Gyda'n cwrs MSc Rheoli (Chwaraeon) bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, penderfynwyd troi at ein sefydliad partner, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, i ofyn cwestiynau i'r Pennaeth Masnachol am sut y daeth i ble mae hi a sut beth yw bod ar Uwch Dîm Rheoli brand chwaraeon mor adnabyddus.

Beth mae'ch swydd yn ei gynnwys?

Rwyf yn rheoli adrannau manwerthu, tocynnau, lletygarwch, gwerthiannau, partneriaethau, y cyfryngau ac arlwyo a digwyddiadau stadiwm. 

Disgrifiwch eich swydd mewn tri gair

  • Amrywiol
  • Diddorol
  • Pwysig

Beth fu uchafbwynt eich gyrfa?

Dod yn Bennaeth Masnachol ym mis Hydref 2019

Rebecca Edwards-Symmons

Pennaeth Masnachol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Rebecca Edwards-Symmons

Sut cyrhaeddoch chi le rydych chi heddiw?

Roeddwn i'n astudio Dawns ym Mhrifysgol Chichester pan wnes i slipio disg yn fy nghefn a daeth y llwybr gyrfa hwnnw i ben o ganlyniad. Dechreuais i yn yr adran hysbysebu gyda'r Evening Post pan oeddwn i'n 19 oed a chefais fy nyrchafu i bennaeth moduron pan symudais i'r Western Mail yng Nghaerdydd.  Denais sylw Yell.com a ofynnodd i mi fod yn rhan o'i ddegawd lansio a dyna oedd dechrau fy ngyrfa ddigidol.  Yna 7 mlynedd yn ddiweddarach, cysylltodd Amazon â mi gan gynnig swydd imi fel rhan o'i dîm datblygu busnes yn y DU (gan weithio wrth ochr UDA) er mwyn cyfoethogi ei lwyfan Amazon Prime. Gwnaethom lansio Amazon Tickets, Amazon Destinations ac Amazon Local. Roedd y rolau'n amrywiol iawn ac roeddent yn ymdrin â chynifer o elfennau'r busnes masnachol, ond roedd teithio'n ôl ac ymlaen i Lundain yn flinedig ac nid oedd yn bosib gwneud yr holl deithio erbyn i fi gael plentyn bach.

Roedd gennyf docyn tymor ers 17 o flynyddoedd ac roeddwn i'n dyheu am gael swydd yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.  Cododd rôl yn y clwb a oedd i bob pwrpas ar lefel mynediad, ac roeddwn i'n gwybod bod angen imi ddechrau eto i brofi fy ngwerth mewn rôl a oedd yn fwy tebyg i’r swyddi roeddwn i'n gyfarwydd â nhw.

Dechreuais i fel Rheolwr y Cyfryngau Digidol ac yn gyflym cefais fy nyrchafu i Bennaeth Digidol o fewn 18 mis. Wedyn blwyddyn a hanner yn ôl, cefais fy nyrchafu i Bennaeth Masnachol yn y clwb a bellach rwyf yn eistedd ar yr Uwch-dîm Rheoli gyda'r Cadeirydd, y Pennaeth Gweithrediadau a'r Prif Swyddog Gweithredu. Rwy'n byw'r breuddwyd - does dim rôl arall yr hoffwn i wneud!

Beth yw'r sgiliau allweddol sydd eu hangen yn eich rôl (ydy'r swydd hon yn adlewyrchu'r un math o waith â swyddi tebyg mewn sefydliadau chwaraeon eraill)?

Dealltwriaeth enfawr o fasnacheiddio ar bob lefel a meddwl cryf a chytbwys, gan fod y swydd hon mor amrywiol. Wedi'r cyfan, rydym yma i wella a chefnogi'r 11 o ddynion ar y cae bob penwythnos. 

Pa rolau rheoli sy'n bodoli yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Abertawe ac a ydyn nhw'n debyg i'r rolau a geir mewn sefydliadau chwaraeon eraill?

Mae gennyf 6 rheolwr adrannol sy'n atebol imi a fi sy'n cynnal y busnes Masnachol. Mae 5 arall mewn Gweithrediadau ac ati. Hefyd mae llawer o rolau rheoli mewn clybiau pêl-droed ar draws ystod eang o gyfrifoldebau ac adrannau.

Hoffech chi weld mwy o ferched mewn rolau rheoli mewn chwaraeon?

Yn bendant, os nhw yw'r ymgeiswyr gorau am y swydd wrth gwrs. Dydyn ni ddim eisiau cael menywod yno dim ond er mwyn cael menyw yn y swydd yn lle dyn.  Ond rydyn ni eisiau cael y BOBL gywir yn y swyddi cywir.

Beth y byddwch yn ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio'r cwrs MSc Rheoli (Chwaraeon)?

Heb os byddai'r cwrs yn cynnig mantais gystadleuol i chi yn erbyn pob ymgeisydd arall wrth gyflwyno cais am rôl mewn chwaraeon. Mae'r sgiliau y byddai'r cwrs yn eu rhoi ichi yn gyflawn ac mae'n cyfleu realiti'r ffordd mae busnesau chwaraeon yn gweithio. Hefyd byddwn yn annog lleoliadau gwaith a phrofiad gwaith gyda busnesau fel fy un i, achos dyna pryd byddwch  wir yn sylweddoli sut mae sefydliad chwaraeon yn gweithio. Dydych chi byth yn gallu cael gormod o brofiad!

 

Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2021