Financial Management, BSc (Anrh)

students working together

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein gradd BSc Rheoli Ariannol yn eich arfogi â'r sgiliau dadansoddol, strategol ac ymarferol y mae eu hangen i ffynnu ym myd deinamig cyllid a rheoli. Mae'r radd yn berffaith ar gyfer y rhai hynny sydd am gael gyrfaoedd yn y sector preifat, cyhoeddus neu nid-er-elw, ac mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaeth cyllid academaidd drylwyr â chymwysiadau yn y byd go iawn.

Drwy gydol y radd hon, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o egwyddorion ariannol a rheoli i fodloni heriau tirwedd fyd-eang sy'n datblygu drwy'r amser. Mae modiwlau craidd yn cyflwyno cysyniadau allweddol mewn cyfrifo ariannol a rheoli, cyllid corfforaethol ac ystod o bynciau rheoli allweddol, tra bydd pynciau uwch yn archwilio cyllid rhyngwladol, rheoli risg ac asedau ynghyd â detholiad o ddisgyblaethau rheoli pwysig.  Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn ennill hyfedredd mewn dulliau meintiol a damcaniaethau rheoli a ddefnyddir yn eang yn y diwydiant ac yn archwilio effaith penderfyniadau ariannol ar gymdeithas, yr amgylchedd a chorfforaethau. Mae ein rhaglen yn pwysleisio cyflogadwyedd a phrofiad ymarferol. Byddwch yn cymryd rhan mewn astudiaethau achos, efelychiadau a phrosiectau grŵp sy'n adlewyrchu sefyllfaoedd ariannol go iawn. Bydd cyfleoedd am interniaethau, astudio dramor a gwrando ar ddarlithoedd gan westeion o fyd diwydiant yn cyfoethogi eich profiad dysgu ymhellach.

Mae graddedigion ein rhaglen BSc Rheoli Ariannol wedi gadael gyda set o sgiliau cadarn mewn dadansoddi ariannol, meddwl strategol a gallu gwneud penderfyniadau moesegol. Byddwch wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer rolau mewn rheoli, bancio, cwmnïau buddsoddi, adrannau cyllid corfforaethol ac ymgynghoriaeth ariannol neu symud ymlaen i astudio ar lefel ôl-raddedig.  Efallai mai eich uchelgais yw rheoli portffolios buddsoddi, cynghori busnesau ar strategaeth ariannol neu lywio polisi yn y sector cyhoeddus, mae'r radd hon yn rhoi'r wybodaeth a'r profiad i chi wneud effaith ystyrlon yn y byd ariannol a rheoli.

Pam Financial Management yn Abertawe?

  • Dechreuwch eich gyrfa gyda chydnabyddiaeth broffesiynol am eich sgiliau drwy astudio modiwlau a allai roi eithriadau uniongyrchol i chi rhag arholiadau achredu allweddol. Mae'r cyrff proffesiynol byd-eang canlynol yn eu cydnabod gan gynnwys ACCA, ICAEW, CIMA, CFA a CMI.
  • Gallwch chi deilwra eich cwrs i'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa chi – dewiswch o blith detholiad eang o fodiwlau dewisol.
  • Astudiaethau achos go iawn sy'n rhoi profiad ymarferol i helpu myfyrwyr i baratoi am rolau i raddedigion.
  • Datblygwch y gallu ymarferol ar gyfer y byd go iawn gan ein darlithwyr o'r radd flaenaf sydd â phrofiad heb ei ail ym meysydd diwydiant ac academaidd.
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, y sefydliad addysg fusnes mwyaf yn y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Mae'r addysgu yn Abertawe wedi'i lywio gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad personol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch chi elwa o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth ymarferol am y byd go iawn. Yn ogystal â'ch paratoi am yrfa fel arbenigwr cyllid mewn busnes neu sefydliad, mae gennym wasanaethau cymorth sydd ar gael i'ch helpu i ddod yn entrepreneur a sefydlu'ch busnes eich hun. Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych hefyd fynediad llawn at ein gwasanaethau cyflogadwyedd a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth.

Eich Profiad Financial Management

Ym Mhrifysgol Abertawe, credwn fod llwyddiant academaidd yn gysylltiedig ag ymdeimlad o gymuned a pherthyn. Fel myfyriwr ar ein rhaglen BSc Rheoli Ariannol, byddwch yn ymuno ag amgylchedd dysgu amrywiol, cynhwysol a chefnogol sy'n gwerthfawrogi cydweithio, parch a safbwyntiau byd-eang. Bydd gennych y cyfle i gysylltu â'ch cyfoedion yn yr ystafell ddosbarth a'r tu hwnt iddi drwy brosiectau grŵp, cymdeithasau a arweinir gan fyfyrwyr ac ystod o fodiwlau a gweithgareddau ar lefel rhaglen megis digwyddiadau cymdeithasol, cyfleoedd rhwydweithio a gweithdai sgiliau. Nod y profiadau hyn yw eich helpu i feithrin cysylltiadau parhaol, datblygu hyder a theimlo eich bod yn rhan o gymuned academaidd a phroffesiynol ehangach. Mae ein staff yn ymrwymedig i feithrin awyrgylch croesawgar a chynhwysol lle mae'r holl fyfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u cefnogi; yn academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol. P'un a ydych yn ymuno â ni o'r DU neu dramor, nid ydych yn dechrau ar gwrs yn unig byddwch yn rhan o gymuned academaidd fywiog a chydweithredol.

Mae'r rhaglen radd hon ar gael fel rhaglen tair blynedd. Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. Ar ben hynny, mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy na £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Ar y campws byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gyda mynediad at ein hadnoddau a'n cyfleusterau rhagorol. Mae'r cwrs hwn ar Gampws godidog y Bae ac fe'i haddysgir yn adeilad yr Ysgol Reolaeth y buddsoddwyd £22 miliwn ynddo, ac mae'n cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Financial Management

Ar ôl graddio o Abertawe gyda gradd Rheoli Ariannol, byddwch chi mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth foddhaus mewn unrhyw sefydliad dymunol. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Dadansoddwr Polisïau Ariannol
  • Ymgynghorydd Strategaeth neu Risg
  • Rheoli cyfoeth neu ymgynghorydd buddsoddi
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Dadansoddwr Cyllid
  • Cyfrifydd neu actiwari
  • Gweithiwr proffesiynol ym myd bancio
  • Archwiliwr
  • Cynghorydd Economaidd

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Financial Management, BSc (Anrh)

Financial Management with a Foundation Year, BSc (Anrh)

Financial Management with a Year Abroad, BSc (Anrh)

Financial Management with a Year in Industry, BSc (Anrh)