gyrfa y byddwn i’n ei ddilyn nac ychwaith y twf enfawr y byddai’r byd chwaraeon yn ei brofi.

Erbyn hyn, mae Chwaraeon yn ddiwydiant sy’n werth aml-filiynau o bunnoedd yn y Deyrnas Unedig gan gyflogi degau ar filoedd o bobl ond, yn bwysicach, ac yn weddol unigryw, y mae wrth galon ein cymunedau. Yn aml, y caiff ei ddefnyddio fel cerbyd ar gyfer mynd i’r afael â heriau cymdeithasol megis iechyd corfforol ac iechyd meddwl, cynhwysiant cymdeithasol, amrywiaeth, a chyflogaeth.

Er gwaethaf graddfa anferth y byd chwaraeon a’i arwyddocâd yn y gymdeithas, yn ystod fy nghyfnod yn y diwydiant mae’r cyfleoedd i gael mynediad at addysg o safon uchel a arweinir gan ddiwydiant wedi bod ar ei hôl hi o’i chymharu â’r twf cyflymach  a brofwyd yn y byd chwaraeon ond mae’n bleser gennyf ddweud bod hyn yn newid.

Jon Daniels

Cyfarwyddwr Rygbi y Scarlets

Jon Daniels smiling to camera

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, cofrestrais ar gwrs gradd Meistr mewn Cyfarwyddiaeth Chwaraeon a oedd yn gydweithrediad rhwng VSI Executive Education a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion a oedd yn hynod  wobrwyol a defnyddiol i mi. Rhoddodd y cwrs gyfle i mi brofi fy nysgu arbrofol trwy gymhwyso manwl gywirdeb academaidd a hefyd i wrando ac i rannu syniadau gyda rhai o’r ffigyrau mwy cyfoes ym myd arweinyddiaeth a chwaraeon.

Rwy’n cofio rhoi anerchiad cyweirnod gerbron grŵp o arweinwyr ym maes addysg lle siaradais am y ffaith mai ein hawydd i  ddysgu sy’n ein gwahaniaethu ni fel bodau dynol. Nid yw hynny’n golygu mai ni yw’r unig rywogaeth sy’n meddu ar y gallu i ddysgu ond, ar y cyfan, mae’n glir bod ein safle ar y blaned hon yn ymwneud â’n hawydd i ddysgu a’n gallu i addasu.

Byddai rhai yn dweud, ac yn berffaith gywir, bod agweddau gwaethaf ein cyfraniad ar y ddaear yn ymwneud â’r ffaith ein bod yn gwrthod dysgu ac addasu ond cedwir y drafodaeth honno ar gyfer fforwm arall. Fy mhwynt yw ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw herio eich hun yn barhaus er mwyn bod yn barod ar gyfer heriau byd yfory.

Mae angen pobl sy’n meddu ar y set sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad perthnasol ar y diwydiant chwaraeon er mwyn gallu ymdopi â’r  heriau rydym yn eu hwynebu felly byddwn i’n annog unrhyw un sy’n dyheu am fod yn rheolwr neu’n arweinydd ym myd chwaraeon i ymrwymo i ddatblygu’r tri ohonynt – set sgiliau, gwybodaeth a phrofiad. Os gallwch chi gydweddu’r tri pheth hyn gyda’r agwedd gywir yna byddwch chi’n ased yn y diwydiant chwaraeon a byddwch chi’n mwynhau gyrfa heriol ond hynod  wobrwyol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn Rheoli Chwaraeon mae ein rhaglen radd MSc mewn Rheoli (Chwaraeon) yn berffaith i chi. Mae’n archwilio amrywiaeth helaeth o brif bynciau sy’n hanfodol er mwyn dod yn rheolwr llwyddiannus yn y diwydiant cyffrous.

Mae’r rhaglen radd ar agor i unigolion sy’n meddu ar radd 2:2 neu’n uwch mewn unrhyw bwnc gradd israddedig a gallwch chi gofrestru ym mis Medi 2021 neu ym mis Medi 2022.

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/01/2021