Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Y Brifysgol yw noddwr newydd blaen crys yr Elyrch

Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi mai hi fydd noddwr blaen crys Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe ar gyfer tymor 2020-21. 

Bydd enw'r Brifysgol ar flaen crysau cartref ac oddi cartref newydd y tîm cyntaf drwy gydol yr ymgyrch sydd ar ddod yn y Bencampwriaeth.

Rhoddir y logo ar grysau cartref ac oddi cartref tîm dan-23 oed a thîm menywod y clwb hefyd, a bydd cefnogwyr ifanc y clwb bellach yn gallu gwisgo'r un crys replica.

Er mwyn ategu ei rôl fel noddwr, bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cadw ei statws fel unig Bartner Addysg Uwch Dinas Abertawe.

Bydd y Brifysgol, yr oedd ei logo ar gefn crys a dillad ymarfer a theithio'r clwb yr oedd y chwaraewyr a'r staff yn eu gwisgo y tymor diwethaf, hefyd yn parhau i noddi Eisteddle'r Gorllewin yn y stadiwm, yn ogystal ag arddangos ei brand yn ystod gemau ar SwansTV Live a gaiff eu ffrydio i gefnogwyr y clwb, yn rhyngwladol ac yn y DU.

Gall cefnogwyr flaenarchebu'r cit YMA.

Meddai Andrew Rhodes, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein boddau i noddi blaen crys Dinas Abertawe y tymor nesaf.

“Gan atgyfnerthu ein partneriaeth â'r clwb pêl-droed fel ei Bartner Addysg Uwch, a gafodd ei hadnewyddu am y tair blynedd nesaf yn ddiweddar, bydd y cytundeb noddi hwn o fudd mawr i Brifysgol Abertawe wrth i ni geisio recriwtio myfyrwyr ar gyfer y dyfodol.

“Mae'r berthynas yn ymwneud â mwy na noddi'r clwb gan ei bod yn ymestyn i'r chwaraeon o'r radd flaenaf a gynigir gennym, yn ogystal â rhoi cymorth i fyfyrwyr a'r ardal leol.

“Hoffem ddiolch i bawb yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe am barhau i'n cefnogi ac rydym yn edrych ymlaen at y tymor yn y gobaith y bydd yn un llwyddiannus ar y cae ac oddi arno.”

Ychwanegodd Pennaeth Masnachol Dinas Abertawe, Rebecca Edwards-Symmons: “Rwy'n falch iawn mai Prifysgol Abertawe fydd ein prif noddwr ar gyfer tymor 2020-21. Dyma bartneriaeth berffaith sy'n cyfleu ein clwb a'n dinas i'r dim.

“Dyma'r tro cyntaf ers pedair blynedd i ni beidio â chynnwys brand betio ar flaen y crys, sy'n rhoi cyfle i'n Junior Jacks wisgo'r un crys â chwaraewyr yr Elyrch sy'n arwyr iddynt.

“Nid oes dim byd gwell i ni fel clwb na meithrin cysylltiadau â brandiau lleol, clodwiw ac rydym yn edrych ymlaen at dymor llwyddiannus iawn i ddod.”

Rhannu'r stori