Crynodeb o'r Newyddion

Earth Image

Cyfres newydd o'r podlediad ‘Archwilio Problemau Byd-eang’

Beth yw dyfodol Deallusrwydd Artiffisial a ChatGPT? A all technoleg ddigidol helpu i atal aildroseddu?  A allwn greu systemau sy'n ddiogel ac yn wydn yn wyneb bygythiadau i ddiogelwch? Bydd y cwestiynau hyn a llawer o gwestiynau eraill yn cael eu hateb yng nghyfres ddiweddaraf y podlediad ymchwil ‘Archwilio Problemau Byd-eang’, lle mae academyddion o Brifysgol Abertawe yn trafod sut mae eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang.

Darganfod mwy
Y Brifysgol i gynnal canolfan fel rhan o fuddsoddiad gwerth £14m mewn ymchwil i glefydau prin

Y Brifysgol i gynnal canolfan fel rhan o fuddsoddiad gwerth £14m

Mae Prifysgol Abertawe'n barod i wneud cyfraniad allweddol at blatfform newydd sydd â'r nod o ddod â chryfderau'r DU wrth ymchwilio i glefydau prin ynghyd i feithrin dealltwriaeth a phennu diagnosisau a thriniaethau'n well ac yn gynt.

Darllen mwy
Ymchwil arloesol yn archwilio sut mae dilyniant caffael afiechyd yn effeithio ar ddisgwyliad oes

Mae ymchwil yn archwilio sut mae caffael afiechyd yn effeithio ar ddisgwyliad oe

Mae ymchwil newydd, dan arweiniad Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd yn The Lancet Public Health, yn archwilio sut mae clefydau sy'n cydfodoli yn datblygu dros amser a sut maent yn effeithio ar ganlyniadau cleifion ac adnoddau gofal iechyd.

Darllen mwy
Deg ymchwilydd wedi'u dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru

Deg ymchwilydd wedi'u dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru

Mae deg ymchwilydd o Brifysgol Abertawe – traean o'r garfan eleni – wedi'u dewis ar gyfer Crwsibl Cymru 2023, rhaglen datblygu personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth arobryn ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.

Darllen mwy
Arbenigwr mewn eithafiaeth o Abertawe yn ennill gwobr am ymchwil a gwaith cymunedol i wrthsefyll casineb

Arbenigwr mewn eithafiaeth yn ennill gwobr am ymchwil a gwaith cymunedol

Dr Lella Nouri, mae arbenigwr mewn eithafiaeth sydd wedi cyfranogi mewn gweithgarwch cymunedol i wrthsefyll negeseuon casineb, wedi ennill gwobr am ei gwaith gan Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig.

Darllen mwy

Uchafbwyntiau Ymchwil

Effaith patrymau aer newidiol ar ehediad adar

Effaith patrymau aer newidiol ar ehediad adar

Mae gan yr Athro Emily Shepard ddiddordeb penodol mewn sut mae gwynt a thyrfedd yn effeithio ar lwybrau hedfan adar, pam a ble mae adar yn symud, a sut mae adar môr yn dewis ble i nythu.

Read more
Niwed sy'n gysylltiedig â gamblo

Niwed sy'n gysylltiedig â gamblo

Nod ymchwil yr Athro Simon Dymond's yw nodi'r rhai a allai fod mewn risg o niwed sy'n ymwneud â gamblo, ymchwilio i ddulliau niwro-ymddygiadol sy'n sail i ddechrau a chynnal problemau gamblo, a cheisio canfod ffyrdd o ddatblygu dulliau arloesol o driniaeth glinigol.

Darllen mwy
Dylan Thomas: gwella gwybodaeth y cyhoedd a ysgogi allgymorth addysgol

Dylan Thomas: gwella gwybodaeth y cyhoedd a ysgogi allgymorth addysgol

Drwy ei ymchwil, mae'r Athro Daniel Williams yn ymchwilio i fywyd Dylan Thomas sydd wedi ysbrydoli nifer o erthyglau a llyfrau cyhoeddedig, sioe amlgyfrwng wedi'i dathlu'n rhyngwladol a gwaith digideiddio daliadau archif a fu'n anhygyrch gynt.

Darllen mwy

Ffocws Abertawe

Bae Abertawe

Bydd ffyniant bro yn methu os na fydd Llywodraeth y DU yn diogelu ymchwil ac arl

"Ers amser maith mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei huchelgeisiau o ran ffyniant bro ar draws y wlad. Ond os bydd y Llywodraeth yn methu diogelu ymchwil ac arloesi, yr effaith fydd cynnydd mewn anghydraddoldeb a fydd yn anfantais i ni’n benodol yma yng Nghymru."

Dyna oedd y neges i Aelodau Seneddol pan siaradodd yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yn y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddiweddar, ochr yn ochr â chynrychiolwyr prifysgolion yng Nghymru.

Darllen mwy
Plentyn mewn dymp plastig

Podlediad: 'Creative solutions for plastic pollution'

Yn y bennod gyntaf o Archwilio Problemau Byd-eang, Tymor 3, mae Dr Alvin Orbaek White, mewn sgwrs â'r cyflwynydd Dr Sam Blaxland, yn datgelu ei weledigaeth chwyldroadol i greu technoleg gynaliadwy o blastig gwastraff ac yn esbonio sut mae nanodechnoleg yn trawsnewid y byd

Gwrandewch nawr
Morwellt

Mae tywydd morol poeth yn tanlinellu pwysigrwydd brys glanhau dyfrffyrdd y DU

Yn yr erthygl hon o The Conversation, mae Dr Richard Unsworth a Benjamin Jones yn pwysleisio pwysigrwydd amddiffyn ac adfer amgylcheddau arfordirol ac afonol i liniaru effaith achosion o wres eithafol a diogelu ecosystem forol y dyfodol.

Darllen mwy

Dan y chwyddwydr...

Dr Emily Lowthian

Ymchwilydd Gyrfa Gynnar

Mae Dr Emily Lowthian yn Ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Addysg a Phlentyndod, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae ei diddordebau ymchwil presennol yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), niwed eilaidd defnydd sylweddau gan rieni, a phlant sy'n agored i niwed (e.e. plant sy'n derbyn gofal).

Darllen mwy
Shroug Alotaibi

Ymchwilydd ôl-raddedig

Mae Shroug Alotaibi yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Reolaeth sy'n ymchwilio i symudedd rhyngwladol, ac yn benodol yr heriau a'r manteision sy'n gysylltiedig â mudo rhyngwladol at ddibenion gwaith.

Darllen mwy
Logo Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol

Sefydliad Ymchwil

Mae'r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CSIM) yn fenter newydd, gan gynnwys cyfleuster ymchwil ac arloesi gwerth £29.9m, i ddod â phlatfformau lled-dargludyddion a deunyddiau uwch ynghyd i ymchwilio i dechnolegau a chynnyrch newydd a’u datblygu ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.

Darllen mwy

Cydweithrediadau Ymchwil

Technoleg gofod

Technoleg y gofod i grebachu wrth i derfynau ffiseg cwantwm gael eu profi

Mae consortiwm ledled y DU yn datblygu technolegau i ddefnyddio nanoronynnau fel synwyryddion o'r radd flaenaf ar loerennau'r un maint â blwch esgidiau a elwir yn CubeSats. Dyfarnwyd £250,000 i brifysgolion Warwig, Abertawe a Strathclyde i ddatblygu ymchwil i nanoronynnau a ffiseg cwantwm wrth roi technoleg y gofod ar waith.

Darllen mwy
Map o Dde Cymru

Prifysgolion yn ennill £15m ar gyfer Canolfan Ymchwil ac Arloesi Rheilffyrdd new

Mae UKRPIF (Cronfa Buddsoddi Partneriaethau Ymchwil y DU) wedi dyfarnu £15m i Brifysgol Birmingham a chonsortiwm o brifysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, i sefydlu canolfan ymchwil ac arloesi rheilffyrdd newydd a fydd yn arwain y ffordd yn fyd-eang.

Darllen mwy
Ymchwilwyr yn datblygu deunydd storio gwres arloesol newydd ar gyfer effeithlonr

Ymchwilwyr yn datblygu deunydd storio gwres arloesol newydd ar gyfer effeithlonr

Mae ymchwilwyr o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC a rhaglen COATED M2A ym Mhrifysgol Abertawe wedi cydweithio â Phrifysgol Caerfaddon i wneud cynnydd arloesol mewn ymchwil i storio thermol, gan ddatblygu deunydd effeithlon newydd sy'n hawdd ei uwchraddio ac y gellir ei fesur a'i siapio i gyd-fynd â chymwysiadau niferus.

Darllen mwy
Yr Athro Matt Jones

Academydd yn rhan o’r tîm sy'n arwain rhaglen AI gwerth £31m

Mae'r Athro Matt Jones yn aelod o'r tîm sy'n arwain cydweithrediad ledled y DU – a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) – sydd â’r nod o wneud y DU yn gyrchfan ac yn arweinydd byd-eang ym maes deallusrwydd artiffisial sy'n gweithio er budd y ddynolryw. Yn ogystal ag Abertawe, mae'r consortiwm yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o brifysgolion Southampton, Nottingham, Caergrawnt, Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol y Frenhines Belfast, Caeredin a Glasgow.

Darllen mwy

Cofrestrwch i dderbyn y rhifyn diweddaraf o MOMENTUM yn syth i'ch mewnflwch

Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.