Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyriwr yn cymryd rhan flaenllaw mewn ymgyrch Ymwybyddiaeth o Diwmorau'r Ymennydd

Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe, a ysbrydolwyd i astudio am yrfa mewn gofal iechyd ar ôl i'w dad a'i dad-cu farw o diwmor yr ymennydd, yn cymryd rhan flaenllaw mewn ymgyrch i helpu i ddod o hyd i driniaeth ar gyfer y clefyd.

Mae Christopher Grey, sy'n 19 oed, yn chwarae rôl allweddol ac yn rhannu ei stori yn ystod Mis Ymwybyddiaeth o Diwmorau'r Ymennydd ym mis Mawrth. Roedd Christopher - sy'n astudio Gwyddorau Meddygol Cymhwysol - yn 11 oed yn unig pan ganfuwyd bod tiwmor yr ymennydd gan ei dad, Jeffrey Grey. Er gwaethaf cael cemotherapi a radiotherapi, bu farw Jeffrey wyth mis yn unig wedi hynny, ac yntau'n 54 oed.

Yn drist iawn, bu farw tad-cu Christopher, Wyndham Grey, o diwmor yr ymennydd hefyd, ddeng mlynedd yn ôl.

Meddai Christopher, sy'n dod o Abertawe: "Mae’n anodd cofio diagnosis fy nhad, am ei fod mor drawmatig a finnau mor ifanc. Dechreuodd popeth pan sylwon ni fod ei leferydd yn aneglur ac amheuodd y meddygon ei fod wedi cael strôc fach. Gwaetha'r modd, datgelodd sgan MRI yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd y newyddion ofnadwy ei fod yn byw gyda thiwmor ymosodol yr ymennydd.

"Dwi'n dal i deimlo'n drist wrth feddwl yn ôl i'r adeg pan ddywedodd mam wrthyf am diwmor yr ymennydd fy nhad. Cafodd fy nghalon ei thorri'n llwyr. Roedd y tiwmor yn rhy ddwfn am lawdriniaeth a byddwn i'n aros bant o'r ysgol yn aml i fod gartref gyda fy nhad. Roeddwn i'n gwybod ei fod yn marw a helpais i i ofalu amdano gyda fy mam.

Bydd llun Christopher, ar y cyd â'i fam, Catherine, a'i fam-gu, Christine, ynghyd â lluniau o deuluoedd eraill ledled y DU, yn cael eu gweld ar draws y wlad fel rhan o ymgyrch farchnata proffil uchel sy'n cael ei lansio ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth o Diwmorau'r Ymennydd  Mae gweithgareddau'r mis yn dod i ben gyda Diwrnod Gwisgo Het ddydd Gwener 27 Mawrth. Bellach yn ei unfed flwyddyn ar ddeg, mae Diwrnod Gwisgo Het wedi codi dros £1.25 miliwn i helpu'r frwydr yn erbyn y clefyd.

Mae Christopher wedi gweithio'n ddiflino i godi arian ar gyfer Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd dros y blynyddoedd ac mae wedi codi dros £5,000 drwy gynnal digwyddiadau megis noson wisg ffansi a chael ei noddi i gerdded i fyny Pen y Fan. Mae hefyd wedi ymgyrchu i gynyddu ymwybyddiaeth ac ysbrydolodd Brifysgol Abertawe i gymryd rhan yn Niwrnod Gwisgo Het y llynedd.

Ychwanegodd: "Mae cymryd rhan yn yr ymgyrch hon yn hynod bwysig i mi fel rhywun sydd wedi colli dau aelod o'm teulu i diwmorau'r ymennydd. Mae codi ymwybyddiaeth ac arian yn hollbwysig yn ein hymdrech i helpu i ddod o hyd i ffordd o drin y clefyd ofnadwy hwn. Dwi am droi fy mhrofiad negyddol yn rhywbeth cadarnhaol.

"Cefais fy ysbrydoli i astudio gwyddorau meddygol cymhwysol yn y brifysgol o ganlyniad i'm profiad o diwmorau'r ymennydd. Mae gen i wir ddiddordeb mewn dysgu am ganser a'r mecanweithiau y tu ôl i'r clefyd ac oherwydd mod i’n mwynhau bod yn y labordy yn fawr, dwi’n ystyried gyrfa ym maes ymchwil feddygol.”

Mae Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd yn ariannu ymchwil gynaliadwy mewn canolfannau pwrpasol yn y DU. Mae hefyd yn ymgyrchu i ddarbwyllo'r Llywodraeth a'r elusennau canser mwy i fuddsoddi mwy mewn ymchwil i diwmorau'r ymennydd er mwyn datblygu triniaethau newydd ar gyfer cleifion yn gynt ac, yn y pen draw, i ddod o hyd i ffordd o wella'r clefyd.

#DwirnodGwisgoHet #MisYmwybyddiaethTiwmoryrYmennydd

Rhannu'r stori