Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Canfyddiadau newydd ynghylch elfennau ym myd natur sy'n amddiffyn yn erbyn pelydrau'r haul

Canfyddiadau newydd ynghylch elfennau ym myd natur sy'n amddiffyn yn erbyn pelydrau'r haul

Mae ymchwil gan Brifysgol Abertawe wedi cynnig dealltwriaeth newydd o ymddygiad elfennau ym myd natur sy'n amddiffyn yn erbyn pelydrau'r haul pan fyddant yn dod i gysylltiad â rhannau eraill o'r sbectrwm golau. 

Mae asidau amino tebyg i mycosporine yn amddiffyn yn erbyn effeithiau niweidiol pelydriadau uwchfioled ar organebau byw yn ein cefnforoedd a'n llynnoedd.

Mae'n hysbys bod y cyfansoddion hyn yn cynyddu yn yr amgylchedd pan fo lefelau uwchfioled yn uchel. Mae'r cyfansoddion hyn yn unigryw, gan arwain at ddiddordeb gan y diwydiant gofal iechyd mewn datblygu eli haul drwy elfennau mwy naturiol.

Fodd bynnag, yn ôl astudiaeth newydd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r cyfansoddion hyn hefyd yn cynyddu pan ddaw celloedd byw algâu i gysylltiad â golau ar ben coch eithafol y sbectrwm golau.

Er ei bod yn ddigon hysbys bod golau uwchfioled yn cynyddu crynodiadau asidau amino tebyg i mycosporine, nid oedd neb wedi ymchwilio i effeithiau rhannau eraill o'r sbectrwm golau.

Meddai awdur yr astudiaeth, yr Athro Carole Llewellyn, o'r Gyfadran Peirianneg a Gwyddoniaeth: “Mae'n ddiddorol bod y golau coch eithafol yn chwarae rôl wrth gynhyrchu'r cyfansoddion uwchfioled hyn sy'n amddiffyn yn erbyn pelydrau'r haul. Mae'n tanlinellu bod rhannau gwahanol o'r sbectrwm golau'n chwarae rôl bwysig wrth gadw cydbwysedd iach mewn celloedd.

“Mae ein darganfyddiad hefyd yn tanlinellu'r cydadwaith cymhleth a geir ym myd natur ac yn codi amheuon ynghylch rôl y cyfansoddion hyn gyda'r posibilrwydd y gallent hefyd fod yn bwysig wrth gyfrannu at reoli tymheredd arwyneb y ddaear.”

Mae'r canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn Scientific Reports.

 

Rhannu'r stori