Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein BSc mewn Daearyddiaeth tair blynedd yn cynnig dealltwriaeth eang, wedi'i llywio gan ymchwil, o'r byd o'n cwmpas. Byddwch yn archwilio themâu ar draws daearyddiaeth ddynol, daearyddiaeth ffisegol, gwyddor amgylcheddol a daeareg, gan roi'r hyblygrwydd i chi lunio'ch dysgu daearyddol mewn ffordd sy'n adlewyrchu eich diddordebau a'ch dyheadau.
Byddwch yn astudio themâu byd-eang allweddol fel newid yn yr hinsawdd, peryglon naturiol, llygredd, daearyddiaeth drefol a gwledig, rheoli arfordiroedd, a daearyddiaeth wleidyddol ac economaidd. Drwy gydol y radd, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau gwerthfawr mewn ysgrifennu, dadansoddi data, ystadegau, meddwl yn feirniadol, technegau labordy a dulliau maes.
Mae ein rhaglen hyblyg yn caniatáu ichi deilwra modiwlau i gyd-fynd â'ch nodau academaidd a gyrfaol. Bydd gennych chi gyfleoedd i arbenigo, gweithio ar heriau'r byd go iawn, a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i’ch helpu chi i fynd i'r afael â materion sy'n amrywio o anghydraddoldeb byd-eang a phwysau ar adnoddau i danau gwyllt a llygredd plastig.
Darperir yr addysgu gan staff sydd wrthi’n gwneud gwaith ymchwil ac sy'n dod â'u harbenigedd a'u brwdfrydedd i'r ystafell ddosbarth. Bydd eich dysgu’n gymysgedd o ddarlithoedd, sesiynau labordy a TG ymarferol, tiwtorialau a gwaith maes ymarferol. Bydd asesiadau’n adlewyrchu’r sgiliau amrywiol y mae eu hangen mewn gyrfaoedd daearyddol modern, gan gynnwys dadansoddi rhanddeiliaid, cyflwyniadau, podlediadau, adroddiadau labordy, llyfrau gwaith maes a gwaith academaidd mwy traddodiadol.