Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn.
Ar ôl symud ymlaen o'r flwyddyn sylfaen, cewch gyfle i astudio ein rhaglen sydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol fel creawdwr a chyfathrebwr cynnwys chwaraeon proffesiynol ar draws y cyfryngau cyfathrebu chwaraeon cyfoes.
Datblygwyd y cwrs hwn i sicrhau y byddwch yn graddio fel creawdwr cynnwys chwaraeon galluog a chymwys, sy’n meddu ar sgiliau newyddiadurol, ac sy’n fedrus wrth greu a hyrwyddo cynnwys amlgyfrwng sy’n canolbwyntio ar chwaraeon, o bodlediadau i adroddiadau ar gemau ac o sylwebaeth chwaraeon i strategaethau cyfathrebu chwaraeon hyrwyddol.