Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae’r llun yn dangos menyw yn dal meddyginiaeth asthma.

Awgryma astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe bod menywod sy’n rhoi’r gorau i gymryd eu meddyginiaethau asthma yn ystod beichiogrwydd o risg o eni’n gynamserol ac yn llai tebygol o fwydo eu babanod ar y fron.

Mae llawer o fenywod yn y DU yn cael meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar gyfer asthma cyn neu yn ystod beichiogrwydd - oddeutu 11.8% o’r boblogaeth. Er hynny, mae cofnodion presgripsiwn yn dangos bod 28.3% o fenywod heb presgripsiynau yn ystod beichiogrwydd a noda hyn eu bod yn atal eu meddyginiaeth yn ystod y cyfnod.

Mae’r astudiaeth, sydd wedi ei chyhoeddi yng nghylchgrawn PLOS ONE, wedi darganfod bod menywod sydd wedi atal eu meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd mewn mwy o berygl o eni’n gynamserol, ond roedd menywod a barhaodd â'u presgripsiynau mewn risg is.

Dengys y data nad oedd risg uwch o eni’n gynamserol i fenywod a ragnodwyd corticosteroidau a anadlwyd yn unig, sy'n dynodi asthma wedi'i reoli'n dda. Archwiliodd yr ymchwilwyr geni’n fawr hefyd ac er bod y niferoedd yn rhy isel i'w dadansoddi'n llawn, nodwyd tuedd debyg.

Defnyddiodd y tîm ymchwil ddata o'r Secure Anonymised Information Linkage (SAIL), system amddiffyn preifatrwydd o'r radd flaenaf, a gedwir ym Mhrifysgol Abertawe ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r seilwaith ymchwil cenedlaethol.

Meddai’r Athro Sue Jordan wnaeth arwain yr astudiaeth: “I roi hyn yn ei gyd-destun, roeddwn yn ymwybodol o'r ymchwil bresennol fod gan fabanod sy'n cael eu geni cyn beichiogrwydd 32 wythnos risg o 6.2% o barlys yr ymennydd a risg o 40% o ddysplasia bron-ysgyfeiniol, ac mae gan fabanod a anwyd cyn 37 wythnos 1% risg o barlys yr ymennydd a 40% o risg o nam gwybyddol.

“Felly mae’n debygol bod menywod sy’n rhoi’r gorau i feddyginiaeth asthma yn ystod beichiogrwydd, yn aml heb gyngor meddygol, mewn mwy o berygl o gael babanod cyn amser a fyddai wedyn yn agored i’r cyflyrau meddygol cysylltiedig hyn. Mae'r data hwn, ynghyd â'r data ar gyfraddau bwydo ar y fron is, yn ei gwneud yn glir bod anghenion nas diwallwyd ymhlith menywod beichiog ag asthma.

“Datrysiad da fyddai rhaglenni cofnodion electronig gofal sylfaenol i dynnu sylw gweithwyr iechyd proffesiynol at fenywod sy'n gadael misoedd rhwng presgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau asthma. Gellid cynnig monitro agosach, cefnogaeth wedi'i thargedu a rheoli asthma gweithredol i'r menywod hyn cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, a fyddai'n fwy tebygol o arwain at ganlyniadau llawer mwy cadarnhaol. "

Rhannu'r stori