Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Afon Claerwen.

Afon Claerwen. Llun: Sara Barrento.

Mae ymchwil newydd a arweinir gan academyddion o Brifysgol Abertawe, drwy gymorth gwyddonwyr gwirfoddol, wedi gweld bod 99% o fasnau afonydd yn y DU wedi'u rhannu gan rwystrau artiffisial fel argaeau, coredau a chwlferi. Mae angen cymryd camau gweithredu brys i ailgysylltu afonydd, er mwyn sicrhau eu hiechyd hirdymor, ac iechyd hirdymor y cymunedau o'u cwmpas.

Drwy gymorth gwyddonwyr gwirfoddol ar hyd a lled y DU, cofnododd ymchwilwyr Abertawe a oedd yn gweithio ar brosiect Rheoli Rhwystrau yn Afonydd Ewrop yn Addasol (AMBER) Horizon 2020 yr UE gyfanswm o 1,232 o rwystrau. Mae'r cyfanswm hwn yn llawer uwch na'r nifer o rwystrau a gofnodwyd yn swyddogol ac mae'r tîm bellach yn galw ar fwy o bobl sy'n cerdded yn rheolaidd wrth ymyl eu hafonydd lleol i gofnodi eu harsylwadau yn yr ap olrhain rhwystrau, y gellir ei lawrlwytho am ddim, er mwyn helpu i gyflwyno darlun cywirach o iechyd afonydd a dyfrffyrdd yn y DU.  

Mae nifer yr afonydd sy'n llifo'n rhydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn brin a cheir o leiaf un rhwystr artiffisial bob 1.5km ar gyfartaledd. Mae hyn yn golygu bod llai o ryddid i bysgod, pryfed a phlanhigion dyfrol ffynnu.  

Mae angen rhai rhwystrau at ddibenion cynhyrchu dŵr yfed, dyfrhau, cynhyrchu ynni ac ar gyfer systemau amddiffyn rhag llifogydd, yn ogystal ag er mwyn croesi afonydd, ond mae'n hollbwysig lleihau effeithiau negyddol y rhwystrau hyn. Mae coredau, adeileddau ynni dŵr, argaeau mawr, cwlferi a rhydau yn torri'r llif, yn rhannu dyfrffyrdd, yn ynysu cynefinoedd ac yn gwanhau poblogaethau bywyd gwyllt.

Hyd yn hyn, mae'r canfyddiadau wedi dangos y canlynol:

  • Er bod argaeau'n fawr, maent yn gyfrifol am lai na 2% o'r rhwystrau a gofnodwyd.
  • Mae bron hanner y rhwystrau yn rampiau (43%), mae 23% yn goredau ac mae 21% yn gwlferi.

Ar ôl dadansoddi'r data maes a'r cronfeydd data presennol sy'n nodi rhwystrau yn y DU, gwelodd ymchwilwyr prosiect AMBER y canlynol hefyd:

  • Mae'r amcangyfrifon ynghylch y rhaniadau mewn llifoedd yn yr wybodaeth bresennol am y rhwystrau hyn o leiaf 68% yn rhy isel.
  • Yn hytrach na 23,618 o rwystrau, gallai fod cynifer â 66,381.
  • Mae rhwystrau mân fel rhydau, cwlferi a choredau wedi'u hepgor o'r data presennol.

Meddai Cydlynydd a Phrif Ymchwilydd Prosiect AMBER, yr Athro Carlos Garcia de Leaniz: “Gyda'r cyfyngiadau symud diweddar a'r mesurau cadw pellter cymdeithasol parhaus, mae ein bydoedd wedi suddo'n sydyn i faint ein cartrefi. Ond gall mynd am dro wrth ymyl afon sy'n llifo wella ein lles ac rydym yn galw ar fwy o bobl i fynd allan i'w hafonydd lleol a chofnodi'r rhwystrau y maent yn eu gweld. Yn ogystal â bod o fudd mawr i'w lles, bydd yr wybodaeth y maent yn ei hanfon atom o fudd i afonydd, bywyd gwyllt a'r gymuned ehangach.”

Mae prosiect AMBER Horizon 2020 yr UE am reoli'r ffordd y gweithredir argaeau a rhwystrau eraill yn afonydd Ewrop er mwyn sicrhau y defnyddir adnoddau dŵr mewn modd mwy cynaliadwy ac yr adferir cysylltedd llifoedd yn fwy effeithlon. Mae'r prosiect wedi datblygu adnoddau ac efelychiadau er mwyn helpu cwmnïau dŵr a rheolwyr afonydd i fwyafu manteision rhwystrau a lleihau effeithiau ecolegol.

Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn y cyfnodolyn Science Direct.

Ceir gwybodaeth am y prosiect a sut i lawrlwytho'r ap olrhain rhwystrau drwy fynd i dudalen we’r atlas o rwystrau.

Rhannu'r stori