Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Clawr Horse Race Politics: The 2020 US Presidential Campaign

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi lansio cyfres newydd o bodlediadau sy'n defnyddio data ar y pryd o farchnadoedd gamblo gwleidyddol er mwyn dadansoddi ymgyrch arlywyddiaeth 2020 yr Unol Daleithiau.

Gan ddod ag arbenigwyr gwyddor gwleidyddiaeth ac astudiaethau cyfryngau at ei gilydd, mae'r podlediad wythnosol Horse Race Politics: The 2020 US Presidential Campaign yn cynnig cipolwg ar ymgyrch arlywyddiaeth 2020 sy'n seiliedig ar ymchwil, gan helpu gwrandawyr i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r sefyllfa wleidyddol, yn ogystal ag ystyr digwyddiadau'r ymgyrch a sut maent yn debygol o effeithio ar ganlyniad yr etholiad.

Meddai Dr Matt Wall, Athro Cysylltiol Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe: “Ar adeg pan fo pobl yn wynebu cawod o newyddion gwleidyddol ddydd a nos, bydd y podlediad hwn yn cysylltu pobl â ffordd newydd o ystyried y newyddion – un a fydd yn esbonio perthnasedd straeon yn ogystal â rhoi gwybodaeth iddynt am eu cynnwys.”  

Ychwanegodd Dr Allaina Kilby, Darlithydd Newyddiaduraeth yn yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu: “Mae dychan ar y teledu yn America yn chwarae rôl bwysig wrth ychwanegu cyd-destun a llais beirniadol at newyddion gwleidyddol. Mae ein podlediad yn ystyried gallu dychanwyr teledu i hepgor arferion newyddiadurol, gan roi cyfle iddynt adrodd am straeon etholiadol sydd y tu hwnt i agenda newyddion prif ffrwd.”

Meddai Dr Richard Thomas, Uwch-ddarlithydd Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym yn gwybod yn reddfol fod y sylw a roddir gan y cyfryngau i etholiadau yn bwysig i ddinasyddion a'r gwleidyddion sy'n ceisio ymgysylltu â hwy a dwyn perswâd arnynt. Serch hynny, yn draddodiadol, mae'n anodd mesur effaith newyddion etholiad. Bydd y podlediad newydd hwn yn nodi'r digwyddiadau a'r straeon newyddion sy'n creu argraff go iawn ar yr etholwyr, ac yn trafod y ffyrdd y mae adroddiadau am ymgyrch 2020 yn dilyn modelau sefydledig neu'n mynd yn groes i'r tueddiadau.”

Caiff penodau newydd eu rhyddhau ar Spotify ac Apple Podcasts bob dydd Gwener o 25 Medi.

Rhannu'r stori