Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Isabel Francis

Mae Isabel Francis, sy'n astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill yr anrhydedd uchaf sydd ar gael i rywun ifanc rhwng naw oed a 25 oed am weithredoedd cymdeithasol neu ymdrechion dyngarol – Gwobr Diana.

Bydd Isabel, sy'n 22 oed, bellach yn ymuno â Rhestr Anrhydedd Gwobr Diana ar y cyd â phobl ifanc eraill o bedwar ban byd sydd wedi cael eu cydnabod am fynd gam ymhellach yn eu bywyd beunyddiol i greu a chynnal newid cadarnhaol.

Ochr yn ochr â'i hastudiaethau, mae’r cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Cwmtawe wedi treulio fwy na 750 o oriau'n gwirfoddoli yng Nghlinig y Gyfraith, sef gwasanaeth ym Mhrifysgol Abertawe sy'n cynnig cyngor cyfreithiol cychwynnol am ddim. Hefyd, gwnaeth sylfaenu darpariaeth allgymorth y Clinig ym Manc Bwyd Eastside yn Abertawe ac mae wedi gweithio i sicrhau bod y bobl sy'n defnyddio'r banc bwyd yn cael y cyngor y mae ei angen arnynt ac yr ymdrinnir â'u problemau'n llawn drwy ddod ag asiantaethau gwahanol at ei gilydd i gydweithio. 

Meddai'r Athro Richard Owen, cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith yn Abertawe, a enwebodd Isabel am y wobr: “Mae Isabel yn llawn haeddu Gwobr Diana. Mae hi wedi dangos ymrwymiad aruthrol i helpu pobl y mae angen cyngor cyfreithiol arnynt, gan gynnwys gwirfoddoli yn ystod ei gwyliau ac ar y dyddiau pan nad yw'n gweithio.

“Mae ei chyfraniad at Glinig y Gyfraith yn Abertawe wedi bod yn rhagorol wrth iddi gynghori pobl yn ystod argyfyngau, yn ogystal â rhoi tystiolaeth i Senedd Cymru ar faterion sy'n ymwneud â mynediad at gyfiawnder, ac arwain y broses o sefydlu canolfannau allgymorth newydd ar gyfer y Clinig. Bydd esiampl Isabel yn ysbrydoli llawer o fyfyrwyr i efelychu ei chyflawniadau.”

Wrth dderbyn Gwobr Diana, meddai Isabel: “Mae derbyn Gwobr Diana yn anrhydedd ac yn fraint. Pan ddechreuais fy ngradd yn y gyfraith yn wreiddiol, ni fyddwn byth wedi breuddwydio y byddwn yn derbyn gwobr mor uchel ei bri ac mae'n rhagori ar fy nisgwyliadau. Pwy a ŵyr ble byddwn i heb gefnogaeth Clinig y Gyfraith, ac rwy'n gobeithio y gallaf barhau i wneud gwahaniaeth i'r bobl y mae angen cymorth fwyaf arnynt.

“Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio bod yn gyfreithiwr, a byddaf mewn sefyllfa i barhau â'm gweithgareddau di-dâl a helpu'r bobl na allant gael mynediad at y system gyfreithiol.”

Bydd Isabel bellach yn cael gwahoddiad i ymuno â gweminar ar weithredu cymdeithasol lle gall gysylltu ag enillwyr eraill y wobr, a bydd yn cael y cyfle i fod yn rhan o rwydwaith cyn-fyfyrwyr sydd â rhaglen ar gyfer datblygu enillwyr. Mae hefyd wedi cael gwahoddiad gan yr Iarll Spencer, brawd Diana, Tywysoges Cymru, i ymweld â Thŷ Althorp, sef cartref y Dywysoges Diana yn ystod ei phlentyndod.

Rhannu'r stori