Mae chwe gwaith cynifer o achosion o anhwylder pwysedd yr ymennydd yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.

Mae chwe gwaith cynifer o achosion o anhwylder pwysedd yr ymennydd – sy'n effeithio ar fenywod yn bennaf, gan achosi cur pen a cholli golwg yn barhaol weithiau – na'r cyfanswm 15 mlynedd yn ôl, ac mae cysylltiad rhyngddo a gordewdra ac amddifadedd, yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.

Yn ogystal, mae cyfraddau derbyn i'r ysbyty yng Nghymru bum gwaith yn uwch ar gyfer pobl sy'n dioddef o'r anhwylder na phobl eraill.

Enw'r cyflwr yw gorbwysedd mewngreuanol idiopathig (IIH). Mae'n cynyddu'r pwysedd yn yr hylif o gwmpas yr ymennydd. Gall hyn arwain at gur pen sy'n anablu pobl yn ddifrifol, yn ogystal â cholli golwg, a all fod yn barhaol.

Defnyddiodd y tîm ymchwil, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gofnodion iechyd dienw cleifion yng Nghymru a gedwir ym manc data SAIL, cronfa ddata gofal iechyd genedlaethol a reolir gan y Brifysgol. Dadansoddwyd gwerth 35 miliwn o flynyddoedd o ddata cleifion o 2003 i 2017. Nodwyd 1,765 o bobl a oedd yn dioddef o IIH yn ystod y cyfnod hwnnw, yr oedd 85 y cant ohonynt yn fenywod.

Cofnodwyd mynegai màs corff pobl yn y sampl ac amcangyfrifwyd eu hamddifadedd cymharol drwy ddefnyddio system sgorio genedlaethol safonol. Cymharwyd pob person a oedd yn dioddef o IIH â thri unigolyn â phroffil tebyg nad oeddent yn dioddef o'r cyflwr.

Daethpwyd i'r casgliadau canlynol:

· Roedd nifer yr achosion o'r anhwylder yn 2017, sef 76, chwe gwaith yn fwy na'r nifer ar ddechrau'r astudiaeth yn 2003, sef 12.

· Roedd cyfraddau derbyn i'r ysbyty bum gwaith yn uwch ar gyfer pobl a oedd yn dioddef o IIH, o'u cymharu â phobl eraill – mae angen i naw y cant o bobl sy'n dioddef o IIH gael llawdriniaeth ar yr ymennydd er mwyn ceisio cadw eu golwg.

· Roedd cysylltiadau cryf rhwng mynegai màs corff dynion a menywod a'r anhwylder.

· Roedd cyfraddau gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu o 29% o'r boblogaeth i 40% dros yr un cyfnod.

· Ar gyfer menywod yn unig, roedd cysylltiad rhwng amddifadedd a'r risg, hyd yn oed ar ôl ystyried mynegai màs y corff. Roedd y risg i fenywod yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig 1.5 gwaith yn fwy nag i fenywod yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. 

Meddai Dr Owen Pickrell o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, arweinydd yr astudiaeth:

“Mae'n bosib bod sawl ffactor yn gyfrifol am y cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o orbwysedd mewngreuanol idiopathig a welwyd, ond mae'n debygol mai cyfraddau gordewdra cynyddol sy'n bennaf gyfrifol. Yn fwy annisgwyl, roedd ein gwaith ymchwil yn dangos bod mwy o risg i fenywod sy'n wynebu tlodi neu anfanteision economaidd-gymdeithasol eraill, yn annibynnol ar ordewdra.”

Mae angen gwneud mwy o waith ymchwil i benderfynu a yw ffactorau economaidd-gymdeithasol megis deiet, ysmygu neu straen yn cyfrannu at gynyddu risg menyw o ddechrau dioddef o'r anhwylder hwn.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod union achos IIH, ond gallai'r cysylltiad ag amddifadedd sydd i'w weld yn ein gwaith ymchwil helpu i'n rhoi ar ben y ffordd.

Mae ein canfyddiadau'n cynnig rhagor o resymau pam mae'n hanfodol mynd i'r afael â'r epidemig o ran gordewdra, yn ogystal ag amddifadedd ac anghydraddoldebau yng Nghymru.”

Cyhoeddir yr astudiaeth yn Neurology®, cyfnodolyn meddygol Academi Niwroleg America.

Arloesi ym maes iechyd - ymchwil Abertawe

 

Rhannu'r stori