Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Discovery yn cael cyllid i gynorthwyo'r ymateb i bandemig COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu dau grant i'r elusen Discovery SVS er mwyn helpu ei gwaith i liniaru effaith COVID-19 yng Nghymru ac mewn cymunedau yn Affrica.  

Bydd y grant cyntaf gwerth £14,400 yn helpu'r cynllun gwirfoddoli â chymorth a gynhelir gan Discovery, sydd fel arfer yn partneru myfyrwyr sy'n gwirfoddoli ag oedolion anabl o'r gymuned leol. Yn sgil y cyfyngiadau presennol oherwydd coronafeirws, mae myfyrwyr yn cadw mewn cysylltiad dros y ffôn â'r bobl y maent yn eu cefnogi ar adeg pan fo llawer o bobl wedi'u hynysu.

Drwy gadw mewn cysylltiad ar ffurf rithwir, caiff myfyrwyr a'r oedolion anabl y maent yn eu cefnogi gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau megis gwirfoddoli rhithwir neu chwarae gemau ar-lein.

Meddai Carys Jones, un o'r graddedigion diweddar sydd wedi bod yn cefnogi oedolion ag anghenion ychwanegol yn ystod y pandemig: “Mae gwirfoddoli gyda Discovery ar yr adeg ansicr ac anodd iawn wedi effeithio ar fy nghyflwr meddwl mewn ffordd gadarnhaol a chynhyrchiol.

“Mae gallu ysgogi rhywun arall i wenu, a chwerthin, a chael yr un profiad yn ôl wedi fy helpu i oresgyn heriau caletaf y misoedd diwethaf hyn.”

Mae Discovery hefyd wedi cael cyllid i helpu i leihau effaith coronafeirws yn Sambia. Mae gan yr elusen bartneriaeth hirdymor â Siavonga Nutrition Group a bydd y cyllid gwerth £7,300 yn helpu i greu cynllun dosbarthu bwyd diogel o ran COVID-19, gan weithio gyda thyfwyr lleol sydd wedi cael eu herio'n sylweddol gan y cyfyngiadau symud sydd wedi bod yn angenrheidiol oherwydd COVID-19.

Bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod tyfwyr yn gallu gwerthu eu cynnyrch a bod rhai o'r teuluoedd a'r unigolion mwyaf agored i niwed yr effeithiwyd ar eu hincwm a'u cyflogaeth yn gallu cael gafael ar fwyd maethlon. Bydd y bartneriaeth hefyd yn rhannu gwybodaeth am reoli heintiau, masgiau, sebon a hylif diheintio â gwerthwyr cynnyrch a chymunedau agored i niwed.

Meddai Eleanor Norton, Rheolwr Gyfarwyddwr Discovery: “Rydym wrth ein boddau ac yn ddiolchgar ein bod yn gallu cael gafael ar y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae COVID-19 wedi effeithio'n fawr ar elusennau a phobl agored i niwed yng Nghymru a Sambia, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu parhau i wneud gwahaniaeth i bobl ar yr adeg anodd hon.

“Fel arfer, mae ein myfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli wedi bod yn anhygoel, gan ymateb i'r her o roi cefnogaeth wirfoddol mewn ffordd hollol newydd.”

Ychwanegodd Musuka Mutondo, Cyfarwyddwr Siavonga Nutrition Group: “Bydd y cyllid yn helpu'r aelwydydd agored i niwed a oedd eisoes yn cael trafferthion i gael gafael ar brydau bwyd o safon ar ôl y cyfnodau sych a'r llifogydd. Byddant yn gallu gwisgo masgiau a chaiff pob un ohonynt sebon i olchi eu dwylo.”

Rhannu'r stori