Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyrwyr nyrsio Laura Davies a Carina Jones gyda (canol) Catherine Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen Nyrsio Cyn-gofrestru Prifysgol Abertawe.

Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio ymgyrch i gasglu taclau ymolch sylfaenol ac adnoddau ar gyfer cleifion ysbyty nad ydynt yn gallu eu cyrchu eu hunain.

Sylweddolodd Laura Davies, sy’n fyfyriwr Nyrsio Oedolion trydedd flwyddyn, bod rhai cleifion yn dibynnu ar haelioni’r cyhoedd i’w cyfrannu. 

Amlygodd Laura mai'r hyn a'i hysbrydolodd i lansio'r fenter hon oedd bod yn dyst i'r gofal anhygoel y mae staff ysbytai yn ei ddarparu i gleifion, a sut roedd hi eisiau helpu mewn unrhyw fodd y gallai, gan ei bod hi'n gwybod ar adegau fel y rhain, gall cronfeydd fod yn eithaf tynn. 

“Gobeithiaf y bydd casglu’r taclau ymolch ac adnoddau yma yn helpu gwella’r gofal ffantastig y mae’r ysbytai’n ei ddarparu’n barod - a gwneud bywydau’r cleifion sydd angen yr eitemau yma, ychydig yn haws.” 

Gyda chymorth oddi wrth fyfyriwr Nyrsio Oedolion blwyddyn tri, Carina Jones, mae Laura wedi codi dros 250 o eitemau ar gyfer cleifion. 

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac i’r rheiny sy’n parhau i gyfrannu - mae codi 250 o eitemau yn gamp aruthrol. Teimlaf yn ffodus iawn cael gweithio ar y wardiau, gyda staff a chleifion anhygoel.” 

Meddai Catherine Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Nyrsio Cyn-gofrestru: 

“Mae Laura a Carina wir wedi mynd y tu hwnt i helpu cleifion yn eu hamser o angen, ac mae eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi gan gleifion a staff ysbytai.

“Mae menter Laura wedi ysbrydoli cyd-fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd i roi ystod enfawr o gynhyrchion a fydd yn cael eu rhannu ar draws yr unedau darparu gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn hynod falch o Laura a Carina a hoffem ddiolch iddynt am eu hymdrechion." 

Dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Gareth Howells

“Mae hon yn ewyllys da wych gan Laura a Carina, ac yr ydym yn gwybod bod cleifion yn  gwerthfawrogi’n fawr.

“Mae haelioni pobl yn dal i’n rhyfeddu.” 

Oherwydd y swm ysgubol hwn o roddion a dderbyniwyd gan y cyhoedd, mae sgyrsiau ar waith i barhau â'r fenter hon gan garfannau nyrsio yn y dyfodol.

 

Rhannu'r stori