Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n derbyn yr her o godi arian am ganser

Mae ymchwilwyr i ganser o Brifysgol Abertawe wedi herio eu hunain i feicio am fwy na 4,500km ym mis Mehefin er mwyn codi arian am yr elusen Gofal Canser Tenovus. 

Mae'r tîm o'r grŵp Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol (RBGO) wedi derbyn y ‘baton’ rhithwir gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, a gododd fwy na £3,500 drwy redeg dros 1,000 milltir ym mis Mai.

Mae hyn i gyd yn rhan o'r ymgyrch Pass the Baton for Cancer Research a sefydlwyd gan Dr Alan Parker o Brifysgol Caerdydd, sy'n ceisio codi arian am nifer o elusennau canser y mae'r argyfwng parhaus o ran coronafeirws wedi effeithio'n wael ar eu hincwm.

Meddai'r Athro Steve Conlan, pennaeth grŵp RBGO Prifysgol Abertawe: “Ein bwriad yw beicio o gwmpas Gŵyr gant o weithiau ar ffurf rithwir, sef 4,500km, a'n gobaith yw codi £1,000 am Ofal Canser Tenovus, sy'n noddi ein hymchwil, a chanolfannau canser Maggie's.

“Mae gennym feicwyr yn Abertawe, Casnewydd ac mor bell i ffwrdd â Grenoble a Houston ac i'r rhai hynny yn y grŵp nad ydynt yn feicwyr, mae cynlluniau ar gyfer rhedeg a Zumba yn gyfochrog.” 

Cafodd yr ymgyrch Pass the Baton for Cancer Research ddechrau gwych y mis diwethaf pan wnaeth y tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ragori'n hawdd ar eu targed cychwynnol, sef £1,000, drwy godi mwy na £3,500.

Ychwanegodd Carys Jenkins, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Gofal Canser Tenovus: “Dyma gyfnod heriol iawn i gleifion â chanser, y mae coronafeirws yn fwy peryglus iddynt, felly mae'n hollbwysig bod Gofal Canser Tenovus yn gallu parhau i ddarparu ein gwasanaethau sy'n cefnogi pobl yn ystod diagnosis, triniaeth a bywyd y tu hwnt i ganser.

“Ond mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar ein hincwm, felly mae'n bwysig ein bod yn codi'r arian mawr ei angen er mwyn parhau i gynnal ein gwasanaethau a buddsoddi yn ymchwil canser yn y dyfodol. Dyna pam rydym mor ddiolchgar i'r tîm ysbrydoledig o'r grŵp RBGO ym Mhrifysgol Abertawe am ymgymryd â her feicio anferth a helpu i godi'r arian hwn.”

Meddai Lucia Osmond, Rheolwr Codi Arian Canolfan Maggie's yn Abertawe: “Rydym yn falch bod y tîm RBGO ym Mhrifysgol Abertawe wedi dewis Maggie's fel un o'u helusennau ar gyfer eu her codi arian. Nid yw Maggie's yn cael unrhyw arian gan y llywodraeth ac mae'n ddibynnol ar haelioni'r gymuned er mwyn parhau i gynnal y gwasanaethau, fel y gallwn gefnogi pobl y mae canser yn effeithio arnynt, sef cyfnod mwyaf peryglus eu bywydau'n aml.

“Ar hyn o bryd, mae codi arian yn anodd oherwydd y cyfyngiadau y mae'r pandemig wedi'u gosod ar y sector elusennol, ond mae angen cymorth ar bobl â chanser yn fwy nag erioed. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r tîm RBGO am gefnogi Maggie's ac yn dymuno'n dda i bob aelod.”

Cyfrannwch at her grŵp RBGO Prifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori