Ysgrifennwyd y Blog gan: Dr Paul G. Davies, Cyfarwyddwr y Rhaglen MBA.

Rwyf wedi cael y pleser o sgwrsio â llawer o fyfyrwyr yn ystod y blynyddoedd rwyf wedi addysgu ar gyrsiau MBA a'u rheoli.  Yn aml, agwedd ddiddorol ar y sgyrsiau hyn yw rhesymau'r myfyrwyr dros astudio, yn enwedig ar gyrsiau rhan-amser.  Mae'n anochel y bydd amrywiaeth o resymau sy'n adlewyrchu natur amrywiol uchelgeisiau a phrofiad myfyrwyr.  Yn y blog hwn, rwyf wedi myfyrio ar ychydig o'r enghreifftiau cyffredin, er nad yw’n rhestr gyflawn..

Mae'r cyfle i feithrin sgiliau newydd a dysgu yn gyfle gwerthfawr, ac mae llawer o fyfyrwyr rwyf wedi siarad â nhw wedi awgrymu mai dyna brif reswm dros ddewis MBA.  Mae natur y cwrs yn darparu lle i archwilio'r ffordd strategol y mae sefydliadau yn gweithio, a gellir cymhwyso hyn i'ch sefydliad chi yn ogystal â meithrin dealltwriaeth ehangach o agweddau ar ymarfer rheoli.  Yn Abertawe, rydym ni'n ceisio cymhwyso damcaniaeth ac enghreifftiau i'ch amgylchedd, drwy drafodaethau ac mewn asesiadau yn aml.  Er enghraifft, mae prosiect terfynol y cwrs yn cynnig cyfle i archwilio problem rheoli yn eich sefydliad er mwyn pennu argymhellion i weithredu arnynt yn y dyfodol.

Rwyf wedi mwynhau'r profiad o weithio gyda llawer o fyfyrwyr y mae eu llwybr gyrfaol wedi'u harwain i ffwrdd o feysydd arbenigedd wrth iddynt dderbyn mwy o rolau rheoli.  Mae'r awydd i ddysgu am feysydd newydd a oedd yn rhan o'u profiad gwaith yn fwyfwy yn enghraifft gadarn o'r ffordd y mae ein gyrfaoedd yn datblygu ac mae dysgu'n cefnogi'r newidiadau hyn.

Mae'r hyder a'r sgiliau sy'n deillio o feddwl am - ac archwilio - safbwyntiau amrywiol ynghylch pynciau o Arweinyddiaeth i Strategaeth yn atseinio yn y gweithle.  Mewn llawer o ffyrdd, mae cael lle i astudio rheolaeth a myfyrio ar eich profiadau chi a phrofiadau cyd-fyfyrwyr, yn sylweddol.  Fel strategydd, un o'm rhwystrau o ran sefydliadau yw'r diffyg lle i fyfyrio ar pam a sut rydym ni'n gweithredu yn y ffordd yr ydym ni.

Gwnaeth myfyriwr sylwi un tro ar y ffordd yr oedd yn teimlo bod modd iddo ofyn cwestiynau mwy beirniadol i ymgynghorydd, a'r golwg nerfus yn llygaid yr ymgynghorydd pan sylweddolodd fod y person hwn yn gwybod ei bethau ac nid oedd yn mynd i gael ei dwyllo gan y jargon.  Roedd y wên ar yr un pryd â'r stori yn dweud llawer am y ffordd yr oedd astudiaethau MBA wedi magu hunansicrwydd, ac mewn llawer o ffyrdd roeddent wedi datgloi galluoedd a oedd yn aros i gael eu rhyddhau.

Ffactor sylweddol i fyfyrwyr ar raglen ran-amser yw'r gallu i reoli eu hastudiaethau yn hyblyg ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith a theulu.  Yn bendant, mae hyn wedi bod yn brif ystyriaeth wrth ddatblygu'r patrwm cyflwyno hyblyg sydd wrth wraidd MBA Hyblyg Abertawe.  Mae defnyddio model cyfunol yn ein galluogi i gyfuno'r trafodaethau wyneb-yn-wyneb hanfodol â'r deunyddiau ar-lein sy'n galluogi ffordd fwy hyblyg i fyfyrwyr astudio. 

Dysgwch ragor am sut mae cwrs MBA rhan-amser hyblyg Abertawe wedi'i ddylunio.


Dyddiad cyhoeddi: 11/05/2021