Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Prosiect glöynnod byw cymunedol yn barod i helpu byd natur

Mae biowyddonwyr Prifysgol Abertawe'n helpu cymuned i greu gardd glöynnod byw a bywyd gwyllt yng nghanol pentref yn Abertawe.  

Mae Prosiect Glöynnod Byw'r Crwys, dan arweiniad yr uwch-ddarlithydd Hazel Nichols, yn rhoi cyfle i wirfoddolwyr gydweithio i helpu i adfer byd natur drwy greu gardd yng nghanolfan gymunedol y pentref.

Yn ogystal â gweithio gyda Chyngor Cymuned y Crwys, mae'r prosiect wedi cael cefnogaeth yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus ac ymddiriedolaeth Coed Cadw.

Meddai Dr Nichols: “Mae creu lle i fywyd gwyllt yn deimlad gwych; bydd gennym dir glaswellt a choetir bach a fydd yn hwb mawr i natur. Byddwn yn monitro'r bywyd gwyllt yn yr ardd dros y blynyddoedd i ddod ac rydym eisoes yn chwilio am fwy o leoedd lleol i greu cynefinoedd naturiol newydd.”

Mae'r prosiect yn defnyddio pecyn glöynnod byw a ddarparwyd gan raglen Cadwch Gymru'n Daclus, sef Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a oedd yn cynnwys 10 sach o bridd neu gompost, detholiad o blanhigion brodorol, offer, gwely codi hir a dellt. Darparodd Coed Cadw becyn o goed brodorol a wnaeth gyfoethogi'r cwbl.

Meddai Ian Donaldson o Gyngor Cymuned y Crwys: “Mae'r pecyn wedi rhoi cyfle i ni greu'r lloches bywyd gwyllt a'r ardd gymunedol ar dir nad oedd yn cael ei ddefnyddio yng nghanol y pentref.”

Roedd y gwaith plannu gwreiddiol yn llwyddiannus, er i fesurau Covid-19 gyfyngu ar nifer y cyfranogwyr, ond mae ef bellach yn edrych ymlaen at weld Ysgol Gynradd y Crwys, Sefydliad y Merched a phreswylwyr yn cydweithio i helpu i adeiladu tai pryfed, monitro bywyd gwyllt a gwneud gwaith cynnal a chadw.

“Mae'n gyfle gwych i alluogi pobl o grwpiau sydd eisoes yn bodoli a phreswylwyr sy'n gwirfoddoli o'r newydd i gymryd rhan,” meddai.

Gwnaeth yr uwch-ddarlithydd biowyddorau Dr Kevin Arbuckle ganu clodydd preswylwyr am gefnogi'r ardd newydd.

“Mae gweithio gyda chymunedau – yn hytrach na dim ond gweithio ynddynt – yn bwysig iawn i ymdrechion i helpu ein bywyd gwyllt brodorol. Mae pobl yn rhan o'r amgylchedd hefyd ac mae'r bwriadau gorau'n debygol o fethu heb eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd.

“Bydd y ffaith bod y gymuned yn arwain y prosiect cadwraeth lleol hwn yn helpu'r bobl leol i gael budd ohono, yn ogystal â sicrhau llwyddiant tymor hwy – dyna’r gobaith.”

Ychwanegodd Dr Nichols: “Mae bywyd gwyllt y DU wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae angen cymaint o help â phosib arno, a gall prosiectau cymunedol fel yr un hwn wneud gwahaniaeth go iawn.”

Meddai Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: “Yn fwy nag erioed, mae pobl yn cydnabod gwerth natur i iechyd a lles cymunedau. Rydym yn falch bod grwpiau fel Prosiect Glöynnod Byw'r Crwys yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.”

Mae'r fenter yn rhan o gronfa ehangach Llywodraeth Cymru sy'n werth £5m, sef Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy'n ymrwymedig i fagu, adfer a chyfoethogi natur yn ein hardaloedd ein hunain.

Mae pecynnau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar gael i grwpiau a sefydliadau cymunedol o hyd

Gellir cyflwyno cais i gael coed am ddim i ysgolion a chymunedau drwy fynd i www.woodlandtrust.org.uk/plant-trees/schools-and-communities/ 

Rhannu'r stori