Mathemateg a Chyfrifiadureg, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
mathemateg

Trosolwg o'r Cwrs

Mae mathemateg yn sail i bob maes cyfoes o ran gwyddoniath, busnes a thechnoleg. Mae ein gradd BSc tair blynedd mewn Mathemateg a Chyfrifiadureg yn rhaglen uchel ei pharch sy'n croesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd.

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn datblygu sylfaen gadarn yng nghysyniadau sylfaenol mathemateg a chyfrifiadureg, gan gwmpasu ystod o bynciau sy'n berthnasol i fyd diwydiant gan gynnwys modelu, graffeg, diogelwch, dadansoddi data, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis un o dair thema allweddol; Modelu ac Efelychu, Gwyddor Data a Rhesymeg, ac AI, gan ystyried y sylfeini damcaniaethol a datblygu'r sgiliau ymarferol mewn rhaglennu a datrys problemau, i roi ffocws i'ch diddordebau a'ch rhagolygon gyrfa.

Bydd eich dysgu yn cael ei lywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth ac o fri rhyngwladol sydd ag arbenigedd mewn ystod o bynciau, a byddwch yn astudio mewn mannau addysgu pwrpasol wedi'u cynllunio gan fathemategwyr ac ar eu cyfer.

Byddwch yn meistroli syniadau a rhesymeg mathemateg a chyfrifiadureg a'u cymwysiadau, â sgiliau dadansoddol cryf, rhesymu rhesymegol, trin data a meddwl meintiol, gan adeiladu set ddymunol iawn o briodoleddau graddedigion a fydd yn eich gosod ben ac ysgwyddau uwchlaw eraill yn y farchnad gyflogaeth.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig cyfle i chi astudio gan dreulio Blwyddyn Dramor, Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Sylfaen.

Pam Mathemateg yn Abertawe?

Byddwch yn astudio mewn adran uchel ei pharch yn ein Ffowndri Gyfrifiadol y buddsoddwyd £32.5m ynddi, ar ein Campws y Bae arfordirol. Mae Mathemateg yn Abertawe yn y safleoedd canlynol yn y tablau cynghrair:

  • 13eg yn y DU (Guardian University Guide 2026)
  • Un o'r 20 uchaf yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • Un o'r 20 Uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)

Un o'r 201-250 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)

Eich profiad mathemateg

Byddwch yn elwa o fannau dysgu ac addysgu pwrpasol, yn rhan o'r Ffowndri Gyfrifiadol o'r radd flaenaf y buddsoddwyd £32.5m ynddi , a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer mathemategwyr a chyfrifiadurwyr. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys Ystafell Ddarllen Mathemateg, hyb ar gyfer astudio a gwaith grŵp, llyfrgell adrannol o adnoddau ar gyfer dysgu ac ymchwil, a gofod rhwydweithio i fyfyrwyr gymdeithasu.

Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd, a byddwch yn cael cymorth personol drwy gydol eich astudiaethau, drwy diwtorialau mewn grwpiau bach a chynllun mentora cymheiriaid i'ch helpu wrth ddechrau eich cwrs.

Mae gan yr Adran Fathemateg gymdeithas fyfyrwyr weithgar, Cymdeithas Myfyrwyr Mathemateg Prifysgol Abertawe (SUMSOC), sy'n cynnal digwyddiadau cymdeithasol ac academaidd mynych i ddod â myfyrwyr a staff at ei gilydd.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy, a Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, sy'n eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.  

Cyfleoedd cyflogaeth mathemateg

Ar ôl cwblhau eich gradd, gallwch fod yn hyderus o'ch rhagolygon gyrfa, gan fod galw mawr am fathemategwyr a chyfrifiadurwyr mewn ystod eang o ddiwydiannau a sectorau, gan gynnwys:

  • Data, dadansoddeg a thechnoleg
  • Cyllid, bancio a buddsoddi
  • Diwydiannau creadigol
  • Y llywodraeth, y sector cyhoeddus a'r Gwasanaeth Sifil
  • Addysg ac addysgu
  • Meddalwedd a Gwasanaethau Digidol
  • Busnes, ymgynghori a gweithrediadau
  • Yswiriant a materion actiwaraidd

Mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth mewn amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Google, Barnett Waddingham, Ocado Retail, British Airways, Deutsche Bank, awdurdodau iechyd a llywodraeth leol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mathemateg a Chyfrifiadureg, BSc (Anrh)

Mathemateg a Chyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mathemateg a Chyfrifiadureg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Mathemateg a Chyfrifiadureg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)