Gwyddor Actiwaraidd, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
image

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych chi'n mwynhau mathemateg ac eisiau cymhwyso eich sgiliau i heriau busnes yn y byd go iawn, mae BSc (Anrhydedd) Gwyddor Actiwaraidd Prifysgol Abertawe'n cynnig llwybr ardderchog i broffesiwn uchel iawn ei barch.

Mae actiwarïaid yn unigolion proffesiynol ym maes busnes dadansoddol sy'n defnyddio modelu mathemategol a dealltwriaeth ariannol uwch i asesu a rheoli risgiau yn y dyfodol.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn mathemateg, busnes a sgiliau astudio, gan eich paratoi i lwyddo yn y modiwlau mathemateg arbenigol a rheoli dilynol. Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid (IFoA), a gall graddedigion gael eu heithrio o hyd at chewch o arholiadau proffesiynol, gan roi i chi fantais sylweddol yn eich gyrfa actiwaraidd.

Caiff eich dysgu ei gefnogi gan arbenigwyr busnes a mathemateg profiadol a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n dod â dealltwriaeth helaeth o'r diwydiant i'r ystafell ddosbarth.

Cyflwynir y BSc (Anrh) mewn Gwyddor Actiwaraidd mewn partneriaeth rhwng yr Adran Fathemateg a'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. 

Pam Gwyddor Actiwaraidd yn Abertawe?

  • 13eg safle yn y DU (Guardian University Guide 2026) 
  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)

Mae Gwyddor Actiwaraidd ym Mhrifysgol Abertawe yn radd uchel iawn ei pharch sy'n dod â'r sgiliau arbenigol gofynnol mewn mathemateg a rheolaeth ynghyd ar gyfer cael gyrfa mewn dadansoddi risg a gwneud penderfyniadau ariannol.

Byddwch yn dysgu gan academyddion hyddysg ac ymarferwyr proffesiynol gwybodus o'r diwydiant sy'n arbenigwyr a gydnabyddir yn eu meysydd, ac mae llawer ohonynt yn Gymrodorion neu'n Gymrodorion Uwch yr Academi Addysg Uwch. Mae eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn creu amgylchedd dysgu sy'n cyfuno hyfforddiant mathemategol trwyadl â chymwysiadau busnes ymarferol.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn elwa o gefnogaeth wedi'i phersonoli drwy diwtorialau mewn grwpiau bach a chymuned groesawgar o fyfyrwyr. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig yn sicrhau y caiff eich llais ei glywed ac mae Cymdeithas Fathemateg Prifysgol Abertawe'n dod â myfyrwyr a staff ynghyd drwy ddigwyddiadau academaidd a chymdeithasol cyson, gan eich helpu i deimlo'n rhan o adran gydweithredol a chyfeillgar o'r cychwyn cyntaf.

Lleolir y rhaglen ar ein Campws y Bae hardd, lle cewch fynediad at gyfleusterau addysgu modern a lleoliad arfordirol bywiog, gan wneud Abertawe'n lle sy’n llawn ysbrydoliaeth i fyw a gweithio.

Eich Profiad Gwyddor Actiwaraidd

Drwy gydol eich gradd, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'r syniadau a'r rhesymeg sy'n sail i fathemateg a'i chymwysiadau yn y byd go iawn. Bydd hyn yn rhoi i chi set hynod ddymunol o rinweddau fel unigolyn â gradd a fydd yn eich gosod ben ac ysgwyddau uwchlaw ymgeiswyr eraill yn y farchnad gyflogaeth.

Byddwch yn elwa o gymorth personol o safon uchel drwy sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach, gan sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi'n dda yn ystod eich datblygiad academaidd. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig yn sicrhau y caiff llais pob myfyriwr ei glywed, gan gyfrannu at ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran.  Hefyd, mae Cymdeithas Myfyrwyr Mathemateg Prifysgol Abertawe'n dod â myfyrwyr a staff ynghyd drwy ddigwyddiadau cymdeithasol ac academaidd rheolaidd, gan eich helpu chi i deimlo'n rhan o ddiwylliant myfyrwyr bywiog.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys y cyfle i ymgymryd â Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau fel UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapore, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Actiwaraidd

Gellir cymhwyso'r sgiliau a ddatblygwch drwy gydol y radd hon yn uniongyrchol i amrywiaeth eang o yrfaoedd.  Byddwch yn atgyfnerthu eich gallu i ddatrys problemau, eich rhesymu rhesymegol, eich gwybodaeth dechnegol, a’ch gallu i reoli prosiectau a gweithio mewn tîm – sydd oll yn rhinweddau a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr.

Mae gan ein Hadran Fathemateg Fwrdd Cynghori Diwydiannol gweithgar sy'n cynnig cyfleoedd cyflogadwyedd gwerthfawr i fyfyrwyr, gan gynnwys sgyrsiau am yrfaoedd a ffug gyfweliadau â'r nod o fagu hyder ac ymwybyddiaeth ddiwydiannol.

Yn aml bydd actiwarïaid yn mynd ymlaen i gael swyddi arweinyddiaeth ym meysydd yswiriant, pensiynau, buddsoddi a gwasanaethau ariannol. Nod penodol y rhaglen hon yw rhoi sylfaen gref ar gyfer gyrfa actiwaraidd, a gefnogir gan y cyfle i gael eich eithrio o hyd at chwech o arholiadau proffesiynol IFoA. Fel arfer bydd graddedigion yn dechrau drwy gymryd rhan mewn cynlluniau hyfforddai actiwaraidd, lle cânt eu cefnogi'n barhaus wrth iddynt ddatblygu mewn modd strwythuredig tuag at gymhwyso'n llawn.

Y tu hwnt i waith actiwaraidd, mae eich hyfforddiant mathemategol yn agor y drws i lwybrau gyrfa sy'n gysylltiedig â rheoli risg, gwyddor data, llywodraeth, bancio a chyllid. Mae galw mawr am raddedigion mathemateg ac fel arfer maent yn ennill cyflogau sydd oddeutu 50% yn uwch na graddedigion eraill yn gyffredinol, gan adlewyrchu gwerth eu sgiliau arbenigol, dadansoddol a thechnegol. 

Yn ddiweddar mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i gael swyddi gyda sefydliadau megis Barnett Waddingham, Ocado Retail, British Airways, Deutsche Bank, Awdurdodau Iechyd a Llywodraeth Leol, sy'n arddangos ehangder y cyrchfannau gyrfa sydd ar gael.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gwyddor Actiwaraidd, BSc (Anrh)

Gwyddor Actiwaraidd gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Gwyddor Actiwaraidd gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Gwyddor Actiwaraidd gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)