Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Y Brifysgol yn ennill cyllid ar gyfer dau brosiect i helpu'r cyhoedd i gyfrannu at ymchwil.

Dyrannwyd cyllid i Brifysgol Abertawe gan lywodraeth y DU ar gyfer dau brosiect a fydd yn galluogi'r cyhoedd i gyfrannu at brosiectau ymchwil ac arloesi sy'n effeithio ar eu bywydau.

Mae'n rhan o ymagwedd newydd a mwy o fuddsoddi mewn ymgysylltu â'r cyhoedd gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI).

Mae'r prosiectau'n cynnwys amrywiaeth eang o bynciau a’u nod yw annog pobl yn rhagweithiol na fyddai fel arall wedi cymryd rhan mewn ymchwil at ddibenion darganfyddiadau sy'n torri tir newydd.

Y nod arall yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd o blant a phobl ifanc i werthfawrogi rhyfeddod a photensial arloesi.

Copperopolis: Creu lleoedd, ymgysylltu ac adfywio a arweinir gan dreftadaeth

Mae'r prosiect llwyddiannus cyntaf o'r enw Copperopolis: Creu lleoedd, ymgysylltu ac adfywio a arweinir gan dreftadaeth yn dod dan y categori Cryfhau Partneriaethau sy'n seiliedig ar Leoedd Wrth Ymgysylltu â'r Cyhoedd.

Dan arweiniad Dr Alex Langlands o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, nod y prosiect yw dod ag ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe ynghyd gyda rhannau amrywiol o'r gymuned. Gofynnir i ymwelwyr ddefnyddio eu creadigrwydd a thechnoleg ddigidol i helpu i ddod â threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe'n fyw a rhannu eu syniadau am adfywio cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn y rhanbarth yn y dyfodol.

I lansio'r prosiect, defnyddiodd myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a disgyblion o Ysgol Gynradd yr Hafod ac Ysgol Gyfun Pentrehafod dechnolegau realiti rhithwir, arolygon drwy dronau a darlunio darganfyddiadau archeolegol i brofi a all amgylcheddau sy'n ddigidol ymdrochol ennyn diddordeb a chyfranogiad pobl o amrywiaeth o gefndiroedd gwahanol yn eu hanes lleol ac ymchwil dreftadol.

Dywedodd Dr Langlands: "Roedd yn ddigwyddiad gwych ac yn braf gweld cynifer o grwpiau oedran gwahanol yn ymgynnull i ystyried sut y gall pawb ymgysylltu â threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe a'i dathlu, yn ogystal â'r ffordd y gallwn ni gyfrannu ati o ran ystyried dyfodol y rhanbarth hyfryd hwn."

"Mae'r prosiect yn parhau ac mae'n ymestyn ymrwymiad hirdymor Prifysgol Abertawe i adfywio cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yng Nghwm Tawe Isaf, a disgwylir iddo bennu fframwaith ar gyfer ymchwil, partneriaethau a digwyddiadau ar gyfer cam cyffrous nesaf y datblygiad arfaethedig ar gyfer y rhanbarth."

Oriel Science

Mae'r ail brosiect, sef Oriel Science, yn dod dan gategori Grant Ymchwiliol i Wyddoniaeth gan Ddinasyddion. Mae'n canolbwyntio ar wyddoniaeth i ddinasyddion a bydd yn arwain at grwpiau amrywiol o bobl yn helpu timoedd ymchwil i gasglu data torfol, dadansoddi data a chydweithio ag ymchwilwyr i ddatblygu cwestiynau ymchwil.

Dan arweiniad yr Athro Chris Allton yn y Coleg Gwyddoniaeth, bydd Oriel Science yn ymgymryd â thri phrosiect anarferol, gan eu lleoli mewn canolfan arddangos gwyddoniaeth arloesol yng nghanol y ddinas.

Meddai'r Athro Allton: "Mae croeso i bobl ymuno â ni yn Oriel Science lle bydd cyfle iddynt gasglu a dadansoddi 'llwch sêr" o feteoritau bychain iawn, deall bioamrywiaeth drwy gategoreiddio rhywogaethau o bryfed ac ymgysylltu â hanes gwyddonol a diwydiannol Abertawe gan ddefnyddio darnau o gochwydden a dorrwyd yn anghyfreithlon."

Yn ogystal, bydd ymwelwyr yn helpu i ddylunio lleoliad hirdymor Oriel Science yn y dyfodol i fwyafu ei heffaith ar y gymuned.

Meddai Pennaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd Ymchwil ac Arloesi yn y DU, Tom Sanders:

"Fel rhan o weledigaeth yr UKRI ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd, lansiwyd dwy alwad am gyllid gennym y llynedd, un â'r nod o annog ymchwilwyr i ymchwilio i ddulliau dinasyddion ac un arall â'r nod o gefnogi ymchwilwyr a phrifysgolion i ymgysylltu â chymunedau a lleoedd, yn ogystal â chymunedau sydd â llai o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ac arloesol.

"Mae'r 53 o brosiectau peilot a gyllidwyd gennym yn cynrychioli ystod gyffrous o ffyrdd y gall ymchwilwyr ac arloeswyr gynnwys y cyhoedd yn eu gwaith, o gemau i reithgorau o ddinasyddion, adrodd straeon i gasglu data torfol.

"Yn 2020 a'r tu hwnt iddi, byddwn yn datblygu ar sail y gwersi a ddysgwn drwy gyllido'r prosiectau peilot hyn i'n helpu i wireddu ein huchelgais o sicrhau bod gwaith ymchwil ac arloesi'n ymateb i wybodaeth, blaenoriaethau a gwerthoedd cymdeithas a’i gwneud hi'n bosib i bobl o bob cefndir gymryd rhan."

Rhannu'r stori