Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Logo achrediad cyflog byw go iawn

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei hachredu fel cyflogwr cyflog byw go iawn gan y Sefydliad Cyflog Byw (LWF).

Cyfrifir y cyflog byw go iawn yn annibynnol bob blwyddyn, yn seiliedig ar yr hyn mae ei angen ar weithwyr a'u teuluoedd i fyw. Mae cyfraddau'r cyflog byw go iawn yn uwch na chyfraddau gorfodol y cyflog byw cenedlaethol, sy'n cael eu pennu gan Lywodraeth y DU. Caiff ei diweddaru'n flynyddol a'i thalu ar sail wirfoddol.

Bydd achrediad Abertawe o’r LWF, a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2020, yn caniatáu i’r Brifysgol hyrwyddo ac annog polisïau ac arferion sy’n rhan bwysig o helpu ei 5,500 o staff i fyw bywydau gwaith boddhaus a gwerth chweil.

Daeth achrediad o'r LWF i rym ar 1 Mehefin, er i’r Brifysgol ymrwymo i ddod yn gyflogwr cyflog byw go iawn yn 2019. Ers mis Ebrill y flwyddyn honno, mae mwy na 1,000 o aelodau staff ar y cyflogau isaf wedi elwa o dderbyn y cyflog byw go iawn. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Brifysgol wedi gweithio tuag at ennill achrediad drwy:

  • Dalu'r cyflog byw go iawn i'r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol a'r rhai sydd wedi cael eu his-gontractio.
  • Ddyfeisio cynllun i gyflwyno'r cyflog byw go iawn ar draws contractau trydydd parti wrth iddynt ddod i ben i'w hadnewyddu.

Meddai Andrew Rhodes, cofrestrydd a phrif swyddog gweithred Prifysgol Abertawe: “Rydym yn hynod o falch ein bod wedi derbyn achrediad ffurfiol sy'n cydnabod ein hymrwymiad i gyflog teg i'n cydweithwyr ac sy'n ein galluogi i hyrwyddo ac annog polisïau ac arferion i helpu pobl i ddilyn bywyd gwaith boddhaus a buddiol. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar bawb sy'n gweithio yma, a chredwn eu bod i gyd yn haeddu cyfradd gyflog deg am y gwaith maen nhw'n ei wneud - mae hyn yn arbennig o wir yn ystod y cyfnod heriol a gofidus rydym oll yn ei wynebu heddiw.”

 

Rhannu'r stori