Y Brifysgol yn helpu mwy na 250 o ddisgyblion i barhau i ddarllen yn ystod y cyfyngiadau symud diweddaraf

Mae disgyblion Blwyddyn 7 mewn dwy ysgol leol wedi cael eu hannog i ddarllen ac i hybu eu llythrennedd yn ystod y cyfyngiadau symud, diolch i brosiect Prifysgol Abertawe. 

Mae Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru yn cynnal dau glwb llyfrau ar y cyd â dwy ysgol er mwyn annog pobl ifanc i ddarllen llyfrau ac ymddiddori ynddynt, gan hybu eu llythrennedd ar yr un pryd.

Mae'r Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach, sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe, yn gweithio gyda disgyblion, teuluoedd ac oedolion o ardaloedd difreintiedig yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro, ochr yn ochr â gofalwyr a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal ledled y rhanbarth.

Mae disgyblion Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn rhan o glwb llyfrau sy'n canolbwyntio ar The Goldfish Boy gan Lisa Thompson, nofel am rywun yn ei arddegau sy'n dioddef o anhwylder gorfodaeth obsesiynol. Mae'r llyfr hwn yn helpu disgyblion i ddeall iechyd meddwl ac i feithrin empathi tuag at bobl eraill.

Mae disgyblion Blwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson yn darllen The Witches gan Roald Dahl. Dewiswyd y llyfr gan y disgyblion.

Cynhelir y ddau glwb llyfrau ar ffurf rithwir yn bennaf ac mae tîm Ymgyrraedd yn Ehangach yn lanlwytho adnoddau bob wythnos. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys cwisiau, gweithgareddau paru, yn ogystal â fideos a deunydd sain a grëwyd gan y tîm.

Mae pedwar myfyriwr ymroddedig sy'n cynrychioli Ymgyrraedd yn Ehangach fel arweinwyr hefyd yn creu cynnwys fideo a sain, gan ffilmio clipiau byr yn seiliedig ar bennod yr wythnos.

Mae hyn yn rhoi cyfle i'r disgyblion gwrdd ar ffurf rithwir â myfyrwyr prifysgol o amrywiaeth o feysydd, yn ogystal â chyflwyno patrymau ymddwyn iddynt o ran llythrennedd, gan hyrwyddo'r syniad bod darllen yn rhywbeth difyr i'w wneud yn eich amser rhydd, yn hytrach na dim ond rhywbeth y bydd myfyrwyr llenyddiaeth yn ei wneud at ddibenion gwaith.

Fodd bynnag, fel cymhelliant i gymryd rhan yn y clwb llyfrau, anfonwyd pecynnau ffisegol at bob disgybl, gan gynnwys y llyfr, pinnau ysgrifennu, nod tudalen, a gweithgareddau'r wythnos gyntaf. Yna caiff y disgyblion becyn ffisegol bob pedair neu chwe wythnos.

Meddai Dr Heidi Yeandle, Cydlynydd Digwyddiadau Ymgyrraedd yn Ehangach a threfnydd y clybiau: “Mae'r prosiect hwn yn rhoi llyfr newydd i bawb sy'n cymryd rhan yn ogystal â'r cyfle i glywed ffyrdd gwahanol o ddehongli neu ystyried nofel – rhywbeth na fyddant wedi ei gael fel arall o bosib. Gobeithio y bydd yn ennyn brwdfrydedd dros ddarllen yn achos pobl ifanc nad oeddent yn meddu ar y brwdfrydedd hwnnw gynt.”

Ychwanegodd Shania Evans, cynorthwy-ydd dros dro'r rhaglen, sy'n gyfrifol am greu'r adnoddau: “Yn ogystal ag ysgogi'r disgyblion i gymryd rhan, roeddem am sicrhau bod yr un adnoddau a chyfarpar ar gael i bawb. Rydym am roi hwb iddynt drwy ddarparu adnoddau ffisegol difyr a deniadol y gallant eu defnyddio wrth gael eu haddysgu gartref.”

Bydd y clybiau llyfrau'n parhau tan fis Mai a bydd clybiau llyfrau newydd yn dechrau yn yr haf.

Rhannu'r stori