Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Matt Townsend

Mae Matt Townsend, myfyriwr Nyrsio Oedolion o Brifysgol Abertawe, wedi ennill gwobr Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn yng Ngwobrau Myfyrwyr Nursing Times eleni.

Mae'r gwobrau, a gynhaliwyd ar ffurf rithwir ddydd Mawrth 27 Hydref, yn dathlu ac yn cefnogi cyflawniadau myfyrwyr nyrsio ledled y DU.

Gwnaeth Matt, sy'n 36 oed ac sy’n hanu o Aberdaugleddau, wirfoddoli yn gynharach eleni i weithio ar reng flaen y GIG yn ystod argyfwng Covid-19. Gan weithio yn Ysbyty Llwynhelyg yng ngorllewin Cymru, roedd Matt yn frwd dros helpu cleifion, nid yn unig yn feddygol, ond drwy gynnig clust i wrando arnynt wrth iddynt gael eu gwahanu rhag eu hanwyliaid yn ystod yr argyfwng.

Cadwodd Matt ddyddiadur myfyriol, gan nodi ei brofiadau drwy gydol ei gyfnod o weithio ar y rheng flaen. Mae ei ymdrechion a'i brofiadau wedi galluogi Matt i baratoi ar gyfer ei leoliadau yn ystod y flwyddyn academaidd hon ac ail don y pandemig ac maent hefyd wedi helpu i roi cipolwg i fyfyrwyr nyrsio eraill ar faes nyrsio oedolion.

Cyflwynodd Matt ei wobr er cof am Brian Mfula, darlithydd nyrsio iechyd meddwl uchel ei barch ym Mhrifysgol Abertawe, a fu farw o Covid-19 ym mis Ebrill.

Ar dderbyn ei wobr, meddai Matt: “Rwy'n teimlo'n freintiedig fy mod wedi cael fy nghydnabod yn y categori hwn, yn enwedig eleni, sydd wedi bod yn flwyddyn arbennig o heriol i ni i gyd. Hoffwn ddiolch i'm mentor academaidd, Elaine Jones, yn bersonol am fy annog i wneud fy ngorau bob amser. Mae'r wobr yn dilyn llawer o waith caled ac ymroddiad. Hoffwn hefyd ddiolch i'm gŵr Pete am ei gariad a'i gefnogaeth. Mae cwblhau'r radd ochr yn ochr ag ymrwymiadau ymchwil a chyhoeddi eraill weithiau'n rhoi straen arnaf, felly diolch i chi, Pete, am fy nghefnogi bob amser. Rwy'n cyflwyno fy ngwobr er cof am Brian Mfula – dyn dewr, ysbrydoledig a charedig.”

Cyrhaeddodd Sam Richards, myfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl 45 oed o Abertawe, y rhestr fer ochr yn ochr â Matt yng nghategori Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn. Roedd hyn yn cydnabod ei ymrwymiad i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau arwain eu hunain a'i gymorth wrth sefydlu'r Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Oherwydd ei gwaith wrth sefydlu'r Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr, daeth Prifysgol Abertawe yn ail yng nghategori'r Profiad Gorau i Fyfyrwyr.

Meddai'r Athro Jayne Cutter, pennaeth yr Adran Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe: “Rwy'n hynod falch o Matt a Sam, sydd wedi ymdrechu hyd eithaf eu gallu ers iddynt ymuno â Phrifysgol Abertawe ac sy'n dwyn clod ar y brifysgol a nyrsio fel proffesiwn.

“Mae gwaith Matt ar y rheng flaen wedi dangos ei frwdfrydedd dros nyrsio a'i ymrwymiad i'r proffesiwn. Pobl fel Matt sy'n taflu goleuni ar y GIG. Mae'r gofal y mae'n ei roi i'w gleifion a'r tosturi y mae'n ei ddangos iddynt yn gallu gwneud gwahaniaeth anferth i'w bywydau dan yr amgylchiadau ansicr hyn yn ystod cyfnod Covid-19.”

Rhannu'r stori