Gan Dr Simon Brooks, Athro Cysylltiol yn yr Ysgol Reolaeth

Ni allai fod adeg fwy addas i fod yn siarad am wytnwch.

Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu bod angen gwytnwch ar unigolion, ar y gymdeithas ac ar sefydliadau. Ar yr un pryd, mae’r gair ‘cyd’ yn ymddangos ym mhobman, ar arwyddion a sticeri, gan ddweud wrthym ein bod ni “i gyd yn rhan ohono” a phethau tebyg.Mae’r goblygiad bod gwytnwch yn gysylltiedig ag agosatrwydd fel hyn yn gwneud i mi fyfyrio nad oes lle amlycaf na maes darparu iechyd a gofal o ran yr angen am y ddwy rinwedd hyn.

Rwy’n rhan o dîm o academyddion ac ymarferwyr sy’n archwilio pwysigrwydd ‘agosatrwydd’ ar ffurf cydweithredu rhwng diwydiant gwyddor bywyd a’r sector cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal.Rydym ni wedi ceisio deall yr amgylchiadau sydd eu hangen er mwyn cydweithredu’n effeithiol, yn ogystal â dechrau archwilio’r ffordd orau o reoli’r broses hon.

Yn amlwg, nid yw’r syniad o bartneriaethau rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat yn rhywbeth newydd, ond ffocws allweddol ein gwaith yw rhoi derbynnydd y gofal wrth wraidd hafaliad y ‘gwerth’. Bydd rhywun sydd wedi astudio rheolaeth yn gyfarwydd â pha mor ganolog yw gwerth mewn strategaeth.Yn y 1980au, tynnodd Michael Porter o Ysgol Fusnes Harvard sylw at bwysigrwydd ychwanegu gwerth at gwsmeriaid eich nwyddau a’ch gwasanaethau, yn ogystal â chael gwerth ar ffurf elw ar gyfer eich cwmni.Yn ddiweddarach, datblygodd ef y syniad o ‘greu gwerth a rennir’ rhwng y sector preifat a’r gymdeithas, yn ogystal â chanolbwyntio’n benodol ar ddarparu gwasanaethau Iechyd a Gofal er mwyn cyflwyno’r syniad o ‘Iechyd a Gofal ar sail Gwerthoedd’.

Felly, os dylai cydweithredu weithio er mwyn cynyddu gwytnwch wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal, a gwneud y gorau o’r gwerth ar gyfer cleifion, mae’n rhaid inni fynd i’r afael â dau gwestiwn cyffredin.Yn gyntaf, pa sylfeini sydd eu hangen, ac yn ail, beth yw’r egwyddorion a rennir y dylid rheoli’r cydweithredu yn unol â nhw?

Mae archwiliad manwl o ymchwil i Iechyd a Gofal ar sail Gwerthoedd yn dangos y dylai pum amod arweiniol gyd-gysylltiedig fod yn bresennol.

Yn gyntaf, dylai’r cydweithredu fod yn wirioneddol amlddisgyblaethol, lle defnyddir yr holl wybodaeth a gwerth y gall rhanddeiliaid eu cynnig.

Yn ail, mae isadeiledd technolegol cadarn ar gyfer casglu, storio a rhannu gwybodaeth yn hanfodol.

Yn drydydd, rhaid mesur y pethau cywir sy’n cyfrannu at werth;canlyniadau a adroddir gan gleifion ochr yn ochr â chost y gofal.

Yn bedwerydd, mae angen inni ddeall y cylch llawn o ofal er mwyn cael darlun cyfannol (yn hytrach nag un sy’n rhanedig).

Yn olaf, mae angen modelau ariannol arloesol sy’n annog natur ganolog gwerth i gleifion ar gyfer yr holl randdeiliaid.

Er mwyn mynd i’r afael â’r ateb i’n hail gwestiwn, gwnaethom ystyried beth sydd wrth wraidd gwytnwch a dod i’r casgliad bod cyfaddaster yn allweddol.Fodd bynnag, nid yw cyfaddasu’n gallu golygu ‘chwythu gyda’r gwynt’ yn unig, felly yr hyn sydd ei angen yw ffurf o’r hyn mae’r academydd o INSEAD Yves Doz yn ei alw’n ‘ystwythder strategol’. Yn fras, y diffiniad o hwn yw cynnal cenhadaeth gyfan neu gyfeiriad strategol, wrth gadw’n ddigon ‘chwim eich troed’ ar yr un pryd er mwyn ymateb i newidiadau annisgwyl.

Er mwyn i gydweithredu fod yn gynaliadwy ac yn wydn, mae angen ei drefnu yn unol â thair egwyddor sy’n ategu ystwythder strategol.

Yn gyntaf, dylai pob cydweithredwr aros yn sensitif yn strategol ac yn wyliadwrus am amgylchiadau sy’n newid, a datblygu sianelau cyfathrebu er mwyn deall y newidiadau hyn.

Yn ail, mae angen ymroddiad i weithredu ar y cyd, gan osgoi rhwng cydweithredwyr ystyriaethau ‘ennill neu golli’ sy’n wleidyddol ac yn hunanol ac sy’n mynd i beryglu gohirio penderfyniadau.

Yn olaf, mae llyfnder adnoddau yn hanfodol, yn ariannol ond hefyd o ran trefnu staff, rhannu gwybodaeth ac ad-drefnu isadeiledd.

Mae ein papur arfaethedig (Rees at al, 2020) ynghylch ‘Transforming Government, People, Policy and Process’ yn cyflwyno’r syniadau hyn yn fanylach, ond ein prif neges i wneuthurwyr polisi a’r rheini sydd â’r dasg o weithredu yw bod gwerth i’r claf yn ganolog.Fodd bynnag, er mwyn cyflawni’r ffocws hwn bydd angen sefydlu a rheoli gwaith cydweithredu effeithiol, ar sail nifer o amodau ategol.

Ond yn ei hanfod, fel mae Covid-19 wedi dangos inni, bydd gweithredu a chynnal y gwaith cydweithredu hwn yn dibynnu ar gyfaddaster er mwyn sicrhau gwytnwch hirdymor.

Ysgrifennwyd y Blog gan: Dr Simon Brooks, Athro Cysylltiol yn yr Ysgol Reolaeth
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2020