Gan yr Athro Cyswllt Gareth Davies, Darlithydd Llywio Arloesedd a Newid

Mae’r dyfyniad enwog “There is nothing more certain and unchanging than uncertainty and change” bellach yn fwy perthnasol nag erioed. Mae effaith uniongyrchol y Coronafeirws a’i effeithiau sydd yn dod i’r amlwg, ynghyd â Brexit, â’u heffeithiau tymor hir sydd yn anhysbys ar hyn o bryd, yn golygu heriau sylweddol ar gyfer sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector o bob maint. Sut bynnag, ar wahân i’r newidiadau anferthol hyn, ceir eisoes gyd-destunau cymhleth sydd yn datblygu ynghylch sefydliadau unigol a’r diwydiannau/cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Mae llywio’r newidiadau hyn a gwireddu cyfleoedd – ynghyd â rhai llai – yn ganolbwynt i Raglen MBA  yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe.

Gan fod dirymu’r argyfwng byd-eang presennol ymhell o gael ei ostegu, mae’n bwysig bod sefydliadau yn gadael y cyfnod hwn gyda chynigion a modelau busnes sydd yn fwy cynaliadwy, ym mhob ystyr y gair. Bydd arloesi, yn yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud a hefyd sut maent yn ei wneud, yn hanfodol er mwyn codi eto ac adeiladu dyfodol gwell ar gyfer eu rhanddeiliaid gan gynnwys cyfranddalwyr, cwsmeriaid/defnyddwyr, gweithwyr a’r gymuned/gymdeithas ehangach. Ceir eisoes gysyniad o werth yn ymddangos sydd yn ehangach ac yn atgyfnerthedig, sydd yn gosod gwireddu llesiant cymdeithasol ehangach law yn llaw â gorchmynion economaidd ac ariannol. 

Y ffordd orau i arloesi yw gweithio fel tîm. Mae ymdrechion diweddar i gynllunio a chynhyrchu dyfeisiau meddygol a threfnu cyflenwadau bwyd yn y gymuned leol wedi amlygu’r potensial am arloesi wrth gysylltu arbenigedd â galluoedd eraill. Trwy weithio gydag ecosystem y sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector yn yr Ysgol, mae’r MBA yn canolbwyntio ar fanteisio ar gydweithredu er mwyn gwireddu buddion cynaliadwy ar y cyd. Mae cludydd y cyfleoedd sydd yn perthyn i’r ecosystem hon yn cynnig achosion dysgu gwerthfawr a chyfleoedd i rwydweithio i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y rhaglen.

Fel arfer, bydd ystod yr wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer arloesi yn benodol i’r cyd-destun, er y gellir ei hwynebu gan agwedd a ddatblygwyd ac a ddarparwyd â set o gyfarpar er mwyn llwyddo ar y daith. Mae herio hen arferion wrth galon hyn, am fod arloesi wir yn daith ddysgu, ac ni ddysgir llawer iawn ar hen lwybrau. Er mwyn gwireddu hyn, mae’r MBA yn Abertawe yn darparu ar gyfer rheolwyr pecynnau cymorth er mwyn deall yr heriau a’r cyfleoedd. Yn bwysig iawn, mae’r rhaglen yn cyfuno’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth hon â datblygiad meddwl beirniadol ehangach er mwyn datrys y materion hyn, gan lwyddo ymhellach yn ddeallusol ac yn ymarferol. Yn y pen draw, mae hyn yn helpu i adnabod y ffordd yn hyderus, sydd yn anelu nid yn unig at lywio’r argyfwng presennol, ond hefyd ymhellach at ddyfodol cynaliadwy llwyddiannus i bawb.

Ysgrifennwyd y Blog gan: Gan yr Athro Cyswllt Gareth Davies, Darlithydd Llywio Arloesedd a Newid
Dyddiad cyhoeddi: 12/05/2020