Abertawe: un effaith debygol iawn yn sgîl colli'r cyllid hwn yw draen dawn o ran ymchwilwyr hynod fedrus. Bydd colli cyfleoedd swyddi proffesiynol â thâl da yn drychineb ar gyfer rhanbarthau fel ein rhanbarth ni

Abertawe: un effaith debygol iawn yn sgîl colli'r cyllid hwn yw draen dawn o ran ymchwilwyr hynod fedrus. Bydd colli cyfleoedd swyddi proffesiynol â thâl da yn drychineb ar gyfer rhanbarthau fel ein rhanbarth ni 

Bydd ffyniant bro yn methu os na fydd Llywodraeth y DU yn diogelu ymchwil ac arloesi yng Nghymru, yn ol Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.

Ers amser maith mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei huchelgeisiau o ran ffyniant bro ar draws y wlad. Ond os bydd y Llywodraeth yn methu diogelu ymchwil ac arloesi, yr effaith fydd cynnydd mewn anghydraddoldeb a fydd yn anfantais i ni’n benodol yma yng Nghymru. Dyma oedd fy neges i Aelodau Seneddol pan siaradais yn y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddiweddar, ochr yn ochr â chynrychiolwyr prifysgolion yng Nghymru.

Yr wythnos hon yn Abertawe, rydym wedi cael ein hatgoffa er gwell am fanteision sylweddol ymchwil gydweithredol ac uchelgeisiol, wrth i ni gynnal tîm o ymchwilwyr i ganser o Slofenia sydd wedi'u hariannu gan raglen Horizon yr Undeb Ewropeaidd (sef y rhaglen gyllido fwyaf yn y byd ar gyfer ymchwil ac arloesi). Mae ein hymchwilwyr yn cydweithredu â nhw i astudio achosion o ganser ac archwilio triniaethau newydd.

Mae eu hymweliad yn ategu pwysigrwydd cysylltiadau ymchwil ar draws Ewrop gyfan, a phwysigrwydd rhaglen Horizon.  Felly, rwyf yn croesawu bod Llywodraeth y DU yn parhau â'i sgwrs gadarnhaol â'r UE mewn perthynas â'n cysylltiad â Horizon yn y dyfodol, a'r ffaith eu bod wedi lansio cynllun wrth gefn yn ddiweddar ar ffurf rhaglen newydd Pioneer, a fydd yn cael ei gweithredu os byddwn yn methu  cysylltu.

Hefyd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU nawr ystyried yn yr un modd ddisodli ein prif ffynhonnell arall o gyllid ymchwil ac arloesi gan yr UE: Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF). Yma hefyd mae angen brys i ddiogelu ymchwil hollbwysig a rhoi ar waith opsiynau dichonol eraill, ar unwaith.  

Ceir 60 prosiect ledled Cymru sy'n cefnogi 1,000 o swyddi. Bydd cyllid ESIF ar gyfer y rheini'n dod i ben yn 2023.  Fel y dywedais wrth yr Aelodau Seneddol, ac fel rwyf wedi'i rybuddio mewn colofnau blaenorol, rydym yn agosáu at ymyl y dibyn ac mae risg go iawn o drychineb, ar gyfer prifysgolion ac ar gyfer arloesi a'n heconomi hefyd. 

Mae Llywodraeth y DU yn honni bod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn disodli'r cronfeydd ESIF hyn rydym wedi'u colli, ond mae graddfa a strwythur y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ei gwneud hi’n anaddas ar gyfer y dasg.

Fel cymhariaeth, cafodd Prifysgol Abertawe £150 miliwn o'r ESIF rhwng 2014 a 2020, neu £25 miliwn fesul blwyddyn yn fras.  Yn rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Gyffredin, er gwaethaf gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, cyfanswm ein ceisiadau yw £5.1 miliwn yn unig, a byddwn yn ffodus i gael traean o hynny yn y pen draw.

Mae strwythur y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn golygu nad yw'n addas fel mecanwaith ar gyfer prosiectau ymchwil ac arloesi ar raddfa fawr. Dyrennir cyllid drwy awdurdodau lleol unigol a thros gyfnodau byr, sy'n gwneud prosiectau cydweithredol mawr a hirdymor yn amhosibl. Ar lefel Llywodraeth y DU, caiff ei gweinyddu gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, ac nid oes gan yr adran honno brofiad o reoli ymchwil ac arloesi. 

Fel yr esboniais i Aelodau Seneddol, un effaith debygol iawn yn sgîl colli'r cyllid hwn yw draen dawn o ran ymchwilwyr hynod fedrus. Bydd colli cyfleoedd swyddi proffesiynol â thâl da yn drychineb ar gyfer rhanbarthau fel ein rhanbarth ni; mae'n eironig mai dyna’r union ardaloedd y nodwyd gynt fod arnynt angen cymorth economaidd-gymdeithasol penodol gan yr UE.

Bydd cwmnïau lleol hefyd yn dioddef os na allant gael mynediad mwyach at arbenigedd a chyfleusterau ymchwil sydd mor hanfodol wrth arloesi, a fydd yn gwaethygu'r niwed economaidd.

Gydag isadeiledd ymchwil gwannach yng Nghymru, ceir risg hefyd fod cyllid yn cael ei ganolbwyntio'n fwyfwy yn Llundain a'r de-ddwyrain, a byddai hynny'n dyfnhau anghydraddoldebau.

Atgoffais Aelodau Seneddol y bu Cronfeydd Strwythurol yr UE yn fecanwaith effeithiol iawn ar gyfer ffyniant bro oherwydd eu bod yn llwyddiannus wrth dargedu a chefnogi rhanbarthau fel ein rhanbarth ni a oedd ar eu hôl hi’n  economaidd. Os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gredu y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel y mae yn diogelu sector ymchwil ac arloesi'r DU, bydd yr effeithiau'n drychinebus ac yn arwain at ganlyniadau economaidd a chymdeithasol sy'n cyflawni'r gwrthwyneb i'r uchelgeisiau y maent wedi'u datgan eu hunain; sef, mwy o anghydraddoldeb rhwng rhannau o'r DU, yn hytrach na llai.

Nid yw'n rhy hwyr i osgoi'r datchwydd-dro catastroffig hwn. 

Yr angen brys - wrth i ni agosáu at ymyl y dibyn - yw cyllid pontio.  Byddai 6% yn unig o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn diogelu pob prosiect sydd mewn perygl mewn prifysgolion ledled y DU, a ariannwyd gynt gan yr ESIF.  Dyma bris bach i'w dalu i osgoi trychineb ar gyfer ein heconomi a'n cymunedau.  

Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU weithredu'n gyflym nawr er mwyn diogelu ymchwil ac arloesi yn y DU, i sicrhau na fydd etifeddiaeth drawiadol yr UE o ffyniant bro yng Nghymru yn cael ei gwastraffu.

Erthygl o'r Western Mail

Rhannu'r stori