Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

James Hook, Cymru v Awstralia (Huw Evans Picture Agency): mae'r arwr rygbi rhyngwladol wedi derbyn swydd hyfforddwr ymosodol timau rygbi Prifysgol Abertawe.

James Hook, Cymru v Awstralia (Huw Evans Picture Agency):  mae'r arwr rygbi rhyngwladol wedi derbyn swydd hyfforddwr ymosodol timau rygbi Prifysgol Abertawe.

Mae'r arwr rygbi rhyngwladol James Hook, a wnaeth chwarae 81 o weithiau dros Gymru a theithio gyda Llewod Prydain ac Iwerddon i Dde Affrica yn 2009, wedi derbyn swydd hyfforddwr ymosodol timau rygbi Prifysgol Abertawe.

Mae'r newyddion yn dilyn y cyhoeddiad ei fod wedi cael ei benodi'n hyfforddwr sgiliau a chicio'r Gweilch, lle daeth i'r amlwg fel maswr, er iddo hefyd ddangos ei ddoniau rygbi mewn safleoedd eraill ymhlith yr olwyr. 

Sgoriodd Hook 352 o bwyntiau mewn 81 gêm ryngwladol rhwng 2006 a 2015. Cyfrannodd at ddwy Gamp Lawn a thri thîm a enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn ogystal â chwarae mewn tair cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Ar hyn o bryd, mae'n ail ar restr sgorwyr y Gweilch erioed ar ôl casglu 841 o bwyntiau. At ei gilydd, croesodd am 19 o geisiadau a chiciodd y bêl drwy'r pyst 290 o weithiau i'r rhanbarth.

Drwy ehangu'r cytundeb partneriaeth perfformiad â'r Gweilch, nod y Brifysgol yw parhau i ddatblygu a gwella rhaglen rygbi sydd eisoes wedi ennill statws Uwch-gynghrair Rygbi (Super Rugby) BUCS a mwynhau llwyddiant yn ei thymor cyntaf ar ôl dechrau gweithio gyda'r rhanbarth.

Bydd Hook yn ymuno ag un o'i gydweithwyr gyda'r Gweilch, Hugh Gustafson, sef prif hyfforddwr presennol y Brifysgol, fel rhan o'r bartneriaeth.

Wrth drafod ei rôl newydd gyda'r Brifysgol, meddai James Hook:

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe. Roeddwn wrth fy modd yn gweithio gyda thîm dan 18 oed y Gweilch y tymor diwethaf ac mae cael y cyfle nawr i weithio gyda'r Brifysgol drwy'r bartneriaeth â'r Gweilch yn destun cyffro.

Bydd ychydig yn wahanol i'm rôl gyda'r Gweilch ond gobeithio y gallaf drosglwyddo fy ngwybodaeth fel hyfforddwr olwyr, a gweithio i wella dyfnder ac ansawdd y chwaraewyr sy'n rhan o lwybr y Gweilch.”

Mae gan glwb rygbi'r Brifysgol bum tîm dynion a dau dîm menywod sy'n cystadlu yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae tîm cyntaf y menywod yn cystadlu yn Uwch-gynghrair Ddeheuol BUCS (y brif gynghrair) ac mae'r dynion yn cystadlu yn Uwch-gynghrair Rygbi BUCS (y brif gynghrair). Mae'r clwb yn croesawu unrhyw ddarpar chwaraewyr, ni waeth beth fo eu cefndir chwaraeon, lefel eu sgiliau neu eu profiad.

Mae'r Brifysgol yn falch o'r llu o arwyr chwaraeon sydd ymhlith ei chyn-fyfyrwyr, gan gynnwys Alun Wyn Jones a Siwan Lillicrap, sydd hefyd yn Bennaeth Rygbi yn y Brifysgol.

Gan drafod ychwanegiad Hook at y garfan, meddai Siwan:

“Mae'n gyffrous iawn bod rhywun o brofiad ac arbenigedd James yn ymuno â ni fel hyfforddwr ymosodol eleni. Mae ef wedi chwarae ar y lefel uchaf yn ystod ei yrfa a bydd yn fentor gwych i'n myfyrwyr i gyd.

Bydd yn mynd â ni gam ymhellach, gan ddangos llwyddiant ein partneriaeth â'r Gweilch.

Yn ystod yr wythnosau cyntaf, byddwn yn dilyn protocolau cymunedol Undeb Rygbi Cymru ac rydym yn bwriadu ailddechrau yn wythnos gyntaf mis Medi. Byddwn yn treulio wythnos neu ddwy cyn y tymor yn rhoi'r holl ganllawiau ar waith. Bydd yn ymwneud â llawer o waith sgiliau a ffitrwydd a bydd yn amser gwych i James gymryd rhan yn gynnar a gweld sgiliau'r bechgyn y gall ef fynd ati i'w datblygu a'u gwella.”

Rhannu'r stori