Ysgrifennwyd gan Sophie Mahoney, myfyrwraig Rheoli Busnes

Shwmae bawb!

Ble bynnag rydych chi yn y byd, gobeithio eich bod yn cadw’n iach ac yn ddiogel!

Sophie ydw i, rwyf newydd gwblhau fy ail flwyddyn fel myfyrwraig Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe. Nid oeddwn erioed yn meddwl y byddai pandemig byd-eang yn digwydd hanner ffordd trwy fy ngradd, ac o ganlyniad byddai’r holl ddarlithoedd wyneb-yn-wyneb yn cael eu gohirio a’u symud i blatfformau ar-lein. Ar y cychwyn roeddwn yn meddwl y byddai hyn yn anodd oherwydd fy mod yn methu cwrdd â darlithwyr er mwyn trafod ymholiadau ynglŷn â’m gwaith cwrs. Serch hynny, nid oedd sail i’m pryderon o gwbl, gan fy mod i’n gallu cysylltu â nhw trwy e-bost neu gyfarfodydd Zoom, a goresgyn unrhyw rwystrau wrth gwblhau fy aseiniadau. Er ei bod yn wahanol i fod mewn darlithfa, roedd myfyrwyr yn derbyn yr un safon o addysgu trwy blatfformau ar-lein.

Dysgais yn gynnar yn y cyfnod ynysu fod gennyf ychydig o amser rhydd yn ystod y dydd, felly penderfynais nad oedd amser gwell ar gyfer dysgu sgil newydd. Ar ôl tipyn o feddwl, penderfynais y dylwn ddysgu rhywbeth rwyf bob amser wedi ymddiddori ynddo ond nid oedd gennyf amser i ganolbwyntio arno’n llawn; dewisais Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gan fy mod yn wastad wedi ymddiddori yn y cysyniad o gyfathrebu â rhywun gan ystumiau dwylo a golygon wyneb yn unig. Gwnes i gofrestru am gwrs cyflwyno ar wefan BSL, a oedd yn cynnig 9 gwers wahanol ac un asesiad terfynol. Mae’r cwrs yn cynnwys testunau gan gynnwys yr wyddor a rhifau, cyflwyno’ch hun, trafod teulu a ffrindiau, addysg a gwaith, teithio a sut i arwyddo mewn amserau gwahanol. Mae’r cwrs wedi rhoi imi sail gadarn y byddaf yn gallu ei defnyddio er mwyn datblygu fy sgiliau yn y maes hwn ac rwyf wir yn edrych ymlaen at wneud cynnydd tuag at y lefelau nesaf. Yn ogystal â dysgu BSL, penderfynais fod hon yn adeg wych i wella fy Nghymraeg - gwnes i gwblhau TGAU Cymraeg Ail Iaith ond nid wyf wedi defnyddio’r iaith llawer yn y 4 blynedd diwethaf felly roeddwn yn meddwl am brofi fy nghof gan ddefnyddio cyrsiau ar-lein di-dâl a Duolingo.

Wrth ddechrau’r cyrsiau BSL a Chymraeg, lluniais amserlen er mwyn trefnu fy niwrnod; gwnes i gynllunio popeth mewn cyfnodau o awr, a neilltuo ychydig o oriau bob dydd er mwyn ymlacio. Os byddwn yn defnyddio’r amser hwn i ddarllen, pobi, siarad â ffrindiau neu ddim ond i wylio rhywbeth ar Disney+, roeddwn yn gweld bod hyn wir yn helpu i dorri’r diwrnod ac yn fy ngalluogi i ymlacio fy ymennydd, gan greu’r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith gartref.

Wedi dweud hynny, rwyf yn credu bod y cydbwysedd hwn rhwng bywyd a gwaith wedi bod o fudd mawr imi gan fy mod wedi dechrau lleoliad gwaith ar gyfer yr haf yn ddiweddar, gan weithio o bell i Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe fel Creadwr/Golygydd Cynnwys Cyflogadwyedd. Mae fy swydd yn cynnwys creu cynnwys gafaelgar a diddorol sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd ar gyfer y Cylchgrawn Cyflogadwyedd sy’n cael ei ddosbarthu i fyfyrwyr Peirianneg a Gwyddorau Chwaraeon, creu ymgyrchoedd yn y cyfryngau cymdeithasol gyda’r Tîm Cyn-fyfyrwyr a chynorthwyo wrth adolygu a diweddaru adnoddau a deunydd y tîm ynghylch cyflogadwyedd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Roeddwn yn teimlo bod dilyn y broses ymgeisio yn gyfan gwbl ar-lein yn fwy heriol nag arfer, ond pan gyrhaeddais y cyfweliad terfynol, cymerais yr un ymagwedd at y cyfarfod fideo â byddwn i wedi’i chymryd ar gyfer cyfweliad arferol - ‘bydd yn naturiol, ‘na gyd’.

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd i bawb, ond gall pethau dim ond wella bellach. Byddwn ni i gyd yn gwneud pethau’n wahanol o hyn ymlaen, ond rwyf wedi dysgu na all y sefyllfa bresennol ein hatal rhag dysgu sgiliau newydd a gwella’n gwybodaeth.

Ysgrifennwyd y Blog gan: Sophie Mahoney
Dyddiad cyhoeddi: 16/06/2020