Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Dr Jennifer Rudd

Mae tîm rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor wedi dyfeisio rhaglen sy'n annog plant oed ysgol i feddwl am eu heffaith bersonol ar newid yn yr hinsawdd.

Mae Dr Jennifer Rudd (yn y llun) o Brifysgol Abertawe'n un o'r ymchwilwyr sy’n rhan o’r prosiect. Meddai: "Mae newid yn yr hinsawdd yn peri bygythiad difrifol i'n planed, a'r unig ffordd o liniaru hyn yw lleihau allyriadau carbon. I gyflawni hyn, mae angen i bawb wneud eu rhan - o arweinwyr byd i arweinwyr y dyfodol, y disgyblion ysgol a fydd yn etifeddu'r blaned - ym mha gyflwr bynnag byddwn yn ei gadael."

I helpu myfyrwyr i ddeall sut gallant wneud eu rhan, rydym wedi datblygu "You and CO2". Rhaglen STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg) yw hon sydd â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth plant, nid yn unig o'u hôl troed carbon, ond hefyd sut gallant gael effaith ar y byd o'u cwmpas drwy ddychymyg a pheirianneg, hynny yw rhoi syniadau creadigol ar waith mewn ffyrdd ymarferol"

Drwy'r rhaglen, mae plant o ddwy ysgol yng Nghymru eisoes wedi cymryd rhan mewn cyfres o weithdai lle gofynnwyd iddynt ddadansoddi effaith eu gweithgareddau beunyddiol. Cawsant gyfle hefyd i archwilio eu rôl fel dinasyddion y byd drwy ddarllen a rhyngweithio â stori dewis eich antur eich hun, No World 4 Tomorrow, a ysgrifennwyd gan Dr Lyle Skains, a oedd yn rhan o'r tîm rhyngddisgyblaethol. Penderfynwyd ar y diweddglo gan y dewisiadau a wnaed wrth ddarllen y stori, ac roedd y themâu'n cynnwys diffyg gweithredu, gweithredu gwleidyddol, hunanofal a gweithredu.

Yn olaf, cafodd y myfyrwyr eu hannog i ddyfeisio a datblygu eu ffuglen ddigidol eu hunain, straeon dewis eich antur eich hun. Meddai Dr Rudd: "Cafodd nifer o straeon anhygoel eu hysgrifennu yn ystod y gweithdai, a gellir gweld detholiad ar y wefan "You and CO2", gan gynnwys "Stori Linda ac Akachi" sy'n archwilio goblygiadau newid yn yr hinsawdd fyd-eang ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol."

Mae Tom Crick yn Athro mewn Addysg Ddigidol a Pholisi ym Mhrifysgol Abertawe. Dywedodd: “Mae’r prosiect hwn yn amserol o ystyried y newidiadau arwyddocaol sydd ar ddod i’r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, yn enwedig o ran deall yn well effaith gwyddoniaeth a thechnoleg ar ein bywydau. Mae’r cyfle ar gyfer gwaith rhyngddisgyblaethol, trawsgwricwlaidd, ynghylch materion cymdeithasol mawr megis newid yn yr hinsawdd – fel y dengys ym mhrosiect “You and CO2” – yn cynnig y sylfaen ar gyfer datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n gallu bod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus y dyfodol yng Nghymru.”

I gloi, meddai Dr Rudd: "Drwy ddulliau amlddisgyblaethol, rydym wedi llwyddo i ddianc o addysgu arddull 'seilo' a rhoi cyfle i fyfyrwyr feddwl yn fwy eang am gyd-destun cymdeithasol a moesol newid yn yr hinsawdd a'i oblygiadau, gan addysgu gwyddoniaeth newid yn yr hinsawdd mewn ffordd berthnasol, sy'n creu cysylltiadau â chymdeithas, gan bontio'r bwlch rhwng yr ystafell ddosbarth a'r byd ehangach. Yn ogystal, mae'r rhaglen wedi caniatáu i'r myfyrwyr ddefnyddio eu gwybodaeth rifiadol, iaith Saesneg, eu sgiliau adrodd stori, rhaglennu cyfrifiadur a chemeg i geisio datrys problem fyd-eang daer a fydd yn cael effaith ddifrifol ar eu bywydau.

Datgelodd treial cyntaf y rhaglen fod natur ymdrochol y rhaglen a'i gallu i brocio'r meddwl wedi cael effaith sylweddol ar y rhan fwyaf o'r myfyrwyr. Defnyddiodd rhai o'r plant eu ffuglen ddigidol i'w dychmygu eu hunain yn rolau arweinwyr dinasoedd, gwledydd neu'r UE â'r pwerau i wneud penderfyniadau a fyddai'n lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Cam nesaf, ac hollbwysig, y prosiect hwn fydd cynnal treialon mwy a reolir, a fydd yn caniatáu i ni fesur effaith y rhaglen ar wybodaeth, agweddau ac ymddygiad."

Gellir darllen ffuglen myfyrwyr o'r prosiect ar wefan "You and CO2".

Rhannu'r stori