Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae peiriant newydd ei ddyfeisio, o'r enw Matrix Assembly Cluster Source (MACS), wedi cael ei ddefnyddio i lunio dull arloesol o drin dŵr heb hydoddyddion.

Mae peiriant newydd ei ddyfeisio, o'r enw Matrix Assembly Cluster Source (MACS), wedi cael ei ddefnyddio i lunio dull arloesol o drin dŵr heb hydoddyddion. 

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu dull newydd o gael gwared ar gemegion gwenwynig o ddŵr.

Mae peiriant newydd ei ddyfeisio, o'r enw Matrix Assembly Cluster Source (MACS), wedi cael ei ddefnyddio i lunio dull arloesol o drin dŵr heb hydoddyddion.

Cafodd y gwaith ymchwil, gan y Sefydliad Technolegau, Deunyddiau, Prosesu a Rhifiadol Arloesol (IMPACT) yn y Coleg Peirianneg, ei ariannu gan yr EPSRC a'i arwain gan yr Athro Richard Palmer.

Dyma esboniad yr Athro Palmer:

“Caiff y moleciwlau organig niweidiol eu dinistrio gan gyfrwng ocsidio pwerus, osôn, wedi'i atgyfnerthu gan gatalydd. Fel arfer, caiff y fath gatalyddion eu cynhyrchu drwy ddulliau cemegol sy'n defnyddio hydoddyddion, gan greu problem arall – sut i ymdrin ag elifion y broses gynhyrchu?

Yr hyn sy'n arloesol yn Abertawe yw peiriant newydd ei ddyfeisio sy'n cynhyrchu'r catalydd drwy ddulliau ffisegol, heb unrhyw hydoddyddion nac elifion. Mae'r dechneg newydd yn newid sylweddol i'r dull o drin dŵr a phrosesau catalytig eraill.”

Mae'r Athro Palmer yn ychwanegu:

“Mae ein dull newydd o wneud catalyddion at ddibenion trin dŵr yn defnyddio proses ffisegol sy'n seiliedig ar wagio heb hydoddyddion. Clystyrau o atomau arian yw'r gronynnau catalytig, a wneir gan y peiriant MACS newydd ei ddyfeisio.

Mae'n datrys problem hirsefydlog cynhyrchu cyfradd isel o glystyrau – gan olygu, am y tro cyntaf, ei bod yn bosib cynhyrchu digon o glystyrau i'w hastudio mewn tiwb prawf, gyda'r posibilrwydd o'u cynyddu ymhellach er mwyn cynhyrchu llwythi bach a mwy.”

Mae'r clystyrau oddeutu 10,000 o weithiau'n llai na lled blewyn unigolyn ac maent wedi bod o gryn ddiddordeb i ymchwilwyr oherwydd eu priodoleddau unigryw. Fodd bynnag, o ganlyniad i gyfraddau cynhyrchu clystyrau annigonol, bu'r ymchwil yn brin yn y maes hwn.

Mae'r dull MACS newydd wedi newid hyn – mae'n cynyddu dwysedd y pelydryn clwstwr er mwyn cynhyrchu digon o bowdr clwstwr i wneud profion ymarferol. Yna bydd ychwanegu osôn at y powdr yn dinistrio cemegion llygrol mewn dŵr, sef nitroffenol yn yr achos hwn.

Dyma grynodeb yr Athro Palmer o botensial y dechnoleg arloesol hon yn y dyfodol:

“Mae dull MACS o ddylunio deunyddiau gweithredol ar nano-raddfa yn agor gorwelion cwbl newydd mewn amrywiaeth eang o feysydd – o ffiseg a chemeg i fioleg a pheirianneg. Felly, mae ganddo'r gallu i sicrhau gwelliannau radicalaidd ym maes uwch-dechnoleg – catalyddion, biosynwyryddion deunyddiau ar gyfer cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy.

Mae'n ymddangos yn briodol iawn bod yr arddangosiad ymarferol cyntaf o broses gynhyrchu ecogyfeillgar Abertawe'n ymwneud â rhywbeth sy'n bwysig i bawb – dŵr glân!”

Mae'r tîm ymchwil yn cynnwys Dr Chedly Tizaoui yn Abertawe, sy'n cydweithio â'r Athro Nikos Dimitratos a'r Athro Stefania Albonetti yn Bologna yn yr Eidal.

Mae'r papur ymchwil ar gael yn ei gyfanrwydd yn ACS Publications.

Ariennir gweithrediad IMPACT yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.

 

Rhannu'r stori