Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Dyn yn ysgrifennu mewn cyfnodolyn

A yw byw gydag ynysu cymdeithasol wedi eich ysbrydoli i roi beiro ar bapur? Os felly, fe allech chi fod yn rhan o brosiect ymchwil cymdeithasol unigryw sy'n archwilio sut mae cymdeithas yn byw trwy coronafirws.

Mae Dr Michael Ward o Brifysgol Abertawe eisiau recriwtio gwirfoddolwyr o bob oed i gymryd rhan ym mhrosiect DyddiaduronCorona, yr astudiaeth gyntaf ym maes gwyddor gymdeithasol i'r argyfwng presennol, sy'n ceisio edrych ar sut rydyn ni'n cofnodi ein profiadau yn ystod y pandemig.

Ac nid yw hyn yn golygu cofnodion dyddiadur traddodiadol yn unig, mae'n awyddus i gynnwys yr hyn sy’n cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, blogiau, fideos - unrhyw ddull y mae pobl yn ei ddefnyddio i fynegi eu hunain yn ystod y cyfnod o ynysu.

Meddai: “Wrth i wybodaeth feddygol ac epidemiolegol gael ei chyflwyno, mae hefyd angen brys i edrych ar yr ymateb i Covid-19 o safbwynt gwyddor gymdeithasol.

“Rwyf am wneud y mwyaf o'r cyfoeth o brofiadau a all ddeillio o ddadansoddiad anthropolegol a chymdeithasegol o'n hymatebion amrywiol i'r pandemig.

“Bydd y dyddiaduron hyn yn gofnod o’r hyn rydym yn ei brofi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a hefyd yn fodd o rannu poen a phrofiadau ag eraill.”

Dywedodd Dr Ward, sy’n uwch ddarlithydd Gwyddor Gymdeithasol, wrth i’r cyfnod ynysu barhau mae ffyrdd newydd o ymddwyn yn cael eu creu a bod gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol yn dod i fodolaeth drwy’r amser - o gyfarfodydd gwaith Zoom i foreau coffi rhithwir trwy apiau parti.

“Mae pobl yn ymateb mewn sawl ffordd. Mae diddordebau newydd, rhyngweithio newydd, bywyd cymdeithasol gwahanol oll yn ffurfio yn y byd go iawn a'r byd rhithwir. “

Mae e nawr eisiau clywed gan unrhyw un sy'n barod i gymryd rhan yn y prosiect DyddiaduronCorona: Cofnodi profiadau bywyd bob dydd pandemig byd-eang a rhannu eu profiadau dros y misoedd nesaf.

Gall DdyddiadurCorona pob person fod ar unrhyw ffurf o’u dewis ond gallai gynnwys:

• Llyfrau nodiadau wedi eu hysgrifennu â llaw
• Dyddiaduron wedi'u hysgrifennu ar brosesydd geiriau
• Dyddiaduron fideo a recordiadau digidol
• Darnau myfyriol
• Papurau ysgolheigaidd
• Blogiau / Wikis / Flogiau
• Postiadau cyfryngau cymdeithasol / lluniau / fideos [Instagram / Facebook / Twitter / Snapchat / Tik Tok / Whatsapp / YouTube]
• Cardiau Post
• Gwaith celf, cerddi, caneuon neu ymatebion creadigol eraill.

Mae Dr Ward yn gobeithio sicrhau cyllid i gynhyrchu archif ddigidol o'r cyfraniadau fel y gellir eu defnyddio i helpu i ddylanwadu nid yn unig ar strategaeth a gweithrediad yr ymateb i coronafeirws, ond hefyd i helpu i lywio’r ymateb i achosion tebyg yn y dyfodol.

Mae'r prosiect wedi'i seilio'n rhannol ar yr astudiaethau arsylwi torfol a gynhaliwyd cyn, yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan fu gwirfoddolwyr yn cofnodi eu profiadau.

Esboniodd Dr Ward nad oes angen cyfnod penodol o amser i gymryd rhan yn y prosiect. Gallai recordiadau ddigwydd bob awr, yn ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol neu pan fo amgylchiadau'n caniatáu.

Byddai cofnodion yn cael eu cyflwyno iddo erbyn diwedd pob mis trwy e-bost, dropbox diogel neu drwy’r post a phwysleisiodd y bydd yr holl ddogfennau’n cael eu storio’n ddiogel, mewn ffeiliau a ddiogelir gan gyfrinair a bydd dogfennau ysgrifenedig yn ddienw i warchod cyfranogwyr.

Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Dr Ward trwy e-bostio, ffonio 07890 874188 neu drwy Twitter

 

Rhannu'r stori