English Language and Linguistics, BA (Anrh)

Definition of ‘linguistics’ in a dictionary

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein BA mewn Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig archwiliad deinamig a chynhwysfawr o sut mae iaith yn gweithio, sut mae'n cael ei defnyddio a sut mae'n llywio ein bydoedd cymdeithasol a diwylliannol. Mae'r radd hon yn rhoi i chi’r sgiliau dadansoddol i ymchwilio i strwythur y Saesneg, o'i synau a'i gramadeg, i'r ystyron y mae'n eu cyfleu ar draws genres, cyweiriau a chyd-destunau byd go iawn.

Byddwch yn dysgu sut mae iaith yn cael ei chaffael, ei haddysgu a'i defnyddio mewn bywyd pob dydd, gyda phwyslais cryf ar ddimensiynau cymdeithasol, diwylliannol a moesegol cyfathrebu. Mae'r rhaglen hefyd yn mynd i'r afael â'r defnydd cyfrifol ac effeithiol o dechnolegau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys AI, mewn meysydd sy'n gysylltiedig ag iaith.

Drwy astudio testunau a disgwrs o'r byd go iawn, mae myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut mae dewisiadau ieithyddol yn adlewyrchu ystyr ac yn dylanwadu ar hynny. Bydd myfyrwyr yn graddio â sgiliau cyfathrebu, ymchwil a dadansoddol cryf, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn addysg, ym myd cyhoeddi, y cyfryngau, technoleg iaith, a’r tu hwnt.

Pam English Language and Linguistics yn Abertawe?

Pan fyddwch chi'n astudio ein BA Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth, byddwch yn astudio ar Gampws Parc Singleton, ein campws trawiadol sy'n edrych dros Fae Abertawe, ar gyrion Penrhyn Gŵyr, gyda mynediad at ein haddysgu a'n hymchwil o'r radd flaenaf.

Mae Ieithyddiaeth yn Abertawe yn y safleoedd canlynol mewn tablau cynghrair:

  • Yr 2il safle yn y DU am Ansawdd Addysgu (Times Good University Guide 2026)
  • Y 4ydd safle am Foddhad â'r Addysgu (Guardian University Guide 2026)

Eich Profiad English Language and Linguistics

Mae llawer o nodweddion ein cwrs BA Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth sydd wedi'u datblygu i wella eich profiad fel myfyriwr gyda ni yn Abertawe. Drwy gydol eich gradd, bydd gennych diwtor personol ymroddedig a fydd yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad academaidd a phersonol.

Yn ystod ail flwyddyn eich gradd, i hybu eich rhagolygon gyrfa gallwch ddewis astudio i ennill CELTA Caergrawnt, sef cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer addysgu Saesneg fel iaith dramor. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i elwa o Raglenni Lleoliad Gwaith Prifysgol Abertawe sy'n cynnig tair rhaglen yn y gweithle: Wythnos o Waith (WoW); Rhaglen Interniaethau â Thâl Abertawe (SPIN) a lleoliadau gwaith a ariennir gan Brifysgolion Santander. Ar ben hynny, ceir Academi Cyflogadwyedd Abertawe sy'n rhwydwaith ar gyfer cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr, yn amrywio o sgyrsiau a gweithdai cyflogwyr i ddigwyddiadau rhwydweithio dan arweiniad y myfyrwyr, er mwyn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys y cyfle i ymgymryd â Blwyddyn Dramor mewn lleoliadau, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. Fel arall, gallech dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl, sydd â chyflog gwerth mwy na £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Os oes angen, gellir cynnwys Blwyddyn Sylfaen ychwanegol yn y rhaglen hon, sy'n rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i fyd addysg uwch, sy'n meithrin y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen at Flwyddyn 1 eich gradd BA.

Cyfleoedd Cyflogaeth English Language and Linguistics

Mae ein graddedigion yn gyfathrebwyr hyderus, yn feddylwyr beirniadol ac yn ymchwilwyr medrus. Maent yn mynd ymlaen i yrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Addysg ac Addysgu
  • Cyhoeddi a'r Cyfryngau
  • Technoleg Iaith ac AI
  • Marchnata a Chyfathrebu
  • Rheoli Prosiectau a Pholisi

P'un a ydych chi'n angerddol am sut mae iaith yn dylanwadu ar gymdeithas, â diddordeb mewn gwyddor cyfathrebu, neu am ddilyn gyrfa mewn maes sy'n canolbwyntio ar iaith, bydd y radd hon yn rhoi'r adnoddau i chi lwyddo. Mae ein rhaglen yn mynd i'r afael yn benodol â llythrennedd digidol a'r defnydd moesegol o dechnolegau AI mewn ymarfer sy'n gysylltiedig ag iaith, gan eich paratoi ar gyfer cyd-destunau proffesiynol sy'n datblygu.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

English Language and Linguistics, BA (Anrh)

English Language and Linguistics with a Year Abroad, BA (Anrh)

English Language and Linguistics with a Foundation Year, BA (Anrh)

English Language and Linguistics with a Year in Industry, BA (Anrh)