Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Dan a Lizzie yn gweitihio ar y prosiect Discovery. Bydd y gefnogaeth myfyrwyr i bobl anabl yn parhau yn ystod argyfwng feirws.

Dan a Lizzie yn gweitihio ar y prosiect Discovery.  Bydd y gefnogaeth myfyrwyr i bobl anabl yn parhau yn ystod argyfwng feirws.

Mae myfyrwyr sy'n gwirfoddoli gydag oedolion anabl yn cadw mewn cysylltiad â nhw er gwaethaf yr argyfwng coronafeirws, trwy gynnig cefnogaeth dros y ffôn a'u cael i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein i helpu eraill.

Mae’r Cynllun Gwirfoddoli â Chefnogaeth yn cael ei redeg gan Discovery, yr elusen gwirfoddoli myfyrwyr. Mae myfyrwyr yn cael eu paru ag oedolion anabl o'r gymuned leol. Mae pob pâr yn gweithio ochr yn ochr ar brosiectau Discovery, yn aml yn swyddfa’r tîm ar gampws y Brifysgol.

Yn sgîl y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws, nid yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r myfyrwyr yn cadw mewn cysylltiad dros y ffôn gyda'r bobl maen nhw'n eu cefnogi, sy'n arbennig o werthfawr ar adeg pan mae llawer o bobl wedi'u hynysu.

Mae'r galwadau ffôn hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a'r oedolion anabl y maen nhw'n eu cefnogi gymryd rhan mewn gweithgareddau fel fideo “Diolch i'r GIG”. Gallant hefyd barhau gyda’u gwaith da trwy wirfoddoli rhithwir, er enghraifft helpu pobl ddall a phobl sydd â nam ar eu golwg drwy ddefnyddio'r ap Be My Eyes.

Mae myfyrwyr yn gwneud y galwadau fel rhan o raglen sydd wedi ei chydlynu. Digwyddodd y galwadau cyntaf yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Angel, un o'r bobl a gefnogir gan y cynllun:

"Mae'n bwysig cadw mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr o Discovery oherwydd mae’n golygu bod gennym rywun i ni siarad â nhw ac mae'n bwysig cadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau. Mae'n rhoi rhywbeth i ni ei wneud - hefyd mae'n fy ngwneud i'n hapus i gadw mewn cysylltiad gan fod Discovery wedi gwneud cymaint i mi. "

Dywedodd Abi Semple, un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy’n wirfoddolwr:

“Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd rwy’n teimlo ei fod yn bwysig cadw mewn cysylltiad â’r rhai sydd angen cefnogaeth. Nawr yw'r amser i fod yno i'n gilydd, ac mae Discovery yn fy ngalluogi i chwarae fy rhan wrth wneud i rywun deimlo yn llai unig. "

Mae Discovery yn elusen gofrestredig sydd wedi'i sefydlu ers 1966. Mae’n sefydliad a arweinir gan wirfoddolwyr, gyda’r nod o gyfoethogi bywydau pobl yn Abertawe trwy wirfoddoli.

Ar hyn o bryd, mae gan Discovery oddeutu 600 o wirfoddolwyr sy’n brysur yn cymryd rhan mewn dros 30 o brosiectau gwirfoddol ledled Abertawe.

Darganfyddwch fwy am Discovery www.discoverysvs.org

Rhannu'r stori