Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Plant yn dal i ddysgu yn ystod y cyfnod atal diolch i brosiect allgymorth Prifysgol Abertawe

Mae prosiect allgymorth gan Brifysgol Abertawe wedi helpu i ddosbarthu cannoedd o werslyfrau gwyddoniaeth i blant sy'n astudio gartref yng Nghymru yn ystod y cyfnod atal byr. 

Gwnaeth Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) Prifysgol Abertawe ddarparu gweithdai allgymorth gwyddoniaeth i ysgolion yn ne Cymru a datblygu cynnwys fideo ac ar-lein i ennyn diddordeb disgyblion drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud yn gynharach eleni.

Mae'r prosiect bellach wedi cymryd camau gweithredu eto wrth i S4 argraffu ail werslyfr gwyddoniaeth mawr i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 ei astudio gartref yn ystod hanner tymor a'r cyfnod atal byr.

Dosbarthodd academyddion o'r Brifysgol gannoedd o werslyfrau newydd sbon i ysgolion yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Maesteg er mwyn helpu disgyblion i ddysgu gwyddoniaeth gartref wrth i ysgolion gyrraedd y cyfnod atal byr. 

Mae'r gwerslyfrau gwyddoniaeth mawr yn llawn arbrofion gwyddoniaeth hwylus ac ymarferol y gall disgyblion eu gwneud gartref, yn ogystal â thaflenni gwaith, gwersi a dolenni i adnoddau ar-lein. Bydd y gwerslyfrau'n allweddol wrth ategu addysg gwyddoniaeth disgyblion wrth iddynt aros gartref am wythnos ychwanegol ar ôl hanner tymor.

Lluniwyd y llyfrau gan S4, prosiect allgymorth gan Brifysgol Abertawe sy'n ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth, a gellir eu defnyddio ar y cyd ag adnoddau ar-lein a grëwyd er mwyn helpu disgyblion i barhau i ddysgu. Mae S4 wedi bod yn rhan o raglen Trio Sci Cymru ers tair blynedd ac mae'n gweithio gyda nifer o ysgolion yn ardaloedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Maesteg.

Cafodd y llyfrau eu llunio gan wyddonwyr ac ymchwilwyr y prosiect a'u dosbarthu i ysgolion partner y prosiect – Ysgol Gymunedol Dylan Thomas, Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Pentrehafod, Ysgol Cwm Brombil, Ysgol San Joseff, Ysgol Maesteg ac Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed.

Meddai'r Athro Mary Gagen o S4: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i lunio gwerslyfr gwyddoniaeth arall i helpu dysgwyr i astudio gwyddoniaeth yn ystod y cyfnod atal byr. Mae llawer o gynnwys gwyddoniaeth gwych ar-lein ond nid yw pob dysgwr yn gallu cael gafael ar y rhyngrwyd na dyfais addas, felly mae deunyddiau print sy'n ddifyr ac yn rhyngweithiol yn bwysig iawn wrth i ddysgwyr orfod gweithio gartref.”

Meddai Dave Griffiths, Pennaeth Cyfadran (Gwyddoniaeth) Ysgol Gymunedol Dylan Thomas: “Rydym yn defnyddio'r gwerslyfrau gwyddoniaeth mawr i helpu disgyblion i ddysgu gartref yn ystod y cyfnod atal byr. Yn yr ystafell ddosbarth, gwnaethom ddefnyddio gwefan S4 i wneud gwaith modelu a dangos y plant y tabiau â lluniau sy'n ymddangos fel sgrinluniau yn y llyfryn. Er enghraifft, gwnaethom wylio'r fideo ar wyddor coed gyda'n gilydd; aethant i'r afael â'r cwestiynau a'r gweithgareddau yn yr adran hon. Yna cawsom gip ar yr adran atebion fel y byddant yn ymwybodol o leoliad yr atebion i gwestiynau yn y gwerslyfr gwyddoniaeth mawr pan fyddant gartref. Dywedwyd wrth y rhai sy'n cael anawsterau wrth ddefnyddio Google Classroom i ddewis ambell adran yn y llyfryn sy'n mynd â'u bryd. Caiff eraill eu cyfeirio at dasgau drwy ddefnyddio Google Classroom ar amseroedd gwersi penodol pan na fyddant yn yr ysgol.”

Ychwanegodd Dr Will Bryan o S4: “Mae'r gwerslyfrau mawr yn ffordd i ni barhau i gynnig gweithgareddau gwyddoniaeth allgyrsiol i'n hysgolion partner drwy gydol y flwyddyn heriol hon. Mae'r ail lyfr yn cynnwys gwersi, gweithgareddau a thaflenni gwaith ar destunau bioleg, cemeg a ffiseg, gyda gweithgareddau cyfleus i'w gwneud gartref er mwyn galluogi dysgwyr i ddal ati i arbrofi a pharhau i ennyn eu chwilfrydedd, sy'n hollbwysig. Yn yr ail lyfr hwn, rydym yn cyflwyno penodau ar seryddiaeth, cemeg cosmetigau, gwyddor pridd, y tywydd a'r hinsawdd, yn ogystal â gwybodaeth am fywyd gwyllt er mwyn annog disgyblion i fynd hwnt ac yma pan ddaw'r cyfle.”

Rhannu'r stori