Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Gwir faint siarc anferthol cynhanes wedi'i ddatgelu o'r diwedd

Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bryste wedi datgelu maint siarc anferthol chwedlonol y Megalodon, gan gynnwys esgyll sydd mor fawr â dyn. 

Mae rhyw ddiddordeb arswydus yn gysylltiedig â dod o hyd i faint y siarcod mwyaf, ond gall fod yn anodd ar gyfer ffosiliau sy'n cynnwys dannedd yn unig yn aml.

Heddiw, y siarc byw mwyaf arswydus yw'r siarc mawr gwyn, sy'n fwy na chwe metr (20 troedfedd) o hyd ac sy'n brathu â grym dwy dunnell.

Roedd siarc dannedd mawr y Megalodon, sy'n enwog o ffilmiau Hollywood, yn byw rhwng 23 a thair miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd mwy na dwywaith yn hwy na'r siarc mawr gwyn, ac roedd grym ei frathiad yn fwy na 10 tunnell.

Dannedd torri trionglog sy'n fwy na maint llaw dyn yw'r rhan fwyaf o ffosiliau'r Megalodon. Defnyddiodd Jack Cooper a'i gydweithwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bryste nifer o ddulliau mathemategol er mwyn pennu maint a mesuriadau'r bwystfil hwn, drwy wneud cymariaethau agos ag amrywiaeth o berthnasau byw sy'n meddu ar debygrwydd ecolegol a ffisiolegol i'r Megalodon.

Dr Catalina Pimiento, sy'n arbenigwr ar siarcod o Brifysgol Abertawe, a'r Athro Mike Benton, sy'n baleontolegydd ym Mhrifysgol Bryste, fu'n goruchwylio'r prosiect. Cafwyd cydweithrediad Dr Humberto Ferrón o Brifysgol Bryste hefyd. Cyhoeddir eu canfyddiadau yn y cyfnodolyn Scientific Reports.

Meddai Jack Cooper, a fydd bellach yn dechrau ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe: “Rwyf wedi dwlu ar siarcod erioed. Fel myfyriwr israddedig, rwyf wedi gweithio a phlymio gyda siarcod mawr gwyn yn Ne Affrica – er i mi gael fy niogelu gan gawell dur, wrth gwrs. Yn ogystal â'r ymdeimlad o berygl, mae'r ffaith bod siarcod yn greaduriaid mor hardd a chyfaddas yn eu gwneud yn atyniadol at ddibenion astudio.

“Yn wir, y Megalodon oedd yr anifail cyntaf i'm hysbrydoli i ddilyn paleontoleg yn y lle cyntaf pan oeddwn yn chwe blwydd oed, felly roeddwn wrth fy modd i gael cyfle i'w astudio.

“Dyma'r prosiect perffaith i mi. Ond mae'n anodd astudio'r anifail cyfan gan mai dim ond llawer o ddannedd ar wahân sydd gennym mewn gwirionedd.”

Yn y gorffennol, roedd y siarc ffosilaidd, a adwaenir yn ffurfiol fel Otodus megalodon, yn cael ei gymharu â'r siarc mawr gwyn yn unig. Am y tro cyntaf, ehangodd Jack a'i gydweithwyr y gwaith dadansoddi i gynnwys pum siarc modern.

Meddai Dr Catalina Pimiento: “Nid yw'r Megalodon yn hynafiad uniongyrchol i'r siarc mawr gwyn, ond mae'n perthyn i'r un graddau i siarcod rheibus eraill megis y morgi trwynfain a mathau gwahanol o gorgwn môr, yn ogystal â'r siarc mawr gwyn. Gwnaethom gyfuno mesuriadau manwl yr holl rywogaethau hyn i wneud amcangyfrifon am y Megalodon.”

Ychwanegodd yr Athro Benton: “Cyn y gallem wneud unrhyw beth, roedd yn rhaid i ni brofi a oedd mesuriadau’r siarcod modern hyn yn newid o ran cymesuredd wrth iddynt dyfu. Er enghraifft, pe baent wedi bod yn debyg i bobl, lle mae gan fabanod bennau mawr a choesau byr, byddai wedi peri problemau i ni wrth amcangyfrif mesuriadau siarc diflanedig mor fawr fel oedolyn.

“Ond roedd yn destun syndod, a rhyddhad, i ni ddarganfod bod babanod yr holl siarcod rheibus modern hyn yn ymdebygu i oedolion bach o'r dechrau, ac nid yw eu mesuriadau’n newid o ran cymesuredd wrth iddynt dyfu.”

Ychwanegodd Jack Cooper: “Oherwydd hyn, gallem ddefnyddio cromliniau twf y mathau modern ac amcangyfrif y siâp cyffredinol wrth iddynt dyfu'n fwyfwy – tan i hyd y corff gyrraedd 16 metr.”

Mae'r canlyniadau'n awgrymu, yn ôl pob tebyg, fod mesuriadau Otodus megalodon 16 metr o hyd fel a ganlyn: roedd ei ben oddeutu 4.65 metr o hyd, roedd ei asgell ddorsal oddeutu 1.62 fetr o uchder, ac roedd ei gynffon oddeutu 3.85 metr o uchder.

Mae hyn yn golygu y gallai pobl mewn oed sefyll ar gefn y siarc hwn a byddent tua'r un taldra â'r asgell ddorsal.

Mae ail-lunio maint rhannau corff y Megalodon yn gam sylfaenol tuag at feithrin dealltwriaeth well o ffisioleg y cawr hwn ac o'r ffactorau cynhenid a allai fod wedi arwain at ei dranc.

 

Rhannu'r stori