Ysgrifennwyd gan Kieran Gregory, myfyriwr Economeg gyda blwyddyn mewn diwydiant

Fel myfyriwr, mae llawer o benderfyniadau i'w gwneud wrth benderfynu ar y llwybr gyrfa gorau a'r ffordd orau o gyrraedd yno.Gall gwneud y penderfyniadau hyn fod yn heriol ac mae cael rhywun cefnogol i gynnig arweiniad a chyngor yn ased amhrisiadwy.

Am bron tair blynedd, rwyf wedi cael mentor sydd wedi fy nghefnogi i o'r chweched dosbarth i'r Brifysgol. Ar ôl ymuno â Rhaglen Gweithwyr Proffesiynol Uchelgeisiol y Sefydliad Symudedd Cymdeithasol, cefais fentor a oedd yn gweithio yn fy maes gyrfaol o ddiddordeb (cyllid). Roedd y rhaglen i fod i bara blwyddyn ond cefais gymaint o gymorth o'r berthynas fel y gwnes i barhau i aros mewn cysylltiad.

Dysgais fwy am rôl fy mentor mewn cwmni buddsoddi, Castlefield Investments, a chefais fewnwelediad amhrisiadwy i'r sector buddsoddi. Cefais y cyfle i rwydweithio â gweithwyr eraill yn y cwmni a dysgu am rolau yn yr adrannau amrywiol.

Rhai o uchafbwyntiau'r berthynas fentora hyd yn hyn yw mynd i ddigwyddiad ar y pwnc diwygiadau i Gôd Llywodraethu Corfforaethol y DU gan y Cyngor Adrodd Ariannol, mynd i gyfarfod gyda Phrif Economegydd ar y pwnc marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg a rhagolygon economaidd; a thrafod awgrymiadau ar gyfer cyfweliad fideo gydag aelod o'r adran AD.

Ond eto, y rhan orau am gael mentor yw gallu trafod cwestiynau neu ofyn am gyngor pan fydd gwneud penderfyniad yn heriol. Mae cael mentor i gynnig safbwynt diduedd a gonest am fy mhenderfyniadau heriol, megis pa fodiwlau i'w dewis yn y brifysgol, yn aml yn fy helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus.

Ers cael mentor, rwyf yn fwy hyderus wrth wneud penderfyniadau o ganlyniad i’w gymorth a'i brofiad. Rwyf hefyd wedi cael cyfleoedd i rwydweithio ymhlith gweithwyr proffesiynol eraill a dysgu am bwysigrwydd meithrin rhwydwaith eang, rhywbeth rwy’n parhau i'w wneud. Trwy gydol fy mhrofiadau, rwyf wedi gallu cymhwyso'r hyn rwyf wedi'i ddysgu i weithio tuag at fy nhargedau gyrfa a gweithio tuag at fy ngradd ym Mhrifysgol Abertawe.

Byddwn yn argymell yn gryf, os nad oes gan fyfyrwyr fentor ar hyn o bryd, i gysylltu â'ch rhwydwaith a meithrin perthynas â gweithiwr proffesiynol ym maes diddordeb eich gyrfa. Mae LinkedIn yn llwyfan rhwydweithio gwych; cymerwch ran yn eich rhwydwaith presennol, neu cysylltwch â phobl newydd. Bydd cyflwyniad cyfeillgar a dangos diddordeb rhagweithiol, go iawn, yn dal sylw gweithwyr proffesiynol, a gallwch geisio meithrin perthynas fentora hir dymor â nhw.

Mae'r Ysgol Reolaeth hefyd yn cynnig Cynllun Mentora Cyflogadwyedd sy'n gyfle gwych i ennill profiad bywyd go iawn gan weithiwr proffesiynol sy'n gallu helpu i'ch tywys o'r Brifysgol i gyflogaeth i raddedigion.

Ysgrifennwyd y Blog gan: Kieran Gregory, myfyriwr Economeg gyda blwyddyn mewn diwydiant
Dyddiad cyhoeddi: 11/06/2020