Mathemateg ar gyfer Cyllid, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Maths banner with 2 students

Trosolwg o'r Cwrs

Mae cyllid a busnes cyfoes yn cael eu hategu gan fathemateg. Mae ein gradd BSc mewn Mathemateg ar gyfer Cyllid yn adlewyrchu'r cysylltiad agos rhwng mathemateg a byd diwydiant.

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn datblygu sylfaen gadarn yng nghysyniadau sylfaenol mathemateg bur a mathemateg gymhwysol, yn ogystal â phrosesau stocastig a dadansoddi stocastig, sy'n ganolog ar gyfer cymwysiadau i gyllid.

Bydd eich dysgu yn cael ei lywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth ac o fri rhyngwladol sydd ag arbenigedd mewn ystod o bynciau, a byddwch yn astudio mewn mannau addysgu pwrpasol wedi'u cynllunio gan fathemategwyr ac ar eu cyfer.

Byddwch yn ymchwilio i'r ddamcaniaeth rhifau a astudiwyd gan Pythagoras a'r fathemateg ariannol y mae Wall Street yn dibynnu arni bob dydd, â sgiliau dadansoddol cryf, rhesymu rhesymegol a meddwl meintiol, gan adeiladu set ddymunol iawn o briodoleddau graddedigion a fydd yn eich gosod ben ac ysgwyddau uwchlaw eraill yn y farchnad gyflogaeth.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig cyfle i chi astudio gan dreulio Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant.  

Pam Mathemateg ar gyfer Cyllid yn Abertawe?

Byddwch yn astudio mewn adran uchel ei pharch yn ein Ffowndri Gyfrifiadol y buddsoddwyd £32.5m ynddi, ar ein Campws y Bae arfordirol. Mae Mathemateg yn Abertawe yn y safleoedd canlynol yn y tablau cynghrair:

  • 13eg yn y DU (Guardian University Guide 2026)
  • Un o'r 20 uchaf yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • Un o'r 20 Uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Un o'r 151-200 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2026)

Eich Profiad Mathemateg ar gyfer Cyllid

Byddwch yn elwa o fannau dysgu ac addysgu pwrpasol, yn rhan o'r Ffowndri Gyfrifiadol o'r radd flaenaf y buddsoddwyd £32.5m ynddi , a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer mathemategwyr. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys Ystafell Ddarllen Mathemateg, hyb ar gyfer astudio a gwaith grŵp, llyfrgell adrannol o adnoddau ar gyfer dysgu ac ymchwil, a gofod rhwydweithio i fyfyrwyr gymdeithasu.

Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd, a byddwch yn cael cymorth personol drwy gydol eich astudiaethau, drwy diwtorialau mewn grwpiau bach a chynllun mentora cymheiriaid i'ch helpu wrth ddechrau eich cwrs.

Mae gan yr Adran Fathemateg gymdeithas fyfyrwyr weithgar, Cymdeithas Myfyrwyr Mathemateg Prifysgol Abertawe (SUMSOC), sy'n cynnal digwyddiadau cymdeithasol ac academaidd mynych i ddod â myfyrwyr a staff at ei gilydd.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy, a Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, sy'n eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Ar ôl cwblhau eich gradd, gallwch fod yn hyderus o'ch rhagolygon gyrfa, gan fod galw mawr am fathemategwyr mewn ystod eang o ddiwydiannau a sectorau, gan gynnwys:

  • Data, dadansoddeg a thechnoleg
  • Cyllid, bancio a buddsoddi
  • Y llywodraeth, y sector cyhoeddus a'r Gwasanaeth Sifil
  • Addysg ac addysgu
  • Busnes, ymgynghori a gweithrediadau
  • Yswiriant a materion actiwaraidd

Mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth mewn amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Google, Barnett Waddingham, Ocado Retail, British Airways, Deutsche Bank, awdurdodau iechyd a llywodraeth leol.

Mathemateg ar gyfer Cyllid, BSc (Anrh)

Mathemateg ar gyfer Cyllid gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Mathemateg ar gyfer Cyllid gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)