Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Un o'r amddiffynwyr wyneb

Mae amddiffynwyr wyneb i ddiogelu staff y GIG, sydd wedi'u dylunio a'u cynhyrchu drwy argraffyddion 3D gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill nod diogelwch CE, sy'n golygu y gellir bellach eu cynhyrchu ar raddfeydd mwy ar gyfer ysbytai.

Mae prinder cyfarpar diogelu personol wedi bod yn broblem fawr yn ystod pandemig Covid-19.

Gan wybod y gallai eu harbenigedd helpu i gefnogi'r GIG, aeth staff a myfyrwyr yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe – gyda chymorth ASTUTE 2020 drwy Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu, a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, a Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru – ati i ymchwilio i ddyluniadau a manylebau ar gyfer defnyddio argraffyddion 3D i gynhyrchu feisorau i amddiffyn yr wyneb.

Ar ôl gweithio ddydd a nos, gwnaethant lwyddo i greu dyluniad â ffrâm ac amddiffynnydd wyneb a llygaid plastig. Mae sbwng neopren ar ei hyd ac mae strap elastig yn cadw'r feisor yn ei le. Yna cafodd y prototeip ei gynhyrchu a'i gydosod yn y Coleg Peirianneg.

Ar ôl cael eu cadw mewn cwarantin am 72 awr, anfonwyd y feisorau i ysbytai lleol at ddibenion profion a chael adborth, a ddefnyddiwyd gan y tîm i wella'r dyluniad ymhellach.

Nawr, mae'r feisorau wedi ennill nod CE. CE yw'r talfyriad ar gyfer Conformité Européenne, sy'n nodi bod cynnyrch yn bodloni rheoliadau diogelwch gorfodol yr UE.  

Mae nod CE yn rhoi hawl i'r tîm gynhyrchu'r masgiau gan ddefnyddio argraffyddion 3D. Yn y dyfodol, y gobaith yw y gellir masgynhyrchu'r masgiau drwy chwistrellu mowldin yn hytrach na defnyddio argraffyddion 3D, diolch i'r partneriaid diwydiannol lleol FSG Tool and Die Ltd.

Meddai arweinydd y prosiect, Dr Peter Dorrington, sy'n Uwch-ddarlithydd yn y Coleg Peirianneg:

“Bydd y cynhyrchion hyn yn diogelu staff gofal iechyd ar y rheng flaen, felly roedd yn hanfodol i ni eu datblygu yn unol â'r safonau priodol.

“Mae fy ngwraig yn ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac mae llawer o'n teulu a'n ffrindiau'n gweithio mewn amrywiaeth o rolau ym maes gofal iechyd, gan beryglu eu hunain.

“Rwy'n falch iawn o waith ac ymdrech eithriadol o galed pobl ar y prosiect hwn, gan weithio gyda'r hwyr ac ar benwythnosau i sicrhau ei lwyddiant. Mae'r tîm yn cynnwys myfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig, staff Peirianneg a Meddygaeth, a chysylltiadau allweddol yn y diwydiant.” 

Ychwanegodd yr ymchwilydd ar gyfer Doethuriaeth Peirianneg David O'Connor, a fu'n flaenllaw hefyd, ac sy'n gweithio yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru a Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe:

“Atebwyd y galw am dîm dylunio i ymgymryd â'r her, a hynny mewn modd brwdfrydig, cyflym a phroffesiynol gan bawb dan sylw. Rydym am helpu i annog diwydiant yng Nghymru i ailgydio yn y gwaith o gynhyrchu cyfarpar meddygol a chyfarpar diogelu personol, fel y bydd y rhain yn llai tebygol o fod yn brin yn y dyfodol.”

Meddai'r Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ASTUTE 2020, a fu'n cefnogi ac yn goruchwylio'r prosiect:

“Mae'n rhan o genhadaeth Prifysgol Abertawe i gefnogi'r gymuned rydym yn gweithio ynddi, ac mae coronafeirws wedi ein herio i ddarparu ar gyfer pobl Abertawe a Chymru. Mae Prifysgol Abertawe wedi meithrin cysylltiadau ac wedi cydweithio'n agos â'n byrddau iechyd ac â diwydiant erioed, ac mae'r rhwydweithiau hynny'n talu ar eu canfed ar adegau fel hyn.”

Meddai Dr Ceri Lynch, sy'n Ymgynghorydd Gofal Dwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae'r feisorau hyn yn gyfforddus, maent yn cynnig gwelededd da ac yn teimlo'n gryfach ac yn gadarnach na rhai feisorau eraill a gyflenwyd. Yn ôl y staff, maent yn teimlo'n ddiogel wrth eu gwisgo, gan werthfawrogi'r penrwymyn cymwysadwy, ac maent wedi dewis y rhain fel eu hoff feisor.”

Rhannu'r stori