Ffiseg gyda Ffiseg Gronnynau a Chosmoleg, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
String theory

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ffiseg yn cyfuno rhesymeg ddadansoddol a datrys problemau gan ddefnyddio iaith Mathemateg i ddeall y bydysawd. Mae ein rhaglenni Ffiseg yn berffaith i'r rhai hynny sydd â dyhead dwfn i ddeall sut mae popeth yn gweithio, o'r byd cwantwm isatomig i ehangder y cosmos. Mae ein gradd BSc Ffiseg, Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg yn mynd i'r afael â'r cwestiynau ffisegol mwyaf sylfaenol am flociau adeiladu mater a tharddiad y cosmos.

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn ymchwilio i gysyniadau ffisegol sylfaenol a thechnegau mathemategol i ddysgu am y byd cwantwm a'i berthynas â'r cosmos, gyda phynciau arbenigol gan gynnwys Seryddiaeth ac Astroffiseg, Disgyrchiant a Chosmoleg, Gwybodaeth Gwantwm, Ffiseg Niwclear a Ffiseg Gronynnau Uwch.

Rydym yn falch o'n hymchwil ar flaen y gad ym maes ffiseg ac yn ymdrechu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr, gydag amgylchedd cyffrous ar gyfer dysgu ac ymchwil. Caiff ein cwricwlwm ei lunio gan arbenigwyr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ar draws rhychwant eang o feysydd ymchwil sy'n amrywio o led-ddargludyddion, nanoffiseg a laserau, i ffiseg gwrth-fater, meysydd cwantwm a'r bydysawd cynnar. Mae ein rhwydwaith helaeth o gydweithrediadau ymchwil, gan gynnwys mewn  cyfleusterau ar raddfa fawr fel CERN, yn rhoi cyfleoedd prosiect ac ymchwil cyffrous.

Pam Ffiseg gyda Ffiseg Gronnynau a Chosmoleg yn Abertawe?

Mae adran Ffiseg Abertawe yn adran uchel ei pharch, gydag academyddion o fri rhyngwladol.

Mae Ffiseg yn Abertawe yn y safleoedd canlynol mewn tablau cynghrair:

  • Yn y 6ed safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 20fed safle am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-250 o raglenni gorau o'i bath yn y byd  (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)

Eich Profiad Ffiseg gyda Ffiseg Gronnynau a Chosmoleg

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn ennill y ddealltwriaeth wyddonol, y sgiliau meintiol, a'r meddwl beirniadol sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau byd-eang gan gynnwys ynni, hinsawdd, iechyd ac arloesedd. Byddwch yn dysgu sut mae meysydd sylfaenol ffiseg, fel thermodynameg, ffiseg ystadegol, electromagnetiaeth, a mecaneg gwantwm, yn sail i lawer o dechnolegau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg sy'n hanfodol i nodau datblygu cynaliadwy. 

Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau sy'n angenrheidiol i gynllunio a chynnal ymchwiliadau a dadansoddi data, gyda chyfleoedd pellach i ymgymryd â gwaith arbrofol yn yr agweddau ymarferol neu arsylwadol ar ffiseg. Bydd gennych hefyd gyfleoedd i ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar flaen y gad ym maes ffiseg ddamcaniaethol neu arbrofol, yn ogystal ag astroffiseg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffiseg gyda Ffiseg Gronnynau a Chosmoleg

Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd gennych y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i ymuno â'r gweithlu yn hyderus ar draws ystod eang o sectorau gan gynnwys ymchwil y llywodraeth, awyrofod, amddiffyn, ynni, peirianneg, addysg a'r sector preifat. Mae rolau arferol i raddedigion yn cynnwys:

  • Ffisegydd Ymchwil
  • Gwyddonydd Data
  • Peiriannydd Meddalwedd a Deallusrwydd Artiffisial
  • Daroganwr Galw
  • Archwilydd Patentau
  • Dadansoddwr Cyllid Meintiol

Gallwch hefyd fynd ymlaen i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil gydag amrywiaeth eang o arbenigeddau.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Ffiseg gyda Ffiseg Gronnynau a Chosmoleg, BSc (Anrh)