Geowyddoniaeth Amgylcheddol, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Tephra Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd hon yn cynnig dealltwriaeth eang o ddaearyddiaeth, gan gyfuno themâu daeareg,  geowyddoniaeth, daearyddiaeth ffisegol a gwyddor amgylcheddol. Byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau gan gynnwys daeareg, mapio daearegol, folcanoleg, tectoneg platiau, newid yn yr hinsawdd, peryglon naturiol, llygredd, a rheoli arfordirol a thirol.

Mae geowyddoniaeth yn bwnc rhyngddisgyblaethol sy'n archwilio hanes daearyddol a daearegol y Ddaear ac yn ymchwilio i'r prosesau sydd wedi llunio'r blaned ers miliynau o flynyddoedd. Mae'r ddisgyblaeth yn rhychwantu popeth o'r is-wyneb i'r atmosffer, o rewlifoedd i’r anialwch, o goedwigoedd glaw i ficrobau yn y pridd, ac o bobl i'r tirweddau maen nhw'n byw ynddynt. Trwy'r ehangder hwn, mae geowyddoniaeth yn cyfrannu at fynd i'r afael â heriau byd-eang gyda chysylltiadau cryf â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol a dadansoddol cryf. Mae'r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant trylwyr mewn ysgrifennu, ystadegau a meddwl yn feirniadol, ochr yn ochr â gwaith labordy a gwaith maes pwnc-benodol sy'n eich galluogi i gymhwyso'ch dysgu mewn amgylcheddau go iawn.

Mae'r radd wedi'i chreu gyda geowyddonwyr y dyfodol mewn golwg. Mae strwythur wedi'i deilwra, gyda modiwlau wedi'u dewis ymlaen llaw, yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich diddordebau yn y ddisgyblaeth wrth hefyd ddarparu llwybr clir tuag at arbenigedd. Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau sy'n eich paratoi ar gyfer gyrfa, o ymchwilio gwyddonol i ddadansoddi data a datrys problemau.

Pam Geowyddoniaeth Amgylcheddol yn Abertawe?

Byddwch yn astudio mewn lleoliad naturiol trawiadol, gyda'n campws Parc Singleton yn edrych dros Fae Abertawe ac yn eistedd ar gyrion Penrhyn Gŵyr, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.

Byddwch yn ymuno ag adran sydd â boddhad myfyrwyr rhagorol a safleoedd pwnc cryf ar draws y Gwyddorau Amgylcheddol a Daearyddol.

  • Yn yr 20 safle uchaf yn y DU (Guardian University Guide 2026)
  • Ymhlith y 201-250 safle uchaf yn y byd am y Gwyddorau Amgylcheddol (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2025) 
  • 4ydd safle yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Agwedd Gadarnhaol Gyffredinol ar gyfer Daearyddiaeth Ddynol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025*)
  • 10fed yn y DU am Agwedd Gadarnhaol Gyffredinol ar gyfer y Gwyddorau Daearyddol Ffisegol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025*)

*Yn seiliedig ar y sgôr  gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol yng nghwestiynau 1-26 yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025, o'n cymharu ni â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Geowyddoniaeth Amgylcheddol

Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, tiwtorialau a dosbarthiadau ymarferol, gyda chyfleoedd ar gyfer gwaith maes sy'n eich helpu i gymhwyso'r hyn rydych chi'n ei astudio mewn amgylcheddau yn y byd go iawn. O weithgareddau ymarferol i ddysgu yn yr awyr agored, mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch helpu i fagu hyder a phrofiad ar draws ystod eang o bynciau amgylcheddol.

Mae gwaith maes yn rhan bwysig o'r cwrs, a byddwch yn archwilio ystod o dirweddau lleol i gefnogi eich astudiaethau. Gan ddibynnu ar eich modiwlau, gall hyn gynnwys lleoliadau fel Penrhyn Gŵyr, Bannau Brycheiniog a Sir Benfro. Wrth i chi symud i'ch ail a'ch trydedd flwyddyn, efallai y cewch gyfleoedd i ymuno â chyrsiau maes preswyl. Mae’r teithiau blaenorol wedi cynnwys yr Almaen, Gwlad yr Iâ a Chanada, er y gall y teithiau amrywio bob blwyddyn.

Byddwch hefyd yn rhan o gymuned myfyrwyr gyfeillgar a gweithgar. Mae myfyrwyr y Gwyddorau Amgylcheddol yn aml yn cymryd rhan mewn cymdeithasau fel y GeogSoc a’r Gymdeithas Geowyddorau, sy'n cynnal cymysgedd o weithgareddau trwy gydol y flwyddyn. Gallai'r rhain gynnwys glanhau’r traeth, plannu coed, cwisiau, sesiynau Parkrun, teithiau maes lleol a digwyddiadau cymdeithasol, ac mae pob un o’r rhain yn ffordd wych o ymgartrefu, gwneud ffrindiau a chymryd rhan.

Gallwch hefyd ddewis cymryd Blwyddyn Dramor i brofi diwylliant gwahanol wrth wella eich dysgu. Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn opsiwn arall, yn y DU neu dramor, lle byddwch yn ennill profiad gwaith gwerthfawr. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd; mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Os ydych chi'n siarad Cymraeg mae gennych hefyd yr opsiwn i astudio rhannau o'r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Geowyddoniaeth Amgylcheddol

Mae'r radd hon yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi y mae cyflogwyr yn y sectorau amgylcheddol a daearyddol yn chwilio amdanynt. Mae ein cynlluniau gradd Daearyddiaeth wedi'u creu gyda phriodoleddau graddedigion mewn golwg, ac mae eich modiwlau yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant sgiliau pwnc-benodol sy'n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys profiad gydag offer fel Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, gyda chymwysiadau mewn meysydd fel technolegau ynni gwyrdd. Mae gwaith maes hefyd yn  rhan bwysig o’r cwrs, gan roi profiad ymarferol i chi o ddatblygu prosiectau, meithrin sgiliau cyfathrebu a gweithio fel rhan o dîm mewn amgylcheddau ac amodau amrywiol.

Trwy gydol y cwrs, byddwch hefyd yn ymweld â sefydliadau partner ar deithiau maes, sy'n rhoi golwg agosach i chi ar sut y gallai eich gyrfa ddatblygu yn y dyfodol. Gall yr ymweliadau hyn gynnwys llefydd fel Theatr y Grand, y Glynn Vivian, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Canolfan Gwlyptir WWT Llanelli neu'r Gymuned Garbon, gan ddibynnu ar y modiwl. Maent yn ffordd wych o weld sut mae sgiliau amgylcheddol yn berthnasol mewn gwahanol weithleoedd ac i ddechrau magu hyder ac ymwybyddiaeth broffesiynol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ymuno â seminarau ymchwil adrannol, gan eich helpu i archwilio dadleuon cyfredol yn y ddisgyblaeth ac ystyried llwybrau yn y dyfodol fel astudiaethau ôl-raddedig.

Mae'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn cynnal ffair gyflogwyr flynyddol sy'n cynnwys sefydliadau sy'n berthnasol i raddedigion Daearyddiaeth, gan roi cyfleoedd i chi rwydweithio, dysgu am lwybrau gyrfa, a darganfod lleoliadau gwaith neu swyddi ar gyfer graddedigion.

Ar ôl i chi raddio, byddwch yn barod ar gyfer gyrfaoedd mewn llawer o wahanol feysydd. Gallai'r rhain gynnwys:

  • Y Geowyddorau Amgylcheddol
  • Y Sector Daeareg
  • Addysg
  • Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus
  • Busnes ac ymgynghori
  • Ymchwil a dadansoddi

Bydd eich gradd yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau ymarferol, dadansoddol a datrys problemau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, gan roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer pa bynnag gyfeiriad rydych chi'n dewis ei gymryd.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Geowyddoniaeth Amgylcheddol, BSc (Anrh)

Geowyddoniaeth Amgylcheddol gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Geowyddoniaeth Amgylcheddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)