Gan: Yr Athro Brian Garrod, Athro mewn Marchnata

Mae “Ailgodi’n gryfach” wedi mynd yn rhyw fath o gred gonfensiynol mewn trafodaethau diweddar am yr hyn y dylai’n blaenoriaethau cenedlaethol fod unwaith y bydd pandemig COVID-19 wedi gorffen. Y neges arferol yw bod COVID-19 yn gyfle inni ailfeddwl am ein blaenoriaethau a meddwl am newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau er mwyn sicrhau gwell canlyniadau. Mae hyn yn cynnwys ystyried dull mwy cynaliadwy, sef un sy’n diwallu anghenion cenhedlaeth heddiw tra’n gofalu hefyd am anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Bu cymaint o drafod ynghylch y pwnc hwn yn ddiweddar fy mod i bellach o’r farn bod hyn yn ymddangos yn ystrydebol braidd a bod pobl yn dechrau cilio rhag y neges hon, yn enwedig felly wrth i bandemig COVID-19 fynd rhagddo. Fodd bynnag, yn achos twristiaeth yng Nghymru, rwy’n credu bod cyfle gwirioneddol inni ailgodi’n gryfach. Mae twristiaeth yn gyfystyr â thua 6% o’n gwerth ychwanegol gros yng Nghymru ac mae un ym mhob deg o swyddi’n cael eu cynnal ganddi. Mae hefyd yn effeithio ar ein bywydau beunyddiol. Heb dwristiaeth i dalu cyflogau, byddai llai o fannau agored, cyfleusterau ac ardaloedd gwarchodedig inni eu mwynhau. Mae gan dwristiaeth hefyd botensial aruthrol i fod yn warcheidwad ein hamgylchedd naturiol.

Felly, beth sy’n peri imi feddwl bod gwir angen inni ailgodi twristiaeth yn gryfach yng Nghymru? Yn gyntaf, mae cyd-destun y polisïau yn y lle cywir. Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf yn y byd y mae ganddi Ddeddf sy’n ymwneud â lles cenedlaethau’r dyfodol. Er na chyflwynwyd y Ddeddf hon gyda thwristiaeth mewn golwg, ac yn wir nid yw llunwyr polisi na gwleidyddion wedi trafod twristiaeth yng ngoleuni’r Ddeddf, mae twristiaeth mor arwyddocaol ac eang yng Nghymru y gall beryglu, os caiff ei rheoli’n anghywir, les cenedlaethau’r dyfodol oherwydd yr effeithiau niweidiol sy’n digwydd yn aml yn ei sgîl. Mae hyn yn golygu, wrth gwrs, ei bod yn y sefyllfa orau bosibl i arwain y ffordd a chydio yn agenda cynaliadwyedd.

Yn ail, mae gan y diwydiant twristiaeth yng Nghymru gyfle heb ei ail i fanteisio ar y sefyllfa bresennol. Y llynedd daeth y nifer uchaf erioed o dwristiaid  i Gymru o rannau eraill o’r DU. Mae gan y ffenomen hon, a elwir yn ‘wyliau gartref’, lawer o nodweddion cadarnhaol sy’n ei throi’n gyfrwng perffaith ar gyfer cynaliadwyedd, gan gynnwys absenoldeb yr angen am deithiau awyr i gyrraedd Cymru gan mai teithiau awyr fel arfer yw’r rhan bwysicaf o ‘ôl troed’ gwyliau. Ar ben hyn, mae seilwaith Cymru yn ein gosod mewn sefyllfa hynod o ddelfrydol gan fod llawer o’n lletyau a llawer o’n hatyniadau y tu allan i’r dinasoedd a’r cyrchfannau mawr lle gall twristiaid fwynhau mewn ffordd arafach a dod i adnabod yr ardal maen nhw’n ymweld â hi. Mae gan lawer o’r stoc llety hwn gymwysterau gwyrdd eisoes, megis Achrediad yr Agoriad Gwyrdd, sy’n hwb enfawr yn hynny o beth.

Felly, ymddengys imi ei bod hi’n adeg ardderchog i ailgodi diwydiant twristiaeth yn gryfach. Peidiwch â’m camddeall i, roedd twristiaeth yng Nghymru’n gweithio’n dda cyn COVID-19, ond gall fod yn well drwy gynllunio, rheoli a marchnata’n briodol drwy gyrff megis yr awdurdodau lleol a Chroeso Cymru. Mae’n rhaid inni sicrhau bod yr hyn y mae ein twristiaeth yn ei gynnig mor gynaliadwy â phosibl a bod pobl yn gwybod ei bod hi felly. Mae’r ‘saib’ yn sgîl COVID-19 wedi rhoi’r cyfle i bobl ailasesu’u blaenoriaethau: mae hefyd yn rhoi’r cyfle i’r sector twristiaeth yng Nghymru ganolbwyntio ar yr ymwelydd o’r DU er mwyn meithrin y farchnad gyda golwg ar wyliau arafach ac i hyrwyddo’n diwylliant enwog a’n hadnoddau naturiol heb eu hail. Nid yw hyn yn golygu y dylid cau allan y teithiwr rhyngwladol, gwyliau mewn dinasoedd neu deithiau busnes. Mae angen cymysgedd iach o fathau o dwristiaeth ac mae gwyliau gartref yn fath pwysig iawn yn hynny o beth. Gadewch inni ailgodi twristiaeth.

Yr Athro Garrod ar y cyfryngau cymdeithasol: Twitter | LinkedIn

Ysgrifennwyd y Blog gan: Yr Athro Brian Garrod, Athro mewn Marchnata
Dyddiad cyhoeddi: 25/01/2021