Mae Tywysog Cymru wedi recordio neges fideo arbennig ar gyfer Prifysgol Abertawe wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant ar 19 Gorffennaf.
Yn ei neges, dywedodd Tywysog Cymru fod ei hen dad-cu, y Brenin Siôr V, wedi gosod carreg sylfaen Coleg Prifysgol Abertawe ym Mharc Singleton ar 19 Gorffennaf 1920 a'i fod “yn falch o nodi'r garreg filltir arbennig hon yn hanes cyfoethog y Brifysgol” gan mlynedd yn ddiweddarach.
O wreiddiau dinod gydag 89 o fyfyrwyr ac un adeilad parhaol ym 1920, mae gan Brifysgol Abertawe ddau gampws erbyn hyn ac mae'n addysgu mwy nag 20,000 o fyfyrwyr o 139 o wledydd ac yn cael ei chydnabod am ei hymchwil o'r radd flaenaf.
Agorodd Tywysog Cymru Gampws y Bae'r Brifysgol yn swyddogol yn haf 2016 a dywedodd fod “hwyliau'r Brifysgol ar i fyny, yn barod iawn i ymateb i heriau'r dyfodol” bryd hynny, cyn ychwanegu: “Mae'r ysbryd a'r parodrwydd hwnnw bellach wedi cael eu profi i'r eithaf, wrth gwrs, ar yr adeg ansicr hon i ni i gyd.”
Gwnaeth y Tywysog ganmol ymateb y Brifysgol i'r argyfwng coronafeirws, gan ddweud: “Mae wedi codi fy nghalon yn aruthrol i glywed am holl waith caled myfyrwyr, staff a phartneriaid y Brifysgol i gefnogi'r gymuned leol, genedlaethol a rhyngwladol drwy gydol y pandemig. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys myfyrwyr meddygol a gofal iechyd yn ymuno â'r rheng flaen ac yn rhoi cymorth hollbwysig i'r GIG, aelodau o staff yn cynhyrchu cyfarpar diogelu personol a hylif diheintio dwylo hanfodol ar gyfer byrddau iechyd lleol a phartneriaid, cynnig llety'r Brifysgol i weithwyr allweddol na allant fod gartref a myfyrwyr yn gwirfoddoli i weithio gyda grwpiau agored i niwed, gan eu cefnogi dros y ffôn a defnyddio gweithgareddau ar-lein i gadw'r gymuned yn gysylltiedig.”
Yn ôl Ei Uchelder Brenhinol, mae'n “briodol iawn” bod cyllid a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer dathliadau canmlwyddiant y Brifysgol bellach yn cefnogi'r ymateb i Covid-19, drwy ariannu prosiectau ymchwil hollbwysig a chefnogi lles myfyrwyr ar adeg lle mae llawer o bobl yn wynebu caledi.
“Mae'r ymrwymiadau hyn yn adlewyrchu cenhadaeth y Brifysgol i wasanaethu ei chymuned, addysgu ei phobl, mynd i'r afael â heriau byd-eang yr oes a chynnig cartref a chymorth. Sylfaenwyd y sefydliad ar y gwerthoedd hyn ym 1920, ac rwy'n falch eu bod yn parhau i fod wrth wraidd ei genhadaeth heddiw,” ychwanegodd.
Gorffennodd y Tywysog ei neges drwy longyfarch y Brifysgol ar gyrraedd ei charreg filltir arbennig a dweud: “Mae'r dathliadau ar yr achlysur hwn yn gyfle i fyfyrio ar gyflawniadau a hynt y Brifysgol dros y ganrif ddiwethaf, yn ogystal ag edrych tua'r dyfodol ac i ymrwymiad y Brifysgol i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw yfory ac wedyn.”
Gwnaeth yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, ddiolch i'r Tywysog am barhau i gefnogi'r Brifysgol: “Ar ran cymuned Prifysgol Abertawe, hoffwn ddiolch i'w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru am ymuno â ni, ar ffurf rithwir, wrth i ni nodi'r achlysur arbennig hwn yn ein 100 mlynedd o hanes. Rydym yn falch bod Campws y Bae yn un o brosiectau blaenllaw Sefydliad y Tywysog ar gyfer Adeiladu Cymunedau, ac rydym yn dal i fod yn hynod ddiolchgar i'w Uchelder Brenhinol am barhau i'n cefnogi.”