Pryd byddaf yn dechrau fy nghwrs?
Ar gyfer pob cwrs sy’n dechrau ym mis Ionawr 2021, cynhelir eich gweithgareddau croeso a sefydlu rhwng dydd Llun 4ydd Ionawr 2021 a dydd Gwener 15fed Ionawr 2021. Bydd yr addysgu ar gyfer pob cwrs yn dechrau rhwng dydd Llun 4ydd Ionawr a dydd Gwener 29ain Ionawr 2021.
Anfonir eich amserlen cofrestru ac addysgu atoch mewn e-bost ychydig o wythnosau cyn dechrau eich cwrs.
Sut gallaf gofrestru ar fy nghwrs?
Byddwch yn dechrau derbyn cyfarwyddiadau cofrestru llawn drwy e-bost ychydig wythnosau cyn dyddiad dechrau'ch cwrs.
A fydd yn rhaid i mi aros mewn cwarantin wrth gyrraedd yn Abertawe? Sut bydd y Brifysgol yn fy nghefnogi yn ystod cwarantin?
Gallwch gael yr holl ganllawiau COVID-19 diweddaraf yma.
Fydd Wythnos y Glas?
Bydd! Allwn ni ddim dweud yn union beth fydd yn digwydd oherwydd nid ydym yn siŵr beth fydd canllawiau'r Llywodraeth ar yr adeg honno, ond byddwn yn cynnal llawer o ddigwyddiadau, naill ai'n rhithwir neu'n gorfforol, lle byddwch yn gallu cwrdd â ffrindiau yn ogystal ag ymuno â chlybiau a chymdeithasau. Rydym yn gobeithio y bydd modd i ni barhau i weithredu ein lleoedd cymdeithasu awyr agored ar y ddau gampws.