Gan fyfyriwr BSc mewn Economeg a Chyllid y flwyddyn gyntaf, Latika Sivaji

Latika ydw i ac rwy'n fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn astudio Economeg a Chyllid sy'n gobeithio gweithio yn y Gwasanaethau Ariannol neu Fancio yn y dyfodol. Fel myfyrwyr eraill, roeddwn yn edrych ymlaen at fy ail semester yn Abertawe, ond torrwyd hwn yn fyr oherwydd pandemig Covid-19. Mae Covid-19 wedi newid y ffordd rydym yn byw'n sylweddol mewn cyfnod byr o amser ac wedi effeithio ar sawl agwedd ar ein bywydau. Un o ganlyniadau hyn oedd peidio ag ennill profiad gwaith dros wyliau'r haf.

Fy nghynllun dros yr haf oedd archwilio llwybrau gyrfa gwahanol drwy gael profiad gwaith mewn sectorau gwahanol, ond nid oedd hyn yn bosib. Gwnaeth rhai cyflogwyr eu digwyddiadau gyrfaoedd a diwrnodau mewnwelediad yn rhai rhithwir, ond roedd hi'n dal i fod yn anodd i fyfyrwyr gael mynediad at gyfleoedd. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, des o hyd i Internship Experience UK (IEUK) gyda Bright Network ar dudalen Facebook gyrfaoedd yr Ysgol Reolaeth.

Roedd Internship Experience UK yn apelio ataf gan ei fod yn gyfle i fyfyrwyr ennill profiad gwaith gyda chyflogwyr sy'n arwain y byd megis JP Morgan a Goldman Sachs er gwaethaf y pandemig; gan alluogi myfyrwyr i archwilio llwybrau gyrfa gwahanol o gysur eu cartrefi.

Bu hyn yn fanteisiol i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf fel fi gan fy mod wedi cael gwell dealltwriaeth o'r diwydiannau gwahanol yn gyffredinol, a chwmnïau unigol. Cymerais ran yn yr Interniaeth Bancio Buddsoddi a Gwasanaethau Proffesiynol a Chyllid a oedd yn ddwy o'r interniaethau a oedd ar gael ar draws chwe sector (Bancio Buddsoddi, technoleg, gweithrediadau busnes a marchnata, Cyllid a gwasanaethau proffesiynol, ymgynghori a'r gyfraith). Roedd yr Interniaeth Bancio Buddsoddi o ddiddordeb mawr i mi oherwydd bod bancio buddsoddi'n ddiwydiant anodd iawn cael mynediad iddo oherwydd ei natur hynod gystadleuol. Serch hynny, cafodd myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol gyfle drwy Internship Experience UK i archwilio'r diwydiant ac ennill sgiliau a gwybodaeth er mwyn cael gyrfa lwyddiannus mewn Bancio Buddsoddi.

Roedd y ddwy interniaeth wedi para 3 diwrnod dros bythefnos. Yn ystod yr amser hwnnw, dysgais am y diwydiant drwy seminarau ar y sector a gyflwynwyd gan rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd.  Roedd y seminarau hyn yn trafod llawer o bynciau megis grwpiau cynnyrch, methodolegau gwerthuso a chylch bywyd dêl. Roeddem yn gallu gwrando a rhyngweithio ag aelodau proffesiynol yn y diwydiant a roddodd gipolwg i ni o'u hadrannau perthnasol a'u llwybrau gyrfa.

Fy hoff ran o'r interniaeth oedd sut roeddem yn gallu rhwydweithio â myfyrwyr eraill.  Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, rydym wedi colli cyfle i ryngweithio'n gymdeithasol â chyfoedion ynghyd â chyflogwyr posib. Serch hynny, cafodd myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn rhwydweithio un i un diolch i IEUK.  Derbyniwyd adborth hefyd gan ein cyfoedion ar y prosiect a gwblhawyd ar ail ddiwrnod yr interniaeth.

Roeddwn yn dwlu ar y ffordd roedd cyfleoedd i rwydweithio a'r prosiect yn debyg i interniaeth go iawn. Fel rhan o'r interniaethau hyn, roeddem yn gallu rhyngweithio â sawl cwmni gan gynnwys JP Morgan, Goldman Sachs, PricewaterhouseCoopers, BDO a llawer eraill. Gwnaeth hyn fy helpu i ddeall y broses recriwtio a'r cyfleoedd sydd ar gael ym mhob cwmni ynghyd â diwylliant pob cwmni a oedd yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod y cyfnod hwn pan nad ydym yn gallu mynd i dreulio amser gyda chwmni i brofi'r diwylliant drosom ein hunain.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae 29% o fyfyrwyr wedi cael rolau i raddedigion neu interniaethau wedi'u gohirio neu eu canslo ond mae IEUK yn galluogi myfyrwyr i ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr. Byddwn yn argymell IEUK i unrhyw fyfyriwr sydd eisiau rhoi hwb i'w sgiliau cyflogadwyedd neu archwilio diwydiannau gwahanol o gysur ei gartref.Cefais y profiad rhithwir hwn yn arbennig o bleserus ac yn llawn gwybodaeth!

Ysgrifennwyd y Blog gan: Latika Sivaji
Dyddiad cyhoeddi: 31/07/2020