Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Hyfforddi'r cyhyrau sy'n rhan o'r broses anadlu, gan ddefnyddio dyfais llaw sy'n rhoi adborth rheolaidd i'r defnyddiwr. I ddefnyddio'r ddyfais hon, mae pobl yn mewnanadlu mor ddwfn â phosib, am gyhyd â phosib.

Hyfforddi'r cyhyrau sy'n rhan o'r broses anadlu. Mae pobl yn mewnanadlu mor ddwfn â phosib, am gyhyd â phosib.

Mae ymchwilwyr sy'n archwilio dull newydd o helpu i adfer iechyd pobl ar ôl Covid-19, gan ddefnyddio ymarferion anadlu a dyfais llaw, yn chwilio am wirfoddolwyr sydd wedi dioddef o'r cyflwr er mwyn eu helpu i'w brofi. Gallai'r gwaith fod o fudd i gleifion a lliniaru'r straen ar y GIG.

Mae mwy o bobl bellach yn goroesi Covid-19. Fodd bynnag, mae cleifion sydd wedi goroesi yn siarad am barhau i ddioddef o ddiffyg anadl, weithiau am fisoedd, sy'n achosi blinder ac yn ei gwneud yn anodd cyflawni tasgau sylfaenol bywyd pob dydd.

Mae'r tîm yn gweithio ledled y DU – dan arweiniad Dr Melitta McNarry a Kelly Mackintosh o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe, sydd o blith goreuon y DU – i geisio nodi'r ffordd orau o helpu i adfer iechyd pobl yn gyflym ac yn llawn.

Mae'r prosiect ymchwil newydd gael cyllid drwy raglen Sêr Cymru, a gynhelir gan Lywodraeth Cymru.

Mae Dr McNarry a'i thîm yn credu y gallant wella diffyg anadl drwy hyfforddi'r cyhyrau sy'n rhan o'r broses anadlu, gan ddefnyddio dyfais llaw sy'n rhoi adborth rheolaidd i'r defnyddiwr. I ddefnyddio'r ddyfais hon, mae pobl yn mewnanadlu mor ddwfn â phosib, am gyhyd â phosib.

Yn seiliedig ar waith blaenorol ar gyflyrau anadlol hirdymor, nodwyd bod cysylltiad rhwng gwneud yr ymarferion hyn cyn lleied â theirgwaith yr wythnos am oddeutu 20 munud a gwelliannau o ran teimladau pobl a'u gallu i symud o gwmpas.

Mae'r tîm yn chwilio am wirfoddolwyr i ddefnyddio'r ddyfais dros gyfnod rhwng pedair ac wyth wythnos, er mwyn gweld a fydd yn helpu i adfer eu hiechyd yn gyflymach. Bydd ymchwilwyr yn astudio a yw pobl yn anadlu'n well, yn teimlo'n gryfach ac yn fwy heini, yn symud o gwmpas yn fwy ac, yn bwysig, a ydynt yn teimlo'n well am eu hiechyd a'u lles. Caiff pob gwirfoddolwr adborth rheolaidd am eu cynnydd a digon o gymhelliant i ddal ati!

Mae'r Athro Cysylltiol McNarry, sy'n arbenigo mewn iechyd cardioanadlol, wedi gweithio gyda phobl sy'n dioddef o sawl math o gyflwr anadlol, megis clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, asthma a ffibrosis systig. Mae'n eu helpu i anadlu'n well drwy hyfforddiant ar fewnanadlu, ymarferion dwys am gyfnodau byr a gweithgarwch corfforol. Mae hefyd wedi gweithio gyda chlinigwyr i wella rhaglenni adsefydlu ysgyfeintiol ar gyfer cleifion â chlefydau anadlol.

Meddai Dr Melitta McNarry:

“Mae'n newyddion gwych bod mwyfwy o bobl bellach yn goroesi Covid-19. Ond mae'n hollbwysig ein bod bellach yn canolbwyntio ar adsefydlu cleifion, er mwyn adfer eu hiechyd yn gyflym ac yn llawn. I'r perwyl hwn, mae angen i ni feithrin dealltwriaeth well o effeithiau hirdymor Covid-19 a ffyrdd o liniaru'r rhain.

Dim ond drwy gymorth gwirfoddolwyr y gallwn wneud hyn. Dyna'r rheswm dros ofyn i bobl sydd wedi goroesi Covid-19 i ystyried cymryd rhan yn ein gwaith ymchwil.

Gallwch fod yn oedolyn o unrhyw oedran o unrhyw ran o'r DU ac nid yw'n bwysig pryd roeddech wedi dioddef o Covid-19. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, byddwn yn falch o glywed gennych. Gallaf roi mwy o wybodaeth i chi am y gwaith ac ateb eich cwestiynau, er mwyn rhoi cyfle i chi benderfynu a allwch helpu.”

A ydych wedi goroesi Covid-19? Os ydych yn meddwl y gallwch helpu, cysylltwch â Dr McNarry drwy ffonio 01792 513069 neu drwy e-bostio m.mcnarry@abertawe.ac.uk

Rhannu'r stori