Ffiseg, BSc (Anrh) / MPhys (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Image

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Ffiseg yn cyfuno rhesymeg ddadansoddol a datrys problemau gan ddefnyddio iaith Mathemateg i ddeall y bydysawd. Mae ein rhaglenni Ffiseg yn berffaith ar gyfer y rhai hynny sydd ag awydd dwfn i ddeall sut mae popeth yn gweithio, o'r byd cwantwm isatomig i ehangder y cosmos.

Rydym yn falch o'n hymchwil ar ffiniau ffiseg ac yn ymdrechu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr, gydag amgylchedd cyffrous ar gyfer dysgu ac ymchwil. Caiff ein cwricwlwm ei lunio gan arbenigwyr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ar draws rhychwant eang o feysydd ymchwil sy'n amrywio o led-ddargludyddion, nanoffiseg a laserau, i ffiseg gwrth-fater, meysydd cwantwm a'r bydysawd cynnar.

Mae ein rhwydwaith helaeth o gydweithrediadau ymchwil, gan gynnwys mewn cyfleusterau ar raddfa fawr fel CERN, yn rhoi cyfleoedd cyffrous am brosiectau ac ymchwil.

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn datblygu ystod o sgiliau dadansoddol a datrys problemau, sydd â chymwysiadau eang ar draws disgyblaethau, a byddwch yn cael y cyfle i weithio ar brosiect uwch o dan oruchwyliaeth academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Gallwch ddewis astudio ein cwrs fel cwrs BSc am 3 blynedd neu MPhys am 4 blynedd, a cheir opsiynau i ddilyn Blwyddyn Sylfaen, Blwyddyn Dramor a Blwyddyn ym myd Diwydiant.

Pam Ffiseg yn Abertawe?

Mae'r adran Ffiseg yn Abertawe yn adran uchel ei pharch lle ceir academyddion o fri rhyngwladol.

Mae Ffiseg yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • 6ed safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • Ymysg yr 20 Uchaf yn y DU ar gyfer Profiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)

Eich Profiad Ffiseg

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn meithrin y ddealltwriaeth wyddonol a'r sgiliau meintiol a meddwl beirniadol sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau byd-eang gan gynnwys ynni, yr hinsawdd, iechyd ac arloesi. Byddwch yn dysgu sut mae meysydd sylfaenol ffiseg, megis thermodynameg, ffiseg ystadegol, electromagnetiaeth, a mecaneg gwantwm, yn sail i lawer o dechnolegau presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg sy'n hanfodol i nodau datblygu cynaliadwy.

Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau angenrheidiol i gynllunio a gweithredu ymchwiliadau a dadansoddi data, ac yn ogystal bydd cyfleoedd i ymgymryd â gwaith arbrofol mewn agweddau ymarferol neu arsylwadol ar ffiseg. Bydd gennych gyfleoedd hefyd i ymgymryd â phrosiectau ymchwil arloesol mewn perthynas â ffiseg ddamcaniaethol neu arbrofol, yn ogystal ag astroffiseg.

Gallwch ddewis astudio ein rhaglen BSc 3 blynedd, neu ein gradd Meistr Integredig MPhys 4 blynedd. Mae ein gradd Meistr Integredig yn rhaglen astudio estynedig, sy'n eich galluogi i astudio ffiseg ar lefel ddyfnach, a bydd yn datblygu agweddau allweddol ar y ddisgyblaeth fel y rhai arbrofol, mathemategol, cyfrifiadurol ac ymchwiliol.

Mae ein rhaglenni BSc ac MPhys yn cynnwys cyfleoedd i dreulio blwyddyn dramor, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae ein graddau BSc ac MPhys hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen BSc yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffiseg

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i ddechrau'n hyderus yn y gweithlu ar draws ystod eang o sectorau gan gynnwys ymchwil y llywodraeth, awyrofod, amddiffyn, ynni, peirianneg, addysg a'r sector preifat. Mae rolau i raddedigion Ffiseg yn cynnwys:

  • Ffisegydd Ymchwil
  • Gwyddonydd Data
  • Peiriannydd AI a Meddalwedd
  • Daroganwr Galw
  • Archwiliwr Patentau
  • Dadansoddwr Cyllid Meintiol

Gallwch hefyd fynd ymlaen i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil gydag amrywiaeth eang o arbenigeddau

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Ffiseg, BSc (Anrh)

Ffiseg, MPhys (Anrh)

Ffiseg gyda Blwyddyn Dramor, MPhys (Anrh)

Ffiseg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MPhys (Anrh)

Ffiseg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Ffiseg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Ffiseg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)